Os bydd eich amgylchiadau astudio yn newid wrth i chi astudio, bydd angen i'r Brifysgol roi gwybod i Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI), ac mae’n bosibl y caiff hyn effaith ar eich fisa Haen 4.
Er enghraifft, os ydych yn newid hyd eich rhaglen, yn gorffen eich cwrs yn gynnar, yn gadael eich cwrs, yn gohirio eich astudiaethau neu os yw'r Brifysgol yn gofyn i chi adael, rhwymedigaeth y Brifysgol yw dweud wrth Fisâu a Mewnfudo y DU am y newidiadau hyn. Bydd y fisa yn dod i ben os bydd eich amgylchiadau'n newid yn y ffyrdd hyn. Os bydd hyd eich fisa'n cael ei dorri cyn pryd oherwydd newid yn eich amgylchiadau, byddwn yn anfon e-bost at eich prifysgol a'ch cyfeiriad e-bost personol gyda manylion a chyfarwyddiadau o ran yr hyn i'w wneud nesaf.
Os nad ydych yn llwyddo cofrestru ar gyfer pob blwyddyn o'ch astudiaethau, rhaid i'r Brifysgol nodi eich bod yn tynnu'n ôl o'ch astudiaethau am nad ydych wedi cofrestru. Os ydych yn cael anawsterau o ran cofrestru ar amser, rhaid i chi roi gwybod i'r Brifysgol am eich lleoliad a'ch sefyllfa. E-bostiwch studentcompliance@abertawe.ac.uk
Gweler yr adran cwestiynau cyffredin i gael rhagor o fanylion am sefyllfaoedd astudio sy'n cael effaith ar hyd fisâu.