Mae ein rhaglen yn cynnwys gweithdai hyfforddi ffurfiol a gyflwynir gan arbenigwyr mewnol ac allanol, cyfleoedd ymdrochol sy'n eich galluogi chi i ddefnyddio ac adfyfyrio ar eich sgiliau, yn ogystal ag adnoddau ar-lein y gallwch chi eu cyrchu ar alw, mor aml ag y mynnwch chi. Mae'r rhaglen wedi'i seilio ar ein fframwaith hyfforddi, sy'n cynnwys 10 thema wahanol a gynlluniwyd i gefnogi eich ymchwil a'ch datblygiad proffesiynol ar bob cam o'ch astudiaethau.
Ddim yn siŵr ble i ddechrau?
- Edrycha ar y gweithdai a'r digwyddiadau sydd ar ddod a chadw lle ar y sesiynau perthnasol.
- Myfyria ar dy ddatblygiad personol a'th anghenion hyfforddiant gan ddefnyddio ein hofferyn dadansoddi anghenion hyfforddiant (mynediad drwy Canvas)
- Os wyt ti newydd ddechrau dy astudiaethau ymchwil ôl-raddedig, gwna'n siŵr dy fod ti wedi cwblhau'r hyfforddiant GDPR a Moeseg hanfodol ar Canvas cyn Cadarnhau Ymgeisyddiaeth.
- Os oes angen i ti gwblhau hyfforddiant Iechyd a Diogelwch (os wyt ti'n gweithio mewn labordy, neu gyda chemegion, er enghraifft), dere o hyd i'th gwrs yma.