Efallai eich bod chi’n chwilio amswydd ran-amser i helpu i ariannu eich astudiaethau neu ennill ychydig yn fwy er mwyn byw o ddydd i ddydd, mae swyddi rhan-amser yn ffordd wych o'ch helpu i ddatblygu sgiliau a datblygu'n broffesiynol yn barod i gamu i'r farchnad swyddi i raddedigion.
Yn gyffredinol, mae'r Brifysgol yn argymell na ddylai israddedigion amser llawn weithio fwy na 15 awr yr wythnos, ac ni ddylai myfyrwyr ôl-raddedig weithio mwy na 6 awr yr wythnos. Mae'r canllawiau hyn yn sicrhau y bydd gennych chi ddigon o amser i ganolbwyntio ar eich astudiaethau.
Myfyrwyr rhyngwladol
Mae'n bwysig gwirio eich Fisa Myfyriwr/Haen 4 i wybod beth yw eich hawl i weithio yn y DU wrth astudio. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio a rheoli eich oriau gweithio i sicrhau na fyddwch chi'n torri'r telerau eich fisa.
Gall Rhyngwladol@BywydCampws gynnig cymorth penodol i'ch helpu i ddeall eich Fisa Myfyriwr/Haen 4. Ewch i'w tudalen we i gael gwybodaeth am weithio yn ystod eich astudiaethau i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Ydych chi'n ystyried dechrau busnes?
Rydym ni'n gwybod nad yw pob myfyriwr yn dewis swydd draddodiadol. Os oes gennych chi syniad am fusnes, menter gymdeithasol neu os yw gwaith rhyddlaw o ddiddordeb i chi, mae'r Tîm Mentergarwch wrth law i'ch helpu.
Os oes gennych chi gwestiynau, e-bostiwch ni ar employmentzone@abertawe.ac.uk
Cysylltwch â Parth Cyflogaeth