Yma ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym rwydwaith o wasanaethau sy'n gallu eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Os oes angen cymorth neu sgwrs arnoch, mae pob croeso i chi gysylltu â'r tîm ym MyUniHub.
Mae gan MyUniHub dîm hynod brofiadol a chymwys o Swyddogion Gwybodaeth i Fyfyrwyr. Mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth a all eich helpu i gael gafael ar gymorth y gallech fod â hawl iddo yn ystod eich cyfnod yn astudio gyda ni ym Mhrifysgol Abertawe a chyflwyno cais am y cymorth hwn. Efallai byddwch yn ansicr o ran pa gymorth/gyngor ac arweiniad neu atgyfeiriad y mae eu hangen arnoch neu sydd ar gael ichi. Os yw hyn yn swnio fel chi, bydd sgwrsio ag un o’n Swyddogion Gwybodaeth i Fyfyrwyr yn ddechrau da er mwyn eich llywio i'r cyfeiriad cywir.
Mae gan ein swyddogion ystafelloedd ymgynghori preifat - rhowch wybod i aelod o'r tîm wrth y ddesg yr hoffech gael sgwrs gydag un o'r Swyddogion Gwybodaeth i Fyfyrwyr.
Byddwn bob amser yn gofyn caniatâd i rannu eich amgylchiadau â'n cydweithwyr er mwyn iddynt gael cyngor i chi a'u galluogi nhw i'w roi ar waith.
Nid oes mater sy'n rhy fawr nac yn rhy fach. Ni fydd dim yn ein syfrdanu. Nid ydym yn beirniadu. Rydym ni yma i chi.