|
Mae gwasanaeth Hwb ar gau dros wyliau'r Nadolig o hanner dydd ddydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025 tan ddydd Llun 5 Ionawr 2026. Mae'n bwysig nodi na fydd ceisiadau gwasanaeth a gyflwynir yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfnod cau, felly peidiwch â defnyddio ServiceNow i godi pryder sydd angen cymorth brys neu mewn argyfwng. |
|---|
Cartref gwybodaeth i fyfyrwyr
Hwb yw cartref gwybodaeth i fyfyrwyr yma ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'r tîm cyfeillgar yma i'ch cefnogi drwy gydol eich taith myfyriwr.
Hwb yw eich canolfan ar gyfer popeth sy'n ymwneud â bywyd myfyrwyr, p'un ag oes angen cymorth arnoch gyda'ch cofnod myfyriwr, arholiadau, trefnu apwyntiadau neu gasglu eich cerdyn adnabod, gall Hwb eich helpu ar-lein neu yn bersonol.
Yn ystod eich amser yma, Hwb fydd eich stop cyntaf am gyngor, cefnogaeth, ac yn eich pwyntio i'r cyfeiriad cywir, nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fawr nac yn rhy fach!