Mae’r cwrs hwn yn cynnwys y sesiynau dwy awr a ganlyn:
SESIWN UN: Cyflwyniad a Nodweddion Ysgrifennu Academaidd
Yn y sesiwn hon, byddwn yn diffinio nodweddion cyffredin ysgrifennu academaidd.Bydd myfyrwyr yn deall diben y nodweddion hyn a’u heffaith ar ysgrifennu academaidd, ac yn gallu adeiladu diwedd-glo a chyflwyniad yn seiliedig ar ‘symudiadau rhethregol’ cyffredin.
SESIWN DAU: Paragraffau da
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu i ddefnyddio ystod o dechnegau er mwyn ysgrifennu paragraffau cyson ac argyhoeddiadol.
SESIWN TRI: Ysgrifennu Beirniadol
Yn y sesiwn hon, byddwn yn nodi’r gwahaniaethau rhwng ysgrifennu disgrifiadol, dadansoddol a gwerthusol.Bydd myfyrwyr yn dysgu i ddefnyddio ystod o strategaethau er mwyn sicrhau bod eu hysgrifennu’n ymddangos yn fwy beirniadol.
SESIWN PEDWAR: Cyfosod a Defnyddio Ffynonellau
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu i gyfosod gwybodaeth drwy ddefnyddio matrics, defnyddio dyfyniadau uniongyrchol yn gywir, a defnyddio strategaethau gwahanol ar gyfer aralleirio.
SESIWN PUMP: Dulliau ar gyfer Gwella Arddull
Yn y sesiwn hon, byddwn yn trafod technegau er mwyn gwneud eich ysgrifennu’n fwy cryno, ac ystod o dechnegau er mwyn gwneud eich ysgrifennu’n haws ac yn fwy pleserus i’w ddarllen.
SESIWN CHWECH: Prawf-ddarllen a Golygu
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i fynd at ddarllen proflenni a golygu mewn dull mwy effeithiol a systematig.