Gweithdy 1: Dysgu i ddysgu
Mae’r gweithdy hwn yn cymryd yr ymchwil ddiweddaraf ynghylch sut rydym yn dysgu ac yn cyflwyno’r damcaniaethau i fyfyrwyr mewn ffordd hygyrch, gyda’r nod o annog i feddwl am sut gallai’r darganfyddiadau hyn effeithio ar eu harferion astudio eu hun.Mae’n cynnwys tri phrif faes:Cofio ac Arferion;Amgylchedd a Datrys Problemau.
Gweithdy 2: Rheoli amser
Mae’r gweithdy hwn yn ystyried meddyliau rhai o feddylwyr blaenaf y byd ym maes trefnu busnes neu bersonol er mwyn amlygu’r cysyniadau allweddol sy’n sail i reoli amser yn llwyddiannus.Unwaith bod y rhain yn cael eu sefydlu, anogir myfyrwyr i ddefnyddio’r dysgu er mwyn myfyrio ar eu harferion eu hun ac ystyried sut gallent ddatblygu eu strategaethau rheoli amser llwyddiannus eu hun.
Gweithdy 3: Cofio
Mae’r cwrs hwn yn ystyried pedair techneg brofedig ar gyfer cofio popeth o restrau gwybodaeth i rifau a rhagor. Unwaith y caiff y technegau eu hymarfer, anogir myfyrwyr i’w dadansoddi am themâu cyffredin, wedyn penderfynu pa rai sy’n fwyaf perthnasol iddynt hwy, o ran y deunydd mae’n rhaid iddynt ei ddysgu a’r dechneg sydd wedi apelio atynt fwyaf.Ar ôl datblygu dealltwriaeth o’r cysyniadau sylfaenol, efallai bydd myfyrwyr yn dymuno llunio eu technegau cofio eu hun hefyd.
Gweithdy 4: Creadigrwydd
Erbyn 2020, bydd creadigrwydd ymhlith y 3 phrif sgil y bydd cyflogwyr yn gofyn amdanynt.Wrth i fwy o swyddi arferol gael eu hawtomeiddio, y prif gyfraniad gan bobl at rôl gwaith fydd y gallu i feddwl yn ochrol, datrys problemau a meddwl am syniadau newydd. Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno egwyddorion sylfaenol er mwyn troi meddwl yn greadigol yn arfer.Gan gyfeirio at ystod o feddylwyr creadigol enwocaf y byd, o artistiaid i benseiri, gwyddonwyr i athronwyr, mae’r gweithdy’n cyflwyno saith egwyddor allweddol meddwl yn greadigol trwy ystod o ymarferion ymarferol.