gliniadur

Sgiliau digidol yw'r ffordd rydych yn trin, cyflwyno a chyfleu gwybodaeth a chynnwys gan ddefnyddio offer a phlatfformau digidol. Mae hyn yn cynnwys datrys problemau, arloesi, a chreu cynnwys a chyfryngau digidol, yn academaidd ac yn broffesiynol.

Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf ar y thema Sgiliau Digidol.


Dydd Llun 25ain Tachwedd 2024

Creu tablau pifod

Dysgwch sut i ddefnyddio tablau pifod i echdynnu gwybodaeth allweddol heb effeithio ar y data gwreiddiol. Bydd y gweithdy hefyd yn trafod sut i ychwanegu cyfres o dablau pifod yn yr un daenlen Excel, gan edrych ar wahanol agweddau ar y data a sut i'w diweddaru a'i diwygio.

 Ar-lein trwy Zoom
  Dydd Llun 25ain Tachwydd 2024
 10:00 - 12:00 GMT

 sgiliau digidol, Excel

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
bwrdd colyn ar gyfrifiadur

Dydd Mercher 27ain Tachwedd 2024

Egwyddorion Dylunio Sleidiau

Ydy'ch cyflwyniadau’n dal sylw’ch cynulleidfa? Yn ein gweithdy dylunio sleidiau dysgwch ganllawiau call i wneud y gorau o Microsoft PowerPoint, creu cyflwyniadau mwy deniadol ac osgoi'r camgymeriadau sylfaenol sy'n colli diddordeb eich cynulleidfa.

Campws Singleton
Dydd Mercher 27ain Tachwedd 2024
14:00 - 16:00 BST

sgiliau digidol, PowerPoint, dylunio sleidiau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
sleidiau cyflwyniad ar gyfrifiadur

Dydd Iau 28ain Tachwedd 2024

Ymgyfarwyddo â Python

Mae'r gweithdy hwn yn ganllaw i ddechreuwyr i Python. Byddwn yn ymdrin â chysyniadau sylfaenol (amrywiolyn, mathau, rhestrau), ac yna'n symud ymlaen gan ddefnyddio swyddogaethau, dulliau a phecynnau i wella eich sgiliau ysgrifennu côd. Ar y diwedd byddwn yn ymdrin â NumPy, sef pecyn gwyddor data sylfaenol yn Python.

  Campws Bae
  Dydd Iau 28ain Tachwedd 2024
  13:00 - 14:00 GMT

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
myfyriwr yn edrych ar werslyfr Python

Python Canolradd

Mae'r gweithdy canolraddol hwn yn adeiladu ar weithdy Ymgyfarwyddo â Python drwy archwilio delweddu data drwy Matplotlib, deall geiriaduron a Pandas, gan ddefnyddio rhesymeg, llif rheoli a hidlo yn ogystal â dolen ar gyfer gweithredu côd ailadroddus.

  Campws Bae
  Dydd Iau 28ain Tachwedd 2024
 14:00 - 15:00 BST

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
sleidiau cyflwyniad ar gyfrifiadur

Dydd Gwener 29ain Tachwedd 2024

Defnyddio capsiynau yn Word

Byddwch yn dysgu ychwanegu lluniau, siartiau, tablau a hafaliadau at ddogfen Word gyda'r capsiynau priodol, ac addasu labeli ac arddulliau rhifo. Creu rhestrau o dablau neu ffigurau a dolen gyfeirio at y capsiwn yn eich testun.

 Campws Bae
  Dydd Gwener 29ain Tachwedd 2024
 10:00 - 12:00 GMT

 sgiliau digidol, Word, capsiynau, croesgyfeirio, tabl ffigurau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Person yn golygu dogfen Word gyda chapsiwn

Dydd Llun 2il Rhagfyr 2024

Siartiau a graffiau yn Excel

Dysgwch arddangos eich canfyddiadau gan ddefnyddio'r siart priodol a diwygio elfennau'r siart i olygu'r dyluniad a'r cynllun. Bydd y gweithdy hwn hefyd yn eich addysgu sut i ddefnyddio graddfa logarithmig a bariau gwall a sut i allforio siartiau i ddogfennau eraill.

 Ar-lein tryw Zoom
 Dydd Llun 2il Rhagfyr 2024
 10:00 - 12:00 GMT

sgiliau digidol, Excel, siartiau

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
cyfres o siartiau a graffiau

Dydd Mercher 4ydd Rhagfyr 2024

Dylunio posteri yn PowerPoint

Hoffech chi ddylunio posteri o safon broffesiynol i ennyn diddordeb eich cynulleidfa? Mae'r gweithdy hwn yn dangos i chi sut i greu posteri academaidd effeithiol, gan sicrhau bod yr wybodaeth yn ddarllenadwy o bellter priodol.

 Campws Singleton
  Dydd Mercher 4ydd Rhagfyr 2024
 14:00 - 16:00 GMT

 sgiliau digidol, PowerPoint, dylunio posteri

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
dyluniad poster wedi'i ffugio ar hysbysfwrdd

Dydd Gwener 6ed Rhagfyr 2024

Cynllun tudalen ac arbed amser

Sut i addasu cynllun tudalen, mewnosod neu ddileu toriadau tudalen/adran ac ychwanegu rhifau a dalen flaen. Meistroli llwybrau byr ac offer golygu i arddweud a helpu i brawf-ddarllen eich gwaith, canllawiau datrys problemau.

 Campws Bae
 Dydd Gwener 6ed Rhagfyr 2024
 10:00 - 12:00 GMT

 sgiliau digidol, Word, ymylon tudalen, toriadau adran, rhifo tudalennau, arddweud, prawf-ddarllen

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
dogfen wedi'i fformatio