Absenoldeb o Arholiad
Cyn arholiad...
Mae'r Brifysgol yn cydnabod weithiau na fyddwch yn gallu sefyll arholiad am resymau y tu hwnt i'ch rheolaeth, megis salwch, damwain neu brofedigaeth. Fe'ch cynghorir i roi gwybod i’r Brifysgol cyn gynted ag y bo modd os cewch eich rhwystro rhag sefyll arholiad, er mwyn cyflwyno cais am ohirio'r arholiad hwnnw. Bydd angen i chi gefnogi'ch cais gyda thystiolaeth o'ch amgylchiadau, gan ddilyn y gweithdrefnau a amlinellir yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol.
Yn ystod arholiad...
Os byddwch yn dechrau arholiad ond na allwch ei orffen oherwydd salwch neu amgylchiadau eraill, fe'ch cynghorir i roi gwybod i oruchwylydd ar unwaith a chyn i chi adael lleoliad yr arholiad. Yna dylech gael tystiolaeth ategol (e.e. tystysgrif feddygol) a dilyn y cyfarwyddiadau yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol.
Tywydd Garw
Os bydd y Brifysgol ar gau yn ystod cyfnodau arholi oherwydd tywydd garw, caiff arholiadau eu canslo. Mae'r Brifysgol wedi ychwanegu diwrnodau wrth gefn at gyfnod asesu mis Ionawr rhag ofn y bydd hyn yn digwydd. Rhoddir gwybod am unrhyw ohiriadau arholiadau ar wefan y Brifysgol, eich cyfrif mewnrwyd myfyriwr, cyfryngau cymdeithasol (Facebook/Twitter), Blackboard a newyddion lleol/radio.
Os bydd y Brifysgol yn parhau i fod ar agor, bydd arholiadau'n para fel arfer. Os cewch eich effeithio'n bersonol gan dywydd garw, fe'ch cynghorir i roi gwybod i'r Brifysgol yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol.
Rhagor o wybodaeth am Argymhellion Tywydd Garw
Amgylchiadau Esgusodol
Diffiniad amgylchiadau esgusodol yw problemau neu ddigwyddiadau difrifol sydd y tu hwnt i'ch gallu i'w rheoli neu eu rhagweld, a allai effeithio ar eich perfformiad neu'ch gallu i fynychu, i gwblhau neu i gyflwyno asesiad yn brydlon.
Os ydych wedi'ch effeithio gan amgylchiadau esgusodol cyn arholiad i’r fath raddau bod yr amgylchiadau hynny’n debygol o effeithio'n sylweddol ar eich perfformiad, mae'n bosibl y byddwch yn dymuno ystyried gohirio sefyll yr arholiad tan ddyddiad arall. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch Coleg i wneud cais i ohirio ar ôl yr arholiad. Rhaid gwneud hyn cyn yr arholiad neu o fewn 5 niwrnod gwaith i'r arholiad gael ei gynnal. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ategol gyda'ch cais.
Os byddwch yn mynd yn sâl yn ystod arholiad RHAID i chi roi gwybod i'r Prif Oruchwylydd naill ai yn ystod neu'n syth ar ôl yr arholiad a CHYN gadael lleoliad yr arholiad. Yna dylech gyflwyno amgylchiadau esgusodol i'ch Coleg Cartref o fewn 5 NIWRNOD GWAITH i'r arholiad a gafodd ei effeithio gael ei gynnal.
Am ragor o wybodaeth gweler yr adran ynghylch arholiadau yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol.