Pentwr o lyfrau

Diben

Awdur: Oliver Wilkins

Mewn adolygiad o lenyddiaeth, dylech seilio eich dadl ar y llenyddiaeth ei hun, drwy ddarparu dadansoddiad manwl o'r 'sgwrs' ynghylch eich pwnc. Fel arfer, pan fyddwch yn cael aseiniad i adolygu llenyddiaeth, bydd yn rhaid i chi ateb cwestiwn neu bwnc ond peidiwch â meddwl mai ysgrifennu traethawd am y mater(ion) yn unig yw'r dasg hon.

Diben adolygiad llenyddiaeth yw dangos eich dealltwriaeth o bwnc drwy nodi dadleuon a thueddiadau mawr rhwng awduron a/neu ysgolion o feddwl, a sefydlu pa syniadau a dulliau sydd fwyaf arwyddocaol iddo. Dylai hefyd gynnwys dadl, a nodi bylchau a chyfyngiadau yn y llenyddiaeth i ddangos pam mae eich ymchwil yn bwysig a sut mae'n llenwi'r bylchau hyn.

Categoreiddio yn ôl blynyddoedd

Ymchwil a Chynllunio

Dylai eich arweinydd academaidd roi syniad i chi o faint o ffynonellau y mae’n disgwyl i chi eu hadolygu, ond gallwch bob amser ofyn iddo am gyngor ac edrych ar adolygiadau llenyddiaeth eraill yn eich maes i gael ysbrydoliaeth. Yn union fel unrhyw aseiniad arall, defnyddiwch yr allweddeiriau o'ch traethawd neu gwestiynau ymchwil i chwilio am astudiaethau.

Er mwyn sicrhau bod eich adolygiad yn berthnasol, trafodwch ymchwil o'r cyfnod amser sy'n 'gyfredol' yn eich maes yn unig. Wrth ddarllen y llenyddiaeth a ddewiswch, ceisiwch ateb y cwestiynau hyn:

  • Beth yw'r prif syniad?
  • Pa bwyntiau sy'n cael eu defnyddio i ddatblygu hyn?
  • Pa dystiolaeth sy'n cael ei defnyddio?
  • Beth sy'n ategu'r honiadau hyn?
  • Ydych chi’n cytuno?
  • Beth yw'r cryfderau a'r gwendidau?
  • Ydy awduron eraill yn herio neu'n cytuno?
  • Beth yw'r fethodoleg?
  • Pa mor berthnasol yw hyn i'm hymchwil fy hun?
Strwythur y bont

Strwythur

Yn union fel traethawd nodweddiadol, dylai adolygiad o lenyddiaeth gynnwys cyflwyniad, paragraffau â thema a chasgliad, ond mae pob adran wedi'i strwythuro ychydig yn wahanol.

Cyflwyniad (tua 10% o'r cyfrif geiriau cyffredinol):

Yn debyg i'r rhan fwyaf o draethodau, dylai cyflwyniad adolygiad llenyddiaeth nodi diben yr aseiniad, sefydlu'r cysyniadau allweddol a gosod disgwyliadau ar gyfer y darllenydd.

  1. Datganiad o ddiben beth yw'r cwestiwn rydych yn bwriadu ei ateb? Sut mae'n cyd-fynd â'ch maes?
  2. Cyfiawnhewch eich cwestiwn: pam mae'n bwysig a sut bydd yn cyfrannu at wybodaeth yn eich maes?
  3. Cwmpas yr adolygiad: rhowch ychydig o wybodaeth am y llenyddiaeth y byddwch chi'n ei hadolygu a pham y gwnaethoch chi ei dewis.
  4. Cyfeirio: mapiwch strwythur y prif gorff, gan gynnwys y thema neu'r cysyniad sydd wrth wraidd pob adran.
  5. Cyfyngiadau'r adolygiad: a yw swm y llenyddiaeth yn ei gwneud hi'n anodd adolygu'r pwnc? A oes materion nad ydych wedi cael cyfle i'w trafod?

Paragraffau'r prif gorff:

Wrth ymchwilio a chynllunio, dylech ddod o hyd i themâu at ddiben grwpio'r llenyddiaeth. Dylai pob adran o'r prif gorff adolygu un thema benodol ac, er y gallwch gymharu â llenyddiaeth o adrannau eraill, dylech gadw trafodaeth o bob astudiaeth mewn adran neilltuedig. Dylai pob paragraff neu adran fod â:

  1. Brawddeg(au) pwnc: cyflwynwch thema'r adran a'r astudiaethau a fydd yn cael eu trafod ynddi.
  2. Disgrifiad: tynnwch sylw at honiadau'r astudiaethau sydd fwyaf perthnasol i'r traethawd neu’r cwestiwn/cwestiynau ymchwil.
  3. Dadansoddiad: cymharwch a chyferbynnwch dueddiadau, prif ganfyddiadau, dadleuon a dulliau'r testunau.
  4. Gwerthusiad: ystyriwch gryfderau a chyfyngiadau'r testunau, efallai gwnewch awgrymiadau a fyddai'n eu gwella, a nodwch fylchau yn y maes.
  5. Pontio: cyflwynwch yr adran nesaf a dangos sut mae'n gysylltiedig â hon

Casgliad (tua 10% o'r cyfrif geiriau cyffredinol):

Fel y rhan fwyaf o draethodau, mae casgliad adolygiad llenyddiaeth yn crynhoi ac yn pwysleisio eich prif bwyntiau, felly ni ddylai gynnwys unrhyw wybodaeth na chraffter newydd.

  1. Brawddeg(au) pwnc: nodwch mai dyma ddiwedd yr aseiniad a chyfeiriwch yn ôl at y traethawd neu'r cwestiwn/cwestiynau ymchwil.
  2. Crynodeb: crynhowch y barnau allweddol rydych chi wedi'u mynegi a'r bylchau rydych chi wedi'u canfod yn y maes.
  3. Datganiad cloi: rhowch ddatganiad terfynol sy'n profi eich bod wedi cwblhau amcan(ion) yr aseiniad, edrychwch tuag at ddyfodol y maes ac, os yw'n berthnasol, dangoswch sut mae hyn yn cysylltu â'ch traethawd ymchwil.