person yn darllen

Bydd y gweithdai hyn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau y gellir eu defnyddio i helpu i drefnu eich arferion astudio, ond byddant hefyd yn ddefnyddiol yn y byd y tu hwnt i'r brifysgol. Y tu ôl i'r holl weithdai yw'r nod i'ch helpu i ddod yn ddysgwr mwy effeithlon ac effeithiol - i gyflawni mwy mewn llai o amser. Byddwch yn dysgu sut i drefnu eich amserlen astudio yn unol â'r hyn y mae gwyddoniaeth yn ei ddweud wrthym am sut rydym yn dysgu, a sut i ddod yn feddyliwr mwy greadigol. Byddwch hefyd yn dysgu technegau cof a rheoli amser profedig ac effeithiol i'ch helpu chi i drefnu eich amserlen astudio. 

Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf ar y thema Sgiliau Astudio.