Trosolwg | |
---|---|
![]() |
Lefel 1, 2, 3, Master's a lefel PhD |
![]() |
2 awr yr wythnos am 5 wythnos |
![]() |
Os byddwch yn mynychu 80% o'r cwrs hwn, bydd yn ymddangos ar eich Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch. |
![meicroffon o flaen torf](/cy/llwyddiant-academaidd/cyrsiau-a-gweithdai/siarad-cyhoeddus/public-speaking.jpg)
Mae'r cwrs tystysgrifedig hwn wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i siarad yn gyhoeddus. Dros bum wythnos, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio eu priodoleddau naturiol orau i ddod yn siaradwyr cyhoeddus cymwys ar gyfer unrhyw achlysur ac ar unrhyw bwnc. Mae'r cwrs hwn yn eich dysgu i siarad yn gyhoeddus heb ddefnyddio cymhorthion megis PowerPoint neu gymhorthion clyweledol eraill. (Gall myfyrwyr ddilyn cwrs Sgiliau Cyflwyno, sy'n ategu'r cwrs hwn, i ddysgu’r ffordd orau o gyflwyno gan ddefnyddio cymhorthion). Mae'r sesiynau hyn yn hollol ymarferol felly byddwch yn rhoi damcaniaethau siarad cyhoeddus ar waith yn syth.