Does dim rhaid ffarwelio pan fyddwch chi'n graddio!
Wyddech chi y gallwch chi, ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, gael mynediad at gymorth gydol oes ynghylch gyrfaoedd a chyflogadwyedd?
Os ydych chi ar fin graddio ac yn ansicr beth i'w wneud â'ch gradd, neu os graddioch yn ddiweddar ac yn cael trafferthion wrth fynd i’r afael â’r farchnad swyddi, rydyn ni yma i'ch cefnogi!
Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth parhaus ynghylch gyrfaoedd a chyflogadwyedd i'n cymuned o gyn-fyfyrwyr, ni waeth pryd graddioch chi. Efallai eich bod wedi colli eich swydd neu'n ystyried newid cyfeiriad yn eich gyrfa ond mae angen ychydig o arweiniad arnoch chi; rydyn ni yma o hyd i chi!
Gallwn eich helpu i wneud y canlynol:
- Cael mynediad at ein Cwrs Datblygu Gyrfa i Raddedigion – rhaglen hunangyfeiriedig ar-lein i feithrin eich sgiliau parodrwydd i weithio, rhoi hwb i'ch hyder a meithrin gwytnwch, gan eich helpu i fynd i’r afael â’r broses recriwtio a sicrhau swydd i raddedigion.
- Cael mynediad at Dîm Cymorth i Raddedigion ymroddedig sydd wrth law i gynnig cyngor personol ar yrfaoedd i'ch cefnogi i gynllunio'ch camau nesaf a theilwra eich chwiliad am swydd.
- Cael mynediad at raglen o hyfforddiant a digwyddiadau byw ac ar alw, gan gynnwys ein Ffair Yrfaoedd flaenllaw flynyddol ac amrywiaeth o gyrsiau sgiliau technegol a sgiliau trosglwyddadwy.
- Cael mynediad i ymgeisio am fwrsariaethau cyflogadwyedd*, i'ch cefnogi gyda gweithgarwch sy'n gysylltiedig â chyflogadwyedd.
- Cael mynediad at interniaethau wedi'u hariannu'n llawn*. Rhoi cyfle i chi ddangos eich sgiliau i gyflogwyr, ac archwilio eich opsiynau, wrth lunio eich CV a magu eich hyder.
* Cyllid cyfyngedig sydd ar gael; bydd ceisiadau'n cael eu hasesu a'u hadolygu yn erbyn meini prawf penodol. Siaradwch ag aelod o'r tîm i gael rhagor o wybodaeth.
Sut i gymryd rhan?
Cofrestrwch eich diddordeb neu, i gael rhagor o wybodaeth, cwblhewch ein Ffurflen Mynegi Diddordeb yn y Rhaglen Cymorth i Raddedigion.
Cofrestrwch