Mae gradd ôl-raddedig yn gymhwyster lefel uwch a fydd yn datblygu eich gwybodaeth ymhellach mewn maes pwnc penodol. Fel arfer mae'n rhaid eich bod wedi cwblhau gradd israddedig cyn y gallwch barhau i astudio ar lefel ôl-raddedig.
Fel arfer, rhennir astudiaethau ôl-raddedig yn ddau faes eang; rhaglenni a addysgir ac ymchwil.
Pam dewis astudiaethau ôl-raddedig?
Gall astudio ar lefel ôl-raddedig fod yn brofiad buddiol iawn os byddwch yn dilyn y cwrs cywir am y rhesymau cywir.
Gall astudiaethau ôl-raddedig:
- Fod yn hanfodol ar gyfer rhai meysydd gyrfa fel addysgu, gwaith cymdeithasol, meddygaeth a llawer o rai eraill
- Arwain at yrfa mewn ymchwil ac addysgu academaidd
- Eich helpu i sefyll allan yn y farchnad swyddi
- Eich helpu i newid cyfeiriad eich gyrfa
Wrth i chi ystyried astudiaethau ôl-raddedig, byddwch yn sicr ynghylch beth rydych eisiau ei astudio, y rhesymau pam, a sut y bydd hyn yn cyd-fynd â'ch cynlluniau gyrfa.
Sut gall Academi Cyflogadwyedd Abertawe helpu i gefnogi fy nhaith astudio ôl-raddedig?
Mae gan ein Cwrs Datblygu Gyrfa lawer o fodiwlau a allai fod o gymorth wrth gynllunio eich gyrfa a thrwy gydol y broses ymgeisio ôl-raddedig.
Rhowch gynnig ar unedau canlynol y Cwrs Datblygu Gyrfa am ragor o wybodaeth ac arweiniad: Ffurflenni Cais A Datganiadau Personol a Opsiynau Gyrfa.
Mae ein Hymgynghorwyr Gyrfa arbenigol hefyd ar gael ar gyfer apwyntiadau un-i-un i'ch helpu chi ar eich taith astudio ôl-raddedig. P'un a ydych yn chwilio am arweiniad ar ba brifysgol i wneud cais amdani, y broses ymgeisio ôl-raddedig neu'ch camau nesaf tra byddwch yn astudio eich gradd meistr, rydym yma i chi.