Cyn defnyddio modelau iaith mawr ac offer deallusrwydd artiffisial eraill, mae'n hanfodol meithrin dealltwriaeth gadarn o gysyniadau deallusrwydd artiffisial sylfaenol, gan gynnwys dysgu peirianyddol, dysgu dwfn, rhwydweithiau niwral a rhagbrosesu data.
Dewis yr offeryn cywir
Ceir amrywiaeth o offer deallusrwydd artiffisial ac LLM eisoes i'ch cynorthwyo gyda'ch ymchwil a'ch dysgu. Dyma offer deallusrwydd artiffisial penodol y gallant fod yn ddefnyddiol i fyfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer eu hymchwil a'u dysgu:
Mae Scikit-Learn yn llyfrgell dysgu peirianyddol ffynhonnell agored am ddim ar gyfer Python. Mae'n offeryn poblogaidd ar gyfer amrywiaeth o dasgau dysgu peirianyddol, megis dosbarthiad, atchweliad a chlystyru.
Mae TensorFlow yn llyfrgell feddalwedd ffynhonnell agored ar gyfer cyfrifiannu rhifiadol gan ddefnyddio graffiau llif data. Fe'i defnyddir ar gyfer dysgu peirianyddol, gwyddor data, a chymwysiadau deallusrwydd artiffisial.
Mae PyTorch yn llyfrgell dysgu peirianyddol ffynhonnell agored sy’n seiliedig ar lyfrgell y Torch. Fe'i defnyddir ar gyfer amrywiaeth o dasgau dysgu peirianyddol, megis golwg gyfrifiadurol, prosesu iaith naturiol, a roboteg.
Mae CNTK yn llyfrgell feddalwedd ffynhonnell agored ar gyfer dysgu dwfn. Fe'i defnyddir ar gyfer amrywiaeth o dasgau dysgu dwfn, megis dosbarthu delweddau, prosesu iaith naturiol, ac adnabod lleisiau.
Mae Caffe yn fframwaith meddalwedd ffynhonnell agored ar gyfer dysgu dwfn. Fe'i defnyddir ar gyfer amrywiaeth o dasgau dysgu dwfn, megis dosbarthu delweddau, prosesu iaith naturiol, a chanfod gwrthrychau.
Mae Apache MXNet yn fframwaith dysgu dwfn ffynhonnell agored. Fe'i defnyddir ar gyfer amrywiaeth o dasgau dysgu dwfn, megis dosbarthu delweddau, prosesu iaith naturiol, a chyfieithu peirianyddol.
Mae Keras yn llyfrgell rhwydwaith niwral ffynhonnell agored. Fe'i defnyddir ar gyfer amrywiaeth o dasgau dysgu peirianyddol, megis dosbarthu delweddau, prosesu iaith naturiol, a dadansoddi cyfres amser.
Mae OpenNN yn llyfrgell rhwydwaith niwral ffynhonnell agored. Fe'i defnyddir ar gyfer amrywiaeth o dasgau dysgu peirianyddol, megis dosbarthiad, atchweliad a chlystyru.
Dim ond ychydig o'r offer deallusrwydd artiffisial niferus sydd ar gael yw'r rhain. Bydd yr offeryn gorau ar gyfer tasg benodol yn dibynnu ar anghenion penodol yr ymchwilydd.
Ceisiwch Gydweithredu ac Adborth: Mae deallusrwydd artiffisial yn faes sy'n esblygu'n gyflym. Gall cydweithio â chyfoedion, mentoriaid ac arbenigwyr yn y maes wella eich dealltwriaeth o offer a thechnegau deallusrwydd artiffisial yn fawr a'n galluogi i rannu arferion gorau.