Ydych chi’n bwriadu gweithio yng Nghymru?

Datblygwch eich sgiliau Cymraeg i ...

  • Ennill mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi.
  • Agor drysau: Yn gynyddol bydd cyflogwyr yn gofyn am sgiliau Cymraeg er mwyn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, cynnig lefel well o wasanaeth, ymateb i alw gan ddefnyddwyr a diwallu anghenion sylfaenol mewn meysydd megis iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Rhoi hwb i’ch sgiliau meddwl a’ch sgiliau creadigol.

Cyfleoedd cyfrwng Cymraeg

Dysgwch am gyfleoedd i ddysgu Cymraeg trwy Academi Hywel Teifi, yn ogystal ag ysgoloriaethau a bwrsariaethau sydd ar gael.

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i dderbyn gwybodaeth bellach am:

Grŵp trafod
Grŵp trafod

Beth yw safonau'r Gymraeg?

Mae llawer o sefydliadau yng Nghymru bellach yn ddarostyngedig i Reoliadau Safonau’r Gymraeg, sy’n golygu y bydd mwy o angen am staff sy’n siarad Cymraeg mewn meysydd allweddol. 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am y Safonau ar wefan Comisiynydd y Gymraeg