EICH ARHOLIADAU
Arholiadau 2024/25
Yn Swyddfa Arholiadau Prifysgol Abertawe, rydym yn:
- Cynorthwyo wrth drefnu a rheoli cyfnodau arholi ar gyfer arholiadau ar y safle
- Llunio'r amserlen arholiadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau ar y safle/ar-lein, gan gydweithio'n agos â'r Cyfadrannau/Ysgolion
- Darparu cymorth a gwneud trefniadau ar gyfer myfyrwyr sy’n derbyn darpariaeth ychwanegol ar gyfer eu harholiadau ar y safle.
Cynhelir cyfuniad o asesiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar draws y Brifysgol a bennir gan eich Cyfadran.
Bydd eich Cyfadran yn rhoi gwybod i chi y math o asesiad y byddwch yn ei wneud, a byddwch yn cael gwybod am ddyddiadau eich asesiad o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad cynnal yr asesiad.
Os ydych wedi cael eich asesu gan y Brifysgol ac mae angen darpariaethau arnoch (e.e. seibiannau/mwy o amser), bydd y Swyddfa Arholiadau’n sicrhau bod darpariaethau addas yn eu lle ar gyfer arholiadau ar y campws. Caiff trefniadau darpariaeth ar gyfer asesiadau ar-lein eu rheoli gan y Cyfadrannau.
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i chi sefyll yr arholiadau a gynhelir ar y safle ar gyfer y modiwlau rydych wedi cofrestru arnynt yn unol â’r amserlen swyddogol. Cynhelir arholiadau'r Brifysgol yn unol â rheolau llym a bennir gan y Brifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys rheolau am absenoldeb o arholiadau, ymddygiad yn ystod arholiad, a chamymddygiad academaidd.