graddedig

Er mwyn ennill y safonau sydd eu hangen ar gyfer astudio ar lefel ôl-raddedig, mae bron yn sicr y bydd angen i chi wella eich sgiliau astudio ymhellach. Disgwylir y bydd eich gwaith ymchwil a'ch lefelau dadansoddi yn fwy manwl a gwreiddiol. Bydd angen i'ch sgiliau cyfathrebu, yn ysgrifenedig ac ar lafar, fod yn uwch.

Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf ar thema Astudio Ôl-raddedig.


5ed Tachwedd - 10fed Rhagfyr 2024

ysgrifennu ymchwil ôl-raddedig

Bydd y gweithdai hyn yn addas i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Maent yn canolbwyntio ar y sgiliau sy'n angenrheidiol i ysgrifennu'n llwyddiannus am ymchwil. Mewn amgylchedd cydweithredol, byddwch yn datblygu arferion ysgrifennu da, yn gwella eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac yn dysgu sut i fyfyrio’n feirniadol ar ddrafft eich traethawd estynedig.

 Campws Singleton
 Yn dechrau dydd Mawrth 5ed Tachwedd 2024
 10:00 - 12:00 BST

Cyfres ysgrifennu ymchwil ôl-raddedig
Llyfrau yn y llyfrgell

Dydd Mercher 27ain Tachwedd 2024

Goroesi'r arholiad llafar

Wedi treulio blynyddoedd yn ysgrifennu eich traethawd ymchwil, nawr mae'n teimlo bod popeth yn dibynnu ar yr arholiad llafar. Mae'r gweithdy hwn yn trafod sut i baratoi am yr arholiad llafar, o ragweld y cwestiynau i drafod eich gwaith yn hyderus a rheoli nerfau.

Campws Singleton
Dydd Mercher 27ain Tachwedd 2024
15:00 - 16:00 GMT

arholiad llafar PhD, paratoi, hyder

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwnhttps
Myfyriwr yn cyflwyno ei waith