Y Gwasanaeth Anableddau sy'n rheoli'r Cynllun Cymryd Nodiadau a Gweithiwr Cymorth. Mae cymorth cymryd nodiadau wedi bod ar gael am flynyddoedd maith, a bellach mae wedi tyfu i ddiwallu anghenion y gymuned gynyddol o fyfyrwyr anabl.
Os oes angen gwasanaeth cymryd nodiadau neu weithiwr cymorth arnoch chi ac mae hyn wedi'i argymell fel rhan o'ch Asesiad Anghenion, mae'n hanfodol eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosib.
Sut gall y Cynllun Cymryd Nodiadau a Gweithiwr Cymorth eich helpu chi?
- Cymorth Cymryd Nodiadau - bydd eich cynorthwy-ydd Cymryd Nodiadau'n mynychu darlithoedd ac yn cymryd nodiadau cywir a chynhwysfawr a gaiff eu hanfon atoch drwy e-bost o fewn 48 awr ar ôl y ddarlith, y seminar neu'r tiwtorial. Caiff nodiadau eu hysgrifennu â llaw neu eu teipio yn y fformat a'r arddull a ddewisir gan y myfyriwr.
- Cynorthwy-ydd Golwg - bydd yn darparu cymorth golwg i fyfyrwyr â nam ar eu golwg i'w helpu i ddod yn gyfarwydd â chynllun y campws. Yn darparu cymorth symudedd personol i fyfyriwr â nam ar y golwg i'w helpu i lywio ei ffordd ar y campws. Mae'n cwrdd â'r myfyriwr mewn lleoliad cytunedig ar y campws ac yn mynd gydag ef i'w ddarlith.
- Cynorthwy-ydd Labordy/Gweithdy - Yn darparu cymorth i fyfyrwyr yn amgylchedd y labordy. Mae'n cynorthwyo'r myfyriwr i gynnal a pharatoi arbrofion dan gyfarwyddyd y myfyriwr. Gan ddilyn cyfarwyddiadau’r myfyriwr, bydd yn paratoi deunyddiau a sbesimenau labordy, yn paratoi samplau i'w profi dan gyfarwyddyd, yn mynd i nôl cyfarpar labordy ac yn ei gludo.
- Darllenwr/Copïwr - Yn darparu cymorth darllen i fyfyrwyr. Mae’n darllen testunau academaidd yn uchel i'r myfyriwr neu yn eu darllen a'u recordio. Mae’n darllen gwaith yn ôl i'r myfyriwr ac yn cynorthwyo gyda phrawf-ddarllen.
- Cynorthwy-ydd Cymorth Ymarferol - Bydd y rôl hon yn helpu myfyrwyr i drefnu eu hastudiaethau a'u llwyth gwaith ac yn cynorthwyo myfyrwyr i reoli eu hamser, er enghraifft, amserlennu a pharatoi ar gyfer arholiadau. Gall y Cynorthwy-ydd Cymorth Ymarferol gefnogi'r myfyriwr drwy gario llyfrau/bagiau a chario cyfarpar.
E-bost: notetaking@abertawe.ac.uk