Gwasanaethau i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Cofrestru gyda'r Heddlu
Bydd angen i lawer o fyfyrwyr rhyngwladol a/neu eu dibynyddion gofrestru gyda’r heddlu lleol wrth gyrraedd y DU. Os bydd angen i chi gofrestru gyda’r heddlu, cewch wybod drwy lythyr hysbysu, eich vignette mynediad yn eich pasbort neu eich Trwydded Breswyl Fiometrig (BRP). Bydd angen i chi drefnu apwyntiad i weld yr heddlu drwy MyUniHub. Sylwer y bydd hefyd angen i chi roi gwybod i’r heddlu os bydd eich manylion personol yn newid neu os byddwch yn symud cyfeiriad.
Agor Cyfrif Banc
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol ac angen agor cyfrif banc, bydd angen i chi ddewis pa fanc yr hoffech wneud cais amdano, a threfnu apwyntiad gyda’ch banc os bydd angen. Bydd hefyd angen arnoch lythyr sy’n cadarnhau eich statws myfyriwr, eich cyfeiriad cartref, a’ch cyfeiriad yn ystod y tymor y gellir gwneud cais amdano gan MyUniHub. Bydd hefyd angen i chi lofnodi ffurflen ganiatâd a fydd yn ein galluogi ni i siarad â’r banc o ran eich manylion personol os bydd angen.
Rhaid i chi sicrhau bod eich manylion personol, gan gynnwys eich enw llawn, eich cyfeiriad cartref a’ch cyfeiriad yn ystod y tymor yn gywir ar eich proffil myfyriwr cyn gofyn i MyUniHub greu datganiad i chi. I wirio neu i ddiweddaru eich manylion, mewngofnodwch drwy https://myuni.swan.ac.uk/# a dewis MyUni Login ac yna nodi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair. Dewiswch Personal Details o’r ddewislen ar yr ochr chwith. Gallwch newid eich manylion personol gan gynnwys eich cyfeiriad cartref a’ch cyfeiriad yn ystod y tymor. Os oes angen diwygio unrhyw rai o’ch manylion personol eraill (er enghraifft eich enw), bydd angen i chi ddod â’ch pasbort i MyUniHub.
Sylwer na fyddwch yn gallu agor cyfrif banc nes eich bod wedi cofrestru’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.
Cadarnhad Derbyn i Astudio
Cadarnhad Derbyn i Astudio Myfyrwyr Presennol:Os ydych yn fyfyriwr ar hyn o bryd ac mae angen i chi wneud cais am estyniad i’ch fisa, cysylltwch â’r Uned Cydymffurfio Myfyrwyr Rhynwgladol.
Cadarnhad Derbyn i Astudio Myfyrwyr Newydd: Bydd angen rhif Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) ar fyfyrwyr rhyngwladol sy’n gwneud cais am Fisa Myfyrwyr Haen 4. Mae’r rhif hwn yn cadarnhau i Fisâu a Mewnfudo’r DU (UKVI) eich bod wedi cael eich derbyn i astudio mewn prifysgol ddilys yn y DU. Unwaith y byddwch wedi bodloni nifer o amodau, gan gynnwys derbyn cynnig diamod, anfonir datganiad CAS atoch a fydd yn cadarnhau eich rhif CAS.
Cadarnhau tystysgrifau cyrraedd/gadael
Gall myfyrwyr ymweld a chyfnewid sydd â’u tystysgrifau cadarnhad o gyrraedd o'u prifysgolion cartref fynd â’r rhain i MyUniHub ar Gampws Singleton (2.1 ar fap y campws) neu Gampws y Bae (9 ar fap y campws) i’w llofnodi unwaith y byddant wedi cofrestru fel myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
PWYSIG Sicrhewch fod eich enw a’ch rhif myfyriwr wedi’u hysgrifennu ar y dystysgrif.
Ar ddiwedd y cyfnod astudio, gellir mynd â Thystysgrifau Gadael i MyUniHub i’w llofnodi hefyd.
PWYSIG: Sylwer bod modd llofnodi tystysgrifau gadael hyd at bum niwrnod cyn gadael Prifysgol Abertawe yn unig.
Cytundebau dysgu
Efallai y bydd gan fyfyrwyr ymweld a chyfnewid eu ffurflenni Cytundeb Dysgu o’u prifysgolion cartref. Mae angen i Gydlynydd Cyfnewid ac Astudio Dramor Prifysgol Abertawe lofnodi’r rhain. Bydd y tîm Ewch yn Fyd-eang yn cysylltu â myfyrwyr i drefnu llofnod ar gyfer y rhain unwaith y bydd dewisiadau o ran modiwlau wedi’u cadarnhau.