Siarter Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
Yma yn Abertawe, rydych chi'n rhan o Brifysgol fywiog, amrywiol a chynhwysol. Mae profiad cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr yn dibynnu ar bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr ac, yn anad dim, chi, ein myfyrwyr. Rydych chi'n bwysig iawn i ni - felly rydym am wneud popeth y gallwn ni ei wneud i wella'ch amser yn Abertawe. Rydym yn ymrwymedig i'ch cefnogi i sicrhau y gallwch gyflawni eich potensial llawn.
Crëwyd y Siarter Myfyrwyr hon i atgyfnerthu ein hymrwymiadau i chi. Cafodd ei llunio mewn partneriaeth rhwng ein myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr a Thîm Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr y Brifysgol, ac mae'n amlygu addewidion penodol i'n holl staff a myfyrwyr. Gallwn i gyd chwarae ein rhan wrth greu amgylchedd dysgu cefnogol, cynhwysol a disglair. Mae'r Siarter hon yn ymgorffori'r egwyddorion a fydd yn helpu i wneud eich amser yn Abertawe yn fwy buddiol byth.
Mae ein Siarter Myfyrwyr yn ymdrechu i:
- esbonio mewn termau syml yr hyn y gall pob myfyriwr ei ddisgwyl gan y Brifysgol
- amlinellu disgwyliadau rhesymol y Brifysgol o fyfyrwyr
- esbonio ble a sut mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi'r Brifysgol a myfyrwyr i wella profiad y myfyrwyr
- amlygu ein hymrwymiad ar y cyd i gyfoethogi profiad y myfyrwyr
- cynnig canllaw cyfeirio gwerthfawr i'n myfyrwyr i'w helpu i gael mynediad at amrywiaeth o wybodaeth a fydd yn eu helpu drwy eu hastudiaethau