Rhaid i chi fod wedi cael eich canlyniadau ac wedi ennill y cymhwyster y manylir arno yn eich CAS er mwyn gallu gwneud cais dilys am y Llwybr Graddedigion.
Os caiff dyddiad diwedd eich cwrs ei estyn, mae’n bosibl y gallai hyn effeithio ar ddilysrwydd eich caniatâd myfyriwr presennol.
Os rhoddir dyddiad gorffen newydd i chi ar gyfer eich cwrs sydd y tu allan i gyfnod dilysrwydd eich caniatâd myfyriwr presennol, rhaid i chi wneud cais am estyniad fisa llwybr myfyrwyr cyn gynted â phosibl. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
Os rhoddir dyddiad gorffen newydd i chi ar gyfer eich cwrs sydd o fewn cyfnod dilysrwydd eich caniatâd myfyriwr presennol mae'n bwysig bod yn ymwybodol ei bod hi’n bosibl na fydd eich canlyniadau’n cael eu cyhoeddi nes bod eich fisa wedi dod i ben (ac felly'n effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer y Llwybr Graddedigion).
Byddem yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â'ch goruchwyliwr/cyfadran i gael gwybod pryd yn union y gallwch ddisgwyl cael eich canlyniadau os cewch estyniad i ddyddiad diwedd eich cwrs ac mae gennych ddiddordeb yn y Llwybr Graddedigion.
Rydym yn awgrymu e-bostio 'yn ddiweddar mae dyddiad gorffen fy nghwrs wedi cael ei estyn, tybed felly a allech roi gwybod i mi ba fwrdd dilyniant a dyfarniadau fydd yn ystyried fy ngwaith a phryd caiff fy nghanlyniadau eu cyhoeddi?'. Defnyddiwch y cyfeiriadau cyswllt canlynol:
Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: assessment-medicinehealthlifescience@abertawe.ac.uk. Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg: assessment-scienceengineering@abertawe.ac.uk. Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol:- Yr Ysgol Reolaeth – assessment-management@abertawe.ac.uk. Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu – assessment-cultureandcom@abertawe.ac.uk Ysgol y Gyfraith – assessment-law@abertawe.ac.uk. Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol– assessment-socialsciences@abertawe.ac.uk
- Os cadarnheir y bydd eich canlyniadau'n cael eu cyhoeddi o fewn cyfnod dilysrwydd eich caniatâd myfyriwr presennol, yna nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.
- Os rhoddir gwybod i chi na chaiff eich canlyniadau eu cyhoeddi o fewn cyfnod dilysrwydd eich caniatâd myfyriwr presennol ac rydych am wneud cais am y Llwybr Graddedigion pan fyddwch yn derbyn eich gradd, bydd angen i chi wneud cais am estyniad fisa llwybr myfyrwyr cyn dyddiad diwedd eich cwrs newydd.
Er mwyn cydlynu hyn bydd angen i chi wneud cais am CAS gan ddefnyddio’r teitl canlynol yn eich e-bost 'CAS at ddibenion y Llwybr Graddedigion: cas.compliance@abertawe.ac.uk.
Estyniad i'r Fisa Llwybr Myfyrwyr = Dyddiad Newydd ar gyfer Diwedd Cwrs + Cyfnod Cloi Ychwanegol o 4 Mis |