Mae gwneud cais am gwrs ôl-raddedig yn cymryd amser ac ymdrech. Dysgwch fwy isod am sut a phryd i wneud cais, a beth i'w gynnwys yn eich cais.
Gwneud cais i astudio ar lefel ôl-raddedig
Sut i wneud cais i astudio ar lefel ôl-raddedig?
Yn wahanol i raddau israddedig, yn y rhan fwyaf o achosion, pan fyddwch yn gwneud cais am gwrs ôl-raddedig gallwch gyflwyno cais yn uniongyrchol i'r brifysgol unigol. Bydd gan bob sefydliad ei system ymgeisio bwrpasol ei hun y bydd angen i chi ei chwblhau. Mae rhai eithriadau i hyn, fel hyfforddiant athrawon, ymhlith eraill.
Pryd i wneud cais am astudiaethau ôl-raddedig?
Mae rhai sefydliadau'n pennu terfynau amser penodol ar gyfer cyrsiau, tra bod eraill yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, mae'n ddoeth i wneud cais cyn gynted ag y gallwch. Gall rhai cyrsiau fod yn gystadleuol iawn, ac efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno portffolio, trawsgrifiad academaidd, cael cyfweliad neu roi cyflwyniad, fel rhan o'r broses ymgeisio.
Beth i'w ymchwilio cyn i chi wneud cais?
Darganfyddwch gymaint ag y gallwch am y cwrs cyn gwneud cais. Cofiwch fod pob prifysgol yn wahanol, a bydd cynnwys y cwrs, a’r dulliau addysgu ac asesu yn amrywio'n fawr.
Cysylltwch â phrifysgolion unigol i ddysgu mwy am eu cyrsiau a siaradwch â thimau derbyn i gael gwybodaeth am y brifysgol a'r cwrs. Efallai y byddwch hefyd eisiau meddwl am:
- Faint o oriau addysgu sy’n cael eu cynnig? Faint o amser cyswllt y gallaf ei ddisgwyl?
- Beth yw'r gofynion mynediad?
- Pa fath o asesu y gallaf ei ddisgwyl?
- Pa mor gystadleuol yw'r lleoedd ar y cwrs hwn? Beth yw maint y garfan?
- A oes angen i mi dalu cost ymgeisio cychwynnol?
- Pa gyllid sydd ar gael? A oes bwrsariaethau ac ysgoloriaethau ar gael sy’n benodol i'r brifysgol dan sylw?
- A yw'r cwrs wedi'i achredu gan gorff proffesiynol?
- Pa gysylltiadau â diwydiant/cyflogwyr sydd gan y cwrs/prifysgol?
- Pa gymorth cymdeithasol a lles sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig?
- Ar ba drywyddau mae myfyrwyr ôl-raddedig blaenorol wedi mynd ar ôl eu hastudiaethau?
- A oes man astudio ôl-raddedig penodol?
Beth i'w gynnwys yn eich cais?
Bydd hyn yn amrywio o gwrs i gwrs, ac efallai y bydd gan wahanol brifysgolion ofynion gwahanol. Yn gyffredinol, bydd angen i chi gyflwyno datganiad personol. Dylai hyn roi manylion ynghylch pam yr hoffech astudio'r cwrs penodol, unrhyw sgiliau a phrofiad perthnasol a'ch cynlluniau gyrfa ar gyfer y dyfodol. Mae cymorth ar lunio datganiad personol ar gael drwy'r uned 'Ffurflenni Cais a Datganiadau Personol' yn ein Cwrs Datblygu Gyrfa.
Efallai y bydd angen i chi hefyd gynnwys:
- Eich CV
- Portffolio
- Cynnig ymchwil
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol hefyd ddarparu:
- Copi o'ch pasbort
- Tystiolaeth o’ch gallu ieithyddol
Geirdaon; Pwy i ofyn iddo?
Mae geirdaon yn helpu i greu darlun o bob ymgeisydd. Ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau, bydd angen i chi ddarparu dau eirda academaidd.
Wrth ystyried pwy i ofyn iddo, dewiswch ddarlithwyr, goruchwylwyr neu diwtoriaid rydych chi wedi dod i'w hadnabod trwy astudio'ch gradd. Byddant yn gallu darparu gwybodaeth bersonol am eich perfformiad academaidd a'ch addasrwydd ar gyfer y cwrs rydych yn gwneud cais amdano.
Os nad ydych yn gallu darparu dau eirda academaidd, os ydych wedi cymryd seibiant rhwng eich astudiaethau er enghraifft, bydd angen i chi ddarparu geirda proffesiynol gan gyflogwr.
Rydym yn argymell siarad â'ch canolwyr ymlaen llaw. Bydd rhoi digon o rybudd ac amser iddynt yn caniatáu iddynt baratoi geirda i gefnogi eich cais.