Amdanom ni

Creu graddedigion cyflogadwy

Roedd 95% o'n graddedigion yn gweithio a/neu'n dilyn astudiaethau pellach, neu'n gwneud gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023).

Mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth ddewis pa raddedigion i'w cyflogi. Bydd ennill profiad a datblygu sgiliau yn ystod dy amser yma yn y brifysgol yn rhoi mantais gystadleuol i ti. Rydyn ni'n helpu i gefnogi ein myfyrwyr i fagu'r sgiliau a'r hyder i gael gyrfaoedd gwobrwyol sy'n rhoi boddhad.

Gall ein tîm arobryn dy helpu di o ran y canlynol:

  • Cael gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd diduedd ynghylch gyrfaoedd gan ymgynghorwyr gyrfaoedd cymwys
  • Dod o hyd i interniaeth, lleoliad gwaith, swydd ran-amser, swydd raddedig neu rôl wirfoddol
  • Dy gysylltu â chyflogwyr drwy ein ffair yrfaoedd, digwyddiadau cyflogwyr a sesiynau a rhaglenni hyfforddi sgiliau
  • Datblygu dy CV, dy sgiliau cyfweliad a dy ymwybyddiaeth fasnachol/bersonol
  • Cael cydnabyddiaeth yn dy Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch ar ôl cwblhau'r Cwrs Datblygu Gyrfa
  • Cael gafael ar fwrsariaethau cyflogadwyedd i helpu i dalu am gostau sy'n gysylltiedig â chyflogadwyedd megis teithio i gyfweliadau am swyddi, cyfarpar i weithio o bell, dillad busnes a phethau tebyg

Wedi graddio eisoes?

Mae ein tîm o arbenigwyr yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ynghylch graddio nes i ti raddio ac ar ôl hynny! A thithau'n un o gyn-fyfyrwyr Abertawe, byddwn ni yma i ti pan fyddi di'n barod i gymryd cam nesaf dy yrfa.

Wyt ti'n ystyried dechrau busnes?

Rydyn ni'n gwybod nad yw pob myfyriwr yn dewis swydd draddodiadol. Os oes gennyt syniad am fusnes neu fenter gymdeithasol, neu os oes gennyt ddiddordeb mewn gwaith llawrydd, mae'r Tîm Menter ar gael i dy helpu di.

Cysylltu â ni:

Er mwyn cysylltu â ni, a wnei di e-bostio employability@abertawe.ac.uk

Mae ein derbynfa ar agor Dydd Llun i ddydd Gwener (10am-4pm):

Abaty Singleton, Bloc y Stablau

Prifysgol Abertawe

Parc Singleton

Abertawe SA2 8PP