Hysbysfwrdd Swyddi Digidol y Parth Cyflogaeth yn fan cychwyn gwych er mwyn chwilio am interniaethau, lleoliadau gwaith, swyddi rhan-amser a chyflogaeth ar lefel raddedig.
Rydym ni’n rhestru cyfleoedd rydym ni’n ymwybodol ohonynt yma, gan hefyd weithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n nodi’r cyfleoedd maent yn eu cynnig yma hefyd.
Mae gwefannau di-rif ar gael drwy beiriannau chwilio, sy’n cynnwys rhai cyffredinol a phenodol i’r sector. Dyma ambell adnodd defnyddiol lle gallwch chwilio am gyfleoedd gwaith:
Graduate Prospects
Mae Graduate Prospects yn borth i lawer o ffynonellau allweddol sy’n rhoi cyngor ar lawer o bynciau rheoli gyrfa, swyddi gwag, cyflogwyr graddedigion, digwyddiadau recriwtio a llawer mwy.
TARGETjobs
Mae TARGETjobs yn hysbysebu interniaethau, lleoliadau gwaith a swyddi. Cofrestrwch i gael hysbysiadau ynghyd â gwybodaeth am yrfaoedd a chyngor wedi’i deilwra ar gyfer eich proffil unigol chi.
Green Jobs
Mae GreenJobs yn hysbysfwrdd wedi’i neilltuo’n llwyr i recriwtio i’r sector diwydiant gwyrdd. Lansiwyd gwefan GreenJobs yn 2008 yn benodol i ymgeiswyr holl feysydd y farchnad amgylcheddol ac ynni adnewyddadwy.
Canfod gwaith drwy asiantiaeth recriwtio
Gyda chysylltiadau agos â channoedd o gyflogwyr lleol, gall asiantaethau recriwtio fod yn opsiwn da wrth chwilio am waith. Darllenwch ein canllaw i ddod o hyd i asiantaethau recriwtio a’u dewis yma.
Os oes gennych chi gwestiynau, e-bostiwch ni employmentzone@abertawe.ac.uk
Cysylltwch â Parth Cyflogaeth