Bydd y gweithdai hyn yn addas i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Maent yn canolbwyntio ar y sgiliau sy'n angenrheidiol i ysgrifennu'n llwyddiannus am ymchwil. Mewn amgylchedd cydweithredol, byddwch yn datblygu arferion ysgrifennu da, yn gwella eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac yn dysgu sut i fyfyrio’n feirniadol ar ddrafft eich traethawd estynedig.

Mae'r gyfres hon yn cynnwys y ddwy sesiwn ganlynol sy'n para dwy awr - gallwch ddewis pa weithdai i gymryd rhan ynddynt wrth gofrestru:

Dod yn Ysgrifennwr Ymchwil

Hwb i'ch taith i fod yn ysgrifennwr ymchwil hyderus ac effeithiol. Datblygwch arferion ysgrifennu da ac archwilio'r offer sy'n hollbwysig i drawsnewid eich proses ysgrifennu, gan ddarganfod elfennau allweddol arddull academaidd effeithiol.

 Campws Singleton
 Dydd Mawrth 4ydd Mawrth 2024
 10:00 - 12:00 GMT

 traethawd ymchwil PhD, rhwystr ysgrifennu, dechrau ysgrifennu

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 1 o 6
desg myfyriwr ymchwil

Crynodeb, Cyflwyniadau a Llif

Dal sylw’r darllenydd o'r gair cyntaf, creu cyflwyniadau a chrynodebau gafaelgar sy'n amlinellu eich ymchwil, gwella'r strwythur a'r llif, esbonio gwerth unigryw eich gwaith a meistroli crefft cyflwyno gwybodaeth.

 Campws Singleton
 Dydd Mawrth 11eg Mawrth 2025
 10:00 - 12:00 GMT

 cyflwyniadau traethodau ymchwil, crynodebau i gyfnodolion, llif wrth ysgrifennu ymchwil

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 2 o 6
nant sy'n llifo

Ysgrifennu beirniadol: Adolygu

Dysgwch syntheseiddio ymchwil bresennol â'ch syniadau eich hun, gan leoli eich gwaith yn y maes ehangach, darganfod ffyrdd o ddatblygu eich dadl a meithrin llais ysgolheigaidd hyderus wrth lunio adolygiadau llenyddiaeth sy'n dangos eich gwybodaeth a'ch cyfraniad unigryw.

Campws Singleton
Dydd Mawrth 18fed Mawrth 2025
10:00 - 12:00 GMT

adolygiad llenyddiaeth

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 3 o 6
pentwr o lyfrau gyda sbectol ddarllen

Ysgrifennu am ddulliau ymchwil

Byddwch yn dysgu'r gwahaniaeth rhwng methodoleg a dulliau a'r hyn y dylid ei gynnwys ym mhenodau dylunio ymchwil eich traethawd ymchwil. Byddwch yn gallu ysgrifennu'n glir ac yn gryno am eich proses dylunio ymchwil.

  Campws Singleton
  Dydd Mawrth 25ain Mawrth 2024
 10:00 - 12:00 GMT

 ysgrifennu am ddulliau ymchwil

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 4 o 6
myfyriwr mewn labordy

Penodau olaf a golygu

Yn y gweithdy hwn byddwch yn dysgu strwythuro eich trafodaethau a'ch casgliadau'n effeithiol, sut i gyflwyno honiadau a'u hategu'n hyderus a gadael argraff barhaol ar eich darllenwyr. Yn olaf, byddwch yn mireinio'ch sgiliau golygu i berffeithio'ch gwaith.

Campws Singleton
Dydd Mawrth 1af Ebrill 2025
10:00 - 12:00 GMT

 trafodaethau, casgliadau, golygu

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 5 o 6
gwirio gwaith

Fformatio traethawd ymchwil

Mae gwaith wedi'i gyflwyno'n dda yn ennill graddau uwch. Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn addysgu’r holl awgrymiadau ac argymhellion i chi er mwyn gwneud y gorau o Microsoft Word. Byddwch yn dysgu sut i fodloni safonau academaidd a rhoi golwg broffesiynol ar eich gwaith.

Campws Singleton
Dydd Mawrth 8fed Ebrill
10:00 - 12:00 GMT

 gwaith wedi'i gyflwyno'n dda

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 6 o 6
Myfyriwr hapus gyda dogfen wedi'i chyflwyno'n dda