Mae gan ein Cwrs Datblygu Gyrfa 16 o unedau sy'n trafod amrywiaeth o bynciau sy'n gallu eich helpu wrth gynllunio eich gyrfa ac mae ar gael dydd a nos. Cyrchwch yr wybodaeth mae ei hangen arnoch, yn union pan fydd ei hangen arnoch!
Mae pob uned yn cynnwys pwnc unigol a fydd yn cynnwys gwybodaeth, ynghyd â gweithgareddau, â'r bwriad o ddatblygu eich dealltwriaeth o'r pwnc penodol hwnnw. I lwyddo yn yr uned, bydd angen i chi wneud cwis amlddewis, a sgorio o leiaf 8 allan o 10. Mae pob uned ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cwblhewch 5 uned o'ch dewis i gwblhau'r Cwrs Datblygu Gyrfa, neu 10 uned neu fwy o unedau i gwblhau'r Cwrs Datblygu Gyrfa Uwch. Mae'r ddau yn gydnabyddedig yn ffurfiol yn eich Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HERA) a bydd yn rhoi bathodyn digidol y gellir ei rannu â chyflogwyr ar eich proffil LinkedIn.
Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Eich dewis chi fydd hwn! Rydym ni wedi llunio awgrymiadau isod, gan ddibynnu ar eich cam ar hyn o bryd:
- Ddim yn siŵr beth ydych chi am ei wneud fel gyrfa? Rhowch gynnig ar yr unedau hyn: Hunanymwybyddiaeth, Opsiynau gyrfa, Dangos myfyrdod
- Angen cymorth gyda'r broses recriwtio? Rhowch gynnig ar yr unedau hyn: Llunio CV, llythyr eglurhaol a phroffil LinkedIn, Ceisiadau, Disgleirio mewn Cyfweliad, Llwyddo mewn profion seicometrig, Ymwybyddiaeth masnachol
- Cynllunio eich camau nesaf? Rhowch gynnig ar yr unedau hyn: Cynllun gweithredu ar yrfa, Gwneud penderfyniadau, Dechrau eich busnes eich hun, Chwilio am swydd a rhwydweithio, Ennill profiad gwaith
- Dymuno datblygu eich sgiliau? Rhowch gynnig ar yr unedau hyn: Gwytnwch, Meddylfryd, Deallusrwydd emosiynol
Pam dylech chi wneud y Cwrs Datblygu Gyrfa?
- Datblygu hyder a'r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt
- Dysgwch ar eich cyflymder chi a llwyddo yn eich nodau personol
- Cofnod ar eich cyfnod o Gyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
- Ennill bathodyn digidol i'w rannu â chyflogwyr ar LinkedIn
- Gwnewch eich CV a LinkedIn ddisgleirio; cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliadau ac achub ar y cyfleoedd sydd o ddiddordeb i chi.
Peidiwch â derbyn ein gair ni am hyn…
’Mwynheais i'r cwis ar ddiwedd pob uned a'r ffaith bod fy ymdrechion wedi cael eu cydnabod. Roedd y cyfle o'i wneud yn Gymraeg yn bwysig oherwydd fy mod i am ddilyn gyrfa yng Nghymru a defnyddio fy iaith i... Byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw fyfyriwr' (Elin, myfyriwr)
Gall graddedigion Prifysgol Abertawe gyrchu'r Cwrs Datblygu i Raddedigion drwy gofrestru ar y Rhaglen Cymorth i Raddedigion.
Oes gennych chi gwestiwn am Gwrs Datblygu Gyrfa?
E-bostiwch y tîm heddiw!