Mae dy lythyr DSA2 yn cadarnhau pa gymorth a chyfarpar y bydd dy DSA yn eu hariannu. Mae'n bwysig dy fod yn darllen y llawlyfr hwn yn ofalus, oherwydd dy fod yn gyfrifol am drefnu dy gymorth.
Adran 1 - Lwfans Offer Arbenigol
Mae'r adran hon yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn archebu cyfarpar neu dechnoleg gynorthwyol y mae corff ariannu wedi'u hargymell a'u cymeradwyo.
Bydd angen i ti gysylltu â'r cyflenwr gan ddefnyddio'r manylion cyswllt (rhif ffôn a/neu gyfeiriad e-bost fel arfer) a dyfynnu'r rhif a roddwyd.
Bydd y cyflenwr yn gofyn i ti anfon copi o'r llythyr DSA2 ato, a hefyd bydd yn gofyn am fanylion am le i ddanfon y cyfarpar a bydd yn cadarnhau dyddiad danfon.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr a ariennir drwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr gyfrannu £200 tuag at gost offer cyfrifiadurol. Gallai fod cymorth ar gael drwy Wobr Cyfle Prifysgol Abertawe.
Adran 2 - Lwfans Cynorthwywyr Anfeddygol
Mae'r adran hon yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn dechrau cymorth personol y mae'r corff ariannu wedi'i argymell a'i gymeradwyo.
Bydd angen i ti gysylltu â phob cyflenwr yn unigol er mwyn sefydlu dy gymorth. Os nad wyt ti'n fodlon ar y cyflenwr y mae'r corff ariannu wedi'i ddethol, dylet ti gysylltu â dy asesydd anghenion.
Os bydd Prifysgol Abertawe wedi'i rhestru fel cyflenwr ar gyfer:
Adran 3 - Lwfans Cyffredinol
Mae'r adran hon yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn hawlio treuliau ychwanegol y mae'r corff ariannu wedi'u hargymell a'u cymeradwyo, er enghraifft inc a phapur.
Bydd angen i ti gadw derbynebau ar gyfer eitemau rwyt ti wedi'u prynu y gellir eu had-dalu. Dylet ti gwblhau ffurflen hawlio ad-daliad, atodi dy dderbynebau ac anfon hyn at y corff ariannu priodol drwy'r post neu e-bost, yn unol â'r manylion ar y llythyr.
Lawrlwytho ffurflenni ad-dalu ar gyfer Cyllid Myfyrwyr Lloegr
Lawrlwytho ffurflenni ad-dalu ar gyfer Cyllid Myfyrwyr Cymru
Adran 4 - Lwfans Teithio
Mae'r adran hon yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen er mwyn hawlio costau teithio ychwanegol o ganlyniad i anabledd y mae'r corff ariannu wedi'u hargymell a'u cymeradwyo.
Bydd dy lythyr DSA2 yn manylu ar nifer y teithiau cymeradwy rhwng mannau disgyn a mannu casglu penodol.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gyfrannu at gost y daith, a bydd y llythyr yn nodi'r swm i'w gyfrannu. Mae dau opsiwn ar gael:
- Os yw nifer y teithiau achlysurol wedi'u hargymell yn fach, efallai y byddi di am dalu gyrrwr y tacsi'n uniongyrchol a chael derbynneb er mwyn hawlio'r gost y cytunwyd arni gan dy gorff ariannu gan ddefnyddio'r ffurflenni ad-dalu priodol drwy'r ddolen uchod.
- Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru a Chyllid Myfyrwyr Lloegr hefyd yn rhoi opsiwn i sefydlu cyfrif gyda chwmni tacsi a fydd yn anfonebu'r corff ariannu'n uniongyrchol. Gellir cael gafael ar ffurflenni cais am gyfrif tacsi drwy'r corff ariannu perthnasol.