Trosglwyddo/Gohirio neu Dynnu'n Ôl o'ch Cwrs
Meddwl am newid eich cwrs? - Trosglwyddo Rhaglen
Ydych chi’n meddwl am newid i gwrs gwahanol yn y Brifysgol hon? Os ydych chi'n ystyried astudio rhaglen astudio sy'n wahanol i'r un rydych chi'n ei hastudio ar hyn o bryd, dylech chi gael sgwrs â'r adran rydych chi am ymuno â hi er mwyn gofyn a fyddai'n eich cymeradwyo i drosglwyddo i'r cwrs o'ch dewis. Hefyd, dylech chi siarad â'ch adran bresennol er mwyn iddi roi rhagor o wybodaeth/cyngor i chi am y broses, a dechrau ar hyn os ydych chi'n penderfynu mynd ymlaen.
Edrychwch hefyd ar y cyngor gan Arian@BywydCampws ar y goblygiadau ariannol posibl yn sgîl gwneud newidiadau i'ch astudiaethau.
Angen seibiant o'ch astudiaethau? – Gohirio Astudiaethau
Gallai myfyrwyr gyflwyno cais i ohirio eu hastudiaethau (mae hyn yn eich galluogi i ohirio eich astudiaethau dros dro, a dychwelyd nes ymlaen - fel arfer, yn ystod y sesiwn academaidd nesaf). Gallai myfyrwyr gyflwyno cais i ohirio am resymau iechyd neu amgylchiadau personol eraill. Os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod am ohirio eich astudiaethau, neu hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am hyn, siaradwch â'ch adran a all esbonio eich opsiynau a dechrau'r broses ohirio (os ydych chi'n dewis mynd ymlaen â hyn).
Edrychwch hefyd ar y cyngor gan Arian@BywydCampws ar y goblygiadau ariannol posibl yn sgîl gohirio eich astudiaethau.
Tynnu'n ôl o'ch astudiaethau
Byddem yn argymell y dylai myfyriwr sy'n ystyried tynnu'n ôl o'i astudiaethau siarad â'i adran yn gyntaf am gymorth a allai fod ar gael iddo a siarad am yr holl opsiynau eraill sydd ar gael iddo (gan gynnwys gohirio astudiaethau - gweler uchod) Os bydd myfyriwr yn penderfynu tynnu'n ôl ar ôl siarad â'i adran ac ar ôl ystyried yr holl opsiynau, bydd MyUniHub yn rhoi cymorth â'r broses dynnu'n ôl. Rydym ni'n hapus i siarad â chi am hyn a rhoi rhagor o wybodaeth - mae croeso i chi gysylltu â ni.
Sylwch na fydd modd i chi gyrchu eich cyfrif TG, gan gynnwys eich mewnflwch myfyriwr, pan fyddwch chi’n gorffen yn y Brifysgol. Byddwch chi’n derbyn neges e-bost yn nodi pryd y bydd eich cyfrif yn cael ei gau. Cewch ragor o wybodaeth am y broses cau cyfrif e-bost yma.
Edrychwch hefyd ar y cyngor gan Arian@BywydCampws ar y goblygiadau ariannol posibl yn sgîl tynnu'n ôl o'ch astudiaethau.