Mae Hwb Gyrfaoedd yn brosiect a ariennir gan MEDR sy'n cynnig cymorth penodol i fyfyrwyr o grwpiau wedi'u tangynrychioli. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i gymryd rheolaeth ar eich dyfodol a chael mynediad at brofiad gwaith, digwyddiadau a chyfleoedd eraill efallai nad wyt ti'n teimlo y gelli di gyfranogi ynddynt ar hyn o bryd.
Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys:
- Cyfleoedd profiad gwaith â thâl a rhai di-dâl yn seiliedig ar dy amgylchiadau unigol a dy gynlluniau gyrfaol ar gyfer y dyfodol.
- Helpu i nodi a meithrin cyfalaf cymdeithasol - y rhwydwaith o bobl a sefydliadau i dy helpu i symud ymlaen yn dy yrfa.
- Apwyntiadau un i un gyda'n Hymgynghorwyr Hwb Gyrfaoedd er mwyn darparu cyngor ac arweiniad ar opsiynau gyrfaol a chynllunio dy gamau nesaf, gan gynnwys cymorth ar gyfer y broses recriwtio.
- Mynediad 24/7 at gyngor gyrfaol perthnasol a defnyddiol drwy'r Cwrs Datblygu Gyrfa.
- Bwrsariaethau cyflogadwyedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad personol a thalu am feddalwedd, caledwedd a chostau teithio.
- Cyfleoedd mentora i feithrin dealltwriaeth o rolau a diwydiannau gwahanol.
- Digwyddiadau cyflogadwyedd pwrpasol gan gynnwys hyfforddiant.
- Mynediad at adnoddau a chyrsiau penodol ynghylch cyflogadwyedd.
- Bydd ein myfyrwyr Hyfforddwyr Gyrfaoedd ar gael i ddarparu cymorth gan gymheiriaid a gwybodaeth ar sail dy anghenion.
Darllena'r rhestr isod ac os gelli di uniaethu ag unrhyw un o'r datganiadau, bydd cymorth pwrpasol Hwb Gyrfaoedd ar dy gyfer di!
- Rwy'n ystyried bod gennyf anabledd
- Rwyf o'r farn bod gennyf gyflwr iechyd corfforol neu feddwl
- Mae gen i un neu fwy o'r canlynol: awtistiaeth, dyslecsia, dyspracsia, ADHD, ADD neu gyflyrau niwroamrywiol eraill
- Rwy'n fyfyriwr sydd wedi'i ddieithrio o'i deulu
- Rydw i wedi gadael gofal/cael profiad o ofal
- Rwy'n dod o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif ethnig (BAME)
- Mae gen i gyfrifoldebau gofalu a/neu gyfrifoldebau rhiant
- Rydw i'n ffoadur/yn geisiwr lloches
- Rwyf o'r farn fy mod i'n dod o gefndir incwm isel
- Fi yw'r genhedlaeth gyntaf yn fy nheulu i fynd i'r Brifysgol
- Rwy'n rhan o'r gymuned LGBTQ+
- Rydw i'n dod o gymuned Sipsiwn neu Deithwyr
- Rydw i'n byw yng nghartref y teulu ac yn teithio i'r Brifysgol bob dydd
* Os wyt ti'n fyfyriwr rhyngwladol, bydd y cymorth y mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn ei gynnig yn fwy addas i ti. Rhagor o wybodaeth ar gael ar tudalennau we ACA.
Cofrestrwch eich diddordeb yma