Mae’r cwrs hwn yn cynnwys y sesiynau dwy awr a ganlyn – gallwch ddewis pa sesiynau i’w mynychu pan fyddwch yn cofrestru:
SESIWN UN: Tyfu'n awdur ymchwil
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu:
- pwysigrwydd meithrin arferion ysgrifennu da
- dulliau gwahanol sy’n gyffredin
- i ddarllen fel ysgrifennwr
- elfennau arddull academaidd effeithiol.
SESSIWN DAU: Strwythur a llif wrth ysgrifennu’n estynedig
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i:
- ysgrifennu cyflwyniadau a chrynodebau effeithiol
- gwella strwythur a llif yn eu hysgrifennu
- creu lle ar gyfer eu hymchwil a dangos gwreiddioldeb
- defnyddio patrymau cyffredinol i benodol a phenodol i gyffredinol yn effeithiol
- strwythuro gwybodaeth yn rhesymegol o’r hen i’r newydd.
SESIWN TRI: Ysgrifennu'n feirniadol am y llenyddiaeth
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu i:
- gyfuno’r llenyddiaeth o gwmpas eu dadl eu hun
- rhoi eu dadl eu hun yn y blaen mewn perthynas â’r llenyddiaeth drwy addasu’r Thema a’r Rheme
- meithrin llais hyderus fel ysgrifennwr academaidd
SESIWN PEDWAR: Ysgrifennu am ddulliau ymchwil
Yn y sesiwn hon bydd myfyrwyr yn:
- dysgu beth i’w gynnwys mewn penodau dylunio ymchwil
- dysgu’r gwahaniaeth rhwng methodoleg a dulliau
- dysgu am gwynion cyffredin arholwyr am benodau dylunio ymchwil
- dysgu i esbonio’ch gwaith dylunio ymchwil eich hun yn eglur
SESSIWN PUMP: Penodau terfynol a golygu
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn:
- dysgu i strwythuro trafodaethau a chasgliadau
- dysgu i wneud honiadau’n effeithiol
- dysgu i roi tystiolaeth am honiadau’n effeithiol
- datblygu strategaethau ar gyfer golygu a phrawf-ddarllen
SESSIWN CHWECH: Fformatio eich Thesis
Yn y sesiwn hon, bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae gwaith sydd wedi’i gyflwyno’n dda yn cael graddau uwch. Bydd y gweithdy fformatio thesis hwn yn dysgu'r holl awgrymiadau a thriciau i fyfyrwyr i gael y gorau o Microsoft Word. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i fodloni safonau academaidd a rhoi mantais broffesiynol i'w gwaith.