Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru, i sicrhau bod pobl sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno’n gyflym pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
Os ydych chi eisiau siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi'n poeni am aelod o'r teulu, ffoniwch GIG 111 Cymru a dewis opsiwn 2 i gael eich cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl professiynol yn eich ardal.
Gallwch ffonio am ddim o linell ffôn neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl.
Croesawir galwadau yn Gymraeg.
Ffoniwch 111 os oes angen y canlynol arnoch:
- Cymorth meddygol brys, ond nid yw’n argyfwng 999
- Rydych chi'n meddwl bod angen i chi fynd i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys neu mae angen gwasanaeth gofal brys arall y GIG arnoch
- Nid ydych chi’n gwybod pwy i'w ffonio neu nid oes gennych feddyg teulu y gallwch ei ffonio
- Mae angen gwybodaeth iechyd neu sicrwydd am yr hyn i'w wneud nesaf
Gall ymgynghorwyr 111:
- Roi cyngor meddygol
- Eich cysylltu â meddyg teulu lleol sy'n darparu gwasanaeth y tu allan i oriau
- Eich cyfeirio at ddeintydd brys
- Eich cysylltu â gwasanaethau cymorth iechyd meddwl
- Eich cyfeirio at adran damweiniau ac achosion brys – gallant hyd yn oed alw am ambiwlans ar eich rhan