Cyngor cyffredinol
Mae'r wefan TARGETjobs yn cynnwys adran gynhwysfawr am faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth i chi chwilio am swydd ar ôl graddio, gan gynnwys anabledd ac iechyd meddwl, ynghyd â chyngor a dolenni i wybodaeth am:
- Ddeddfwriaeth cydraddoldeb
- Datgelu anabledd mewn ceisiadau am swyddi
- Dod o hyd i gyflogwyr sy'n ystyriol o anableddau
Cymorth a'ch Hawliau yn y Gweithle
- Mynediad i Waith - https://www.gov.uk/access-to-work
Gallwch fod yn gymwys i dderbyn cymorth ychwanegol i wneud y gweithle'n hygyrch i chi, drwy Fynediad i Waith a ddarperir drwy'r Llywodraeth neu gallai eich cyflogwr ei ddarparu. - Cymorth a'ch Hawliau yn y Gweithle - https://www.gov.uk/browse/disabilities/work
Mae'r Llywodraeth wedi creu adnodd sy'n rhoi trosolwg o'r cymorth sydd ar gael i weithwyr ag anableddau. - Disability Rights UK- https://www.disabilityrightsuk.org/careers-and-work-disabled-people
Mae Disability Rights UK wedi llunio nifer o daflenni ffeithiau, gan gynnwys un am gyflogaeth sy'n cynnwys gwybodaeth am eich hawliau yn y gweithle a sut i gael cyngor priodol ar yrfaoedd. - Ymddiriedolaeth Shaw - https://www.shaw-trust.org.uk/
Mae Ymddiriedolaeth Shaw yn gweithio i wella canlyniadau cyflogaeth ar gyfer pobl â chyflyrau iechyd ac anableddau. - TARGETjobs - https://targetjobs.co.uk/
Ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth wrth chwilio am swydd ac yn y gweithle.
Cyfleoedd Cyflogaeth a Recriwtio ar gyfer Pobl Anabl
- Rhaglen Cyflawni drwy Brofiad Gwaith Go Wales - https://www.swansea.ac.uk/sea/gowales/
Mae'r Rhaglen Cyflawni drwy Brofiad Gwaith yn fenter a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop er mwyn creu cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr a allai wynebu rhwystrau i gael profiad gwaith. Os oes anabledd gennych ac rydych dan 25 oed ac mewn addysg amser llawn, gallech fod yn gymwys am y cynllun hwn. - Cynllun Change 100 Cymdeithas Leonard Cheshire - https://www.leonardcheshire.org/what-we-can-do-you/working/employment-support-and-internships/internships-students-and-graduates
Nod y cynllun Change 100 yw dileu'r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl yn y gweithle drwy gynnig lleoliadau gwaith gyda sefydliadau blaenllaw. Mae'r cynllun hwn ar gael i fyfyrwyr anabl yn eu blwyddyn olaf neu'r flwyddyn olaf ond un yn y brifysgol neu'r rhai sydd wedi graddio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. - My Plus Students’ Club - https://myplusstudentsclub.com/
Mae My Plus Students Club yn wefan gyrfaoedd ar gyfer graddedigion ag anableddau. Ei nod yw annog cyflogwyr i feithrin hyder ym mhob agwedd ar recriwtio a chyflogi pobl anabl. - EmployAbility - https://www.employ-ability.org.uk/
Mae EmployAbility yn darparu cyfleoedd a chyngor i fyfyrwyr a graddedigion anabl a dyslecsig. - Incluzy - https://incluzy.com/
Gwefan cyflogaeth gynhwysol ar gyfer pobl niwroamrywiol. - Exceptional Individuals - https://exceptionalindividuals.com/
Partneriaeth cyflogaeth ar gyfer pobl ddyslecsig a niwroamrywiol. - Disability Jobsite - https://www.disabilityjobsite.co.uk/
Mae Disability Jobsite yn helpu pobl ag anabledd i gymryd rhan yn llawn mewn cyflogaeth ac mae'n chwarae rôl bwysig wrth gefnogi pobl ag anabledd ar y llwybr i waith. - VERCIDA - https://www.vercida.com/uk
Gwefan gyrfaoedd sy'n gweithio gyda chyflogwyr sy'n rhoi pwyslais mawr ar gynhwysiant ac amrywiaeth yn y gweithle. - Evenbreak - https://www.evenbreak.co.uk/en
Menter gymdeithasol a sefydlwyd â'r nod o alluogi ymgeiswyr anabl dawnus i ddod o hyd i gyflogwyr cynhwysol. - City Disabilities - http://citydisabilities.org.uk/
Mae'r sefydliad hwn yn cefnogi myfyrwyr sydd am ymuno â phroffesiynau yn Llundain, ac sydd ag anableddau neu gyflyrau meddygol sy'n effeithio ar eu bywydau gwaith. - BBC Extend Hub - https://www.bbc.co.uk/careers/trainee-schemes-and-apprenticeships/extend/extend
Fel rhan o'u hymrwymiad i gynyddu nifer y bobl anabl sy'n gweithio i'r BBC, sefydlwyd yr Extend Hub i fod yn borth recriwtio doniau ar gyfer pobl anabl. - Rhaglen Interniaethau Haf Amrywiaeth y Gwasanaeth Sifil - https://www.faststream.gov.uk/summer-diversity-internship-programme/
Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i bobl o gefndiroedd amrywiol gael rhagflas ar yrfa yn y Gwasanaeth Sifil.