Tŷ Fulton yw'r prif adeilad ar Gampws Singleton ar gyfer lleoedd arlwyo a siopau, y ffreutur, ac wrth gwrs, far JCs.
Ym mlaen yr adeilad, gyferbyn â Tortilla a Greggs, mae lle i chi eistedd ac ymlacio, cwrdd â chyd-fyfyrwyr a dal i fyny ar eich astudiaethau*.
*Nodwch fod Tŷ Fulton yn debygol o fod yn brysur iawn yn ystod oriau dysgu arferol, ac nad yw'n cael ei argymell fel lle i astudio'n dawel.
Oriau Agor
- Mae’r adeilad ar agor 24/7 o ran y mannau agored/coridorau a chyfleusterau ystafelloedd ymolchi yn unig.
- Mae'r amseroedd agor ar gyfer Bar JCs a'r siopau sy'n cael eu rhedeg gan Undeb y Myfyrwyr ar gaelyma.
- Mae amseroedd agor lleoedd arlwyo Tŷ Fulton sydd o dan reolaeth y Brifysgol yma.
Oes angen cadw lle?
Does dim angen cadw lle ymlaen llaw.
Cyfleusterau sydd ar gael
Seddi arddull caffi, yn agos at ystafelloedd ymolchi a mynediad (cyfyngedig) i socedi trydan.