Weithiau gall cynllunio gyrfa a'r broses recriwtio deimlo'n llethol. Dyma pam mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (ACA) wedi buddsoddi yn y teclynnau cyflogadwyedd diweddaraf i helpu i'ch cefnogi.

P'un a ydych chi'n chwilio am rôl ran-amser i helpu i ariannu eich amser yn y Brifysgol, eisiau ennill profiad amhrisiadwy neu'n paratoi i ddod o hyd i'ch swydd ddelfrydol ar ôl graddio, rydym wedi dod o hyd i feddalwedd gyflogadwyedd bwrpasol, wedi'i gwirio a thalu amdani i helpu, ymhob cam o'r broses recriwtio.

Eisiau rhagor o gymorth?

Os oes gennych gwestiynau o hyd neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch, mae ein Hymgynghorydd Gyrfa arbenigol yma i helpu. Rydym yn cynnig arweiniad cyfrinachol a diduedd drwy drefnu apwyntiad personol.

I gael y gorau o'ch apwyntiad, rydym yn argymell defnyddio'r offer a'r adnoddau uchod yn gyntaf, a dod i'r apwyntiad gyda chwestiynau a phwyntiau i'w trafod.