Os yw eich penderfyniad dilyniant neu ganlyniad eich apêl yn cadarnhau y gallwch gofrestru fel myfyriwr allanol, bydd angen i chi gwblhau'r broses gofrestru ar gyfer myfyrwyr allanol. 

Nid oes angen i fyfyrwyr ar y cwrs Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Cyfreithiol (LPC) gwblhau'r broses hon, ond bydd Ysgol y Gyfraith yn eu cofrestru'n awtomatig. 

Dylai myfyrwyr ar raglenni sy'n gysylltiedig â gofal iechyd wirio gyda'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd (Assessment-FMHLS@swansea.ac.uk) a fydd yn cadarnhau a oes angen iddynt gwblhau'r broses gofrestru i ymgeiswyr allanol.

Bydd UKVI yn cael ei hysbysu am fyfyrwyr rhyngwladol sy'n meddu ar Fisa Llwybr Myfyrwyr  ac fel arfer bydd gofyn iddynt ddychwelyd i'w mamwlad cyn cael caniatâd i gofrestru. Dylai myfyrwyr sydd y tu hwnt i ddyddiad diwedd CAS eu cwrs ac sy'n dymuno cofrestru yn Abertawe yn ystod cyfnod cau eu fisa ddod yn bersonol i gwblhau gwiriad hawl i astudio gyda'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr. Dylai myfyrwyr rhyngwladol y mae eu fisa myfyriwr wedi'i chwtogi, ac y bu'n ofynnol iddynt ddychwelyd adref, gysylltu â'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr (Cydymffurfiaeth VISA drwy Ganolfan Gwasanaeth Myfyrwyr) a fydd yn gallu darparu cyngor ynghylch cyflwyno cais am fisa Ymwelydd Safonol i ddychwelyd i Abertawe.

Beth yw ystyr bod yn fyfyriwr allanol?

Gall myfyriwr allanol gael un cyfle asesu pellach, fel arfer y cyfle olaf. Ni ddisgwylir i fyfyrwyr allanol fynychu sesiynau ailadrodd/ychwanegol, ac ni chânt fynediad at y sesiynau hyn, gan fod disgwyl i'r myfyriwr ddibynnu ar y nodiadau sydd eisoes ganddo. Mae mwy o wybodaeth am yr hyn y gall myfyriwr allanol gael mynediad ato isod.

Mae ffïoedd dysgu allanol ar gyfer sesiwn academaidd 2026/27 fel a ganlyn (mae hyn yn cynnwys costau arholiadau a gwaith cwrs/asesiadau eraill). Codir ffi fesul 10 credyd ar gyfer pob modiwl a ddyfarnwyd fel opsiwn.

Credydau 10 20 30 40 50 60 70 80 90 100 110 120
Ffi i'w Thalu £75 £150 £225 £300 £375 £450 £525 £600 £675 £750 £825 £900

Pwysig: Nid oes cyllid ar gael ar gyfer Cofrestru Allanol drwy gyrff Cyllid Myfyrwyr megis Cyllid Myfyrwyr Cymru. Felly bydd angen i fyfyrwyr archwilio dulliau talu amgen cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru.

 

Pwy sydd angen cofrestru a phryd?

I ganiatáu digon o amser i staff academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol baratoi asesiadau, bydd angen i fyfyrwyr allanol gyflwyno cais, talu a chofrestru erbyn y dyddiad cau a gyhoeddir isod.

Os oes gennych chi fodiwlau ar draws dau gyfnod asesu, dylech chi ystyried y dyddiad cau cynharach fel eich dyddiad cau chi.

Cyfnod Asesu

Dyddiad Cau Terfynol

Ionawr 2027

23 Hydref 2026

Mai/Mehefin 2027

27 Chwefror 2027

 

Gofynnir i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n cael y cyfle i roi cynnig ar asesiadau fel myfyrwyr allanol ddilyn y broses gofrestru isod.

Mae’r eithriadau’n cynnwys y canlynol:

  • Nid oes angen i fyfyrwyr ar y cwrs Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Cyfreithiol (LPC) gwblhau'r broses hon, ond bydd Ysgol y Gyfraith yn eu cofrestru'n awtomatig.
  • Dylai myfyrwyr ar raglenni sy'n gysylltiedig â gofal iechyd wirio gyda thîm asesu’r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd drwy’r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr a fydd yn cadarnhau a oes angen iddynt gwblhau'r broses gofrestru i ymgeiswyr allanol.


Beth yw goblygiadau bod yn fyfyriwr allanol i ddeiliad fisa Llwybr Myfyrwyr.

Bydd UKVI yn cael ei hysbysu am fyfyrwyr tramor sy'n meddu ar Fisa Llwybr Myfyrwyr ac fel arfer bydd gofyn iddynt ddychwelyd i'w mamwlad cyn cael caniatâd i gofrestru. Dylai myfyrwyr sydd y tu hwnt i ddyddiad diwedd CAS eu cwrs ac sy'n dymuno cofrestru yn Abertawe yn ystod cyfnod cau eu fisa ddod yn bersonol i gwblhau gwiriad hawl i astudio gyda'r Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu. Dylai myfyrwyr tramor y mae eu fisa myfyriwr wedi'i chwtogi, ac y bu'n ofynnol iddynt ddychwelyd adref, gysylltu â'r Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu drwy’r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr a fydd yn gallu darparu cyngor ynghylch cyflwyno cais am fisa Ymwelydd Safonol i ddychwelyd i Abertawe.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am Fyfyrwyr Allanol a’r effaith ar gymhwysedd y Llwybr i Raddedigion yma.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gofrestru?

Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau eich bod wedi cael eich cofrestru. Os yw'r asesiad yn arholiad a gynhelir yn ystod un o gyfnodau asesu'r brifysgol (e.e. mis Ionawr), ewch i'ch proffil ar y fewnrwyd i weld yr amser a’r lleoliad yn dilyn cyhoeddi’r amserlen arholiadau. Ar gyfer yr holl asesiadau eraill, cysylltwch â'r timau asesu drwy'r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr i gadarnhau eich dyddiad cyflwyno.

Y BROSES GOFRESTRU

Mae'r broses gofrestru i fyfyrwyr/ymgeiswyr allanol fel a ganlyn:

  1. Rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r Ffurflen Gofrestru i Fyfyrwyr Allanol ar-lein. Caiff y cais ei adolygu gan sawl tîm.
  2. Rhaid i fyfyrwyr gwblhau’r ffurflen mewn da bryd i ganiatáu ar gyfer ystyried y cais a gwneud taliadau cyn y dyddiad cau a gyhoeddir.
  3. Gall y Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu gysylltu â myfyrwyr nad ydynt yn dod o’r DU/Iwerddon i gadarnhau eich bod wedi gadael y DU neu ofyn i chi ddod am wiriad hawl i astudio wyneb yn wyneb
  4. Os yw eich cais wedi cael ei gymeradwyo, byddwch chi’n cael gwahoddiad i dalu drwy e-bost. Os oes angen diwygio eich cais neu os yw eich cais wedi cael ei wrthod, byddwch chi’n cael e-bost i esbonio hyn a rhoi rhagor o wybodaeth i chi. Nid oes angen i fyfyrwyr gysylltu â’r Tîm Teithiau Addysg cyn y cam hwn gan y byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol pan fydd y ffurflen gofrestru wedi'i chymeradwyo.
  5. Gellir talu'r ffïoedd drwy’r tab "trafodiadau ariannol" ar eich proffil ar y fewnrwyd (argymhellir yn gryf eich bod yn gwneud hynny) neu dros y ffôn/wyneb yn wyneb gyda Hwb. Caiff cyfarwyddiadau eu hanfon drwy e-bost.
  6. Ar ôl i fyfyrwyr gwblhau eu taliad, byddwn yn gofyn i Gofnodion Myfyrwyr gwblhau eich cofrestriad fel ymgeisydd allanol. Yna bydd myfyrwyr yn gallu gweld amserlen eu harholiadau drwy eu proffil myfyriwr ar y fewnrwyd.


Cymhwysedd

Os yw’n ofynnol i fyfyrwyr ail-wneud y lefel astudio, gallant gyflwyno cais i ail-wneud modiwlau a fethwyd fel ymgeiswyr mewnol yn unig.Yr eithriadau yw Graddau Ôl-raddedig a Addysgir, y Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL) a rhai myfyrwyr yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, a gaiff gyflwyno cais i ail-wneud modiwlau fel Ymgeiswyr Allanol. Yn ogystal, gellir rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gofrestru fel myfyrwyr allanol oherwydd amgylchiadau eithriadol (h.y. o ganlyniad i Apêl Academaidd).

Cyfrifoldeb y myfyriwr yw cofrestru erbyn y dyddiad cau a gyhoeddir i ymgymryd ag asesiadau fel ymgeisydd allanol a sicrhau ei bod hi'n bosibl dilyn y modiwlau perthnasol (h.y. bod y modiwlau dan sylw ar gael o hyd ac nid yw'r cynnwys wedi newid). I gael y canlyniadau gorau, anogir myfyrwyr i ymgymryd â’r asesiad cyn gynted â phosib ar ôl iddynt gwblhau’r dysgu.

Ymgeiswyr allanol:

  • Dylent sicrhau, mewn cydweithrediad â chydlynydd y modiwl, fod ganddynt ddigon o nodiadau i adolygu er mwyn eu galluogi nhw i sefyll arholiadau a/neu gyflwyno gwaith cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd;
  • Os yw’n briodol, rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt y fisa gywir i gwblhau unrhyw arholiadau neu asesiadau. Am ragor o fanylion am fisâu, cysylltwch â’r Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu drwy’r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr.

Gall myfyrwyr allanol: 

  • gyrchu cynnwys ar Canvas (ar yr amod bod gan y myfyriwr allanol gyfrif TG llawn gan Brifysgol Abertawe).
  • defnyddio cyfleusterau cyfrifiadura'r Brifysgol (ar yr amod bod gan y myfyriwr allanol gyfrif TG llawn gan Brifysgol Abertawe). Bydd cyfleusterau cyfrifiadurol arbenigol yn gofyn am gymeradwyaeth gan gynullydd y modiwl.
  • cael mynediad i Lyfrgell y Brifysgol (ar yr amod bod gan y myfyriwr allanol gyfrif TG llawn gan Brifysgol Abertawe).
  • gofyn am gymorth a help gan Ganolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr.
  • cael cyngor ac arweiniad gan wasanaethau cymorth Bywyd Myfyrwyr .
  • cael cymorth gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd i drafod anghenion a chysylltu â gwasanaethau cymorth y tu allan i'r Brifysgol (fodd bynnag, nid yw mynediad at y gwasanaethau mwy therapiwtig a gynigir gan y gwasanaeth Lles ar gael).
  • cael mynediad at gymorth cyn cofrestru neu wrth ailgofrestru gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd, i drafod anghenion mewn perthynas â dychwelyd i'r brifysgol (fodd bynnag, nid yw mynediad at y gwasanaethau mwy therapiwtig a gynigir gan y gwasanaeth Lles ar gael).
  • ceisio estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno.
  • ar ôl cofrestru, bod yn ddarostyngedig i reoliadau a pholisïau academaidd y Brifysgol (mae enghreifftiau'n cynnwys y Weithdrefn Apeliadau Academaidd, y Weithdrefn Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd, y Weithdrefn Camymddygiad Academaidd, y Weithdrefn Cwynion Myfyrwyr a/neu'r Weithdrefn Urddas wrth Astudio, y Weithdrefn Ddisgyblu, y Siarter Myfyrwyr a'r Siarter Atodol (mae'r rhain yn enghreifftiau ac nid yn rhestr gynhwysfawr)).
  • Bydd gan y Bwrdd Achosion Myfyrwyr ddisgresiwn i bennu hawliau nas rhestrwyd.


Ni all myfyrwyr allanol:

  • gofrestru nes bod y ffi ofynnol wedi'i thalu erbyn y dyddiad cau perthnasol.
  • mynychu darlithoedd na chael tiwtora ychwanegol.
  • ailsefyll asesiadau mewn modiwl sy'n wahanol i'r modiwl a fethwyd.
  • cael cymorth gan Gronfeydd Caledi, Bwrsariaethau na Dyfarniadau Arbennig.
  • cael cyllid neu gymorth drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA), oherwydd nad yw myfyrwyr allanol yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Gyllid Myfyrwyr (e.e. SFE/Cyllid Myfyrwyr Cymru). Gall fod eithriadau i hyn pan fo myfyriwr yn ail-wneud blwyddyn ac yn cofrestru ar gyfer asesiadau/arholiadau yn unig, ond mae hyn yn ôl disgresiwn corff cyllido allanol y myfyriwr.
  • cael cymorth ariannol gan Gyllid Myfyrwyr, gan gynnwys benthyciadau ffïoedd dysgu, benthyciadau cynhaliaeth a grantiau cynhaliaeth gan nad yw'r Brifysgol yn gallu cadarnhau presenoldeb na chofrestriad.  Bydd bwrsariaethau myfyrwyr ar raglenni sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd (Nyrsio/MSc Nyrsio/Bydwreigiaeth/Gwyddor Barafeddygol/Gwyddorau Gofal Iechyd (pob llwybr)/Therapi Galwedigaethol/Ymarferydd Adran Lawdriniaeth (ODP)/Astudiaethau Cydymaith Meddygol/Gwaith Cymdeithasol) yn cael eu hatal a bydd yn rhaid iddynt gysylltu â Swyddfa Bwrsariaethau'r GIG y Gyfadran am ragor o arweiniad.
  • hawlio eithriad rhag talu Treth y Cyngor (er y gallent fod yn gymwys i gael gostyngiad neu gymorth, drwy'r awdurdod lleol, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau).
  • Bydd gan y Bwrdd Achosion Myfyrwyr ddisgresiwn i benderfynu ynghylch hawliau nas rhestrwyd.

 

Os oes gennych gwestiynau am gofrestru, cysylltwch â Theithiau Addysg drwy'r Ganolfan Gwasanaethau Myfyrwyr.  Dewiswch y categori Ymholiad Cofrestru gyda'r is-gategori Cofrestru Allanol.