Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol
Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu
1. Cyflwyniad
Mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod y gall ystod o ffactorau, gan gynnwys amgylchiadau esgusodol, effeithio ar astudio a pharatoadau myfyriwr ar gyfer asesiadau ar adegau, ac weithiau na fydd myfyrwyr yn gallu cwblhau asesiadau.
Mae gan y polisi canlynol ddau brif bwrpas:
- sicrhau bod myfyrwyr sydd â cheisiadau dilys o amgylchiadau esgusodol yn cael eu trin yn deg ac yn gyson; a
- diogelu safon dyfarniadau’r Brifysgol.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl fyfyrwyr y Brifysgol sy’n dilyn rhaglenni a addysgir (gan gynnwys y rhai ar raglen gydweithredol gyda sefydliad partner) neu elfen hyfforddi graddau ymchwil, ac mae’n caniatáu ystyried amgylchiadau esgusodol sy’n ymwneud â’r holl asesiadau a addysgir.
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein holl weithgareddau a phrosesau ac yn ein diwylliant. Bydd yr holl weithdrefnau’n cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Bydd staff Prifysgol Abertawe hefyd yn ymwybodol o Bolisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol a deddfwriaeth cydraddoldeb gyfredol trwy’r hyfforddiant y maen nhw’n ei gael. Wrth benderfynu pa gamau y dylid eu cymryd mewn perthynas ag amgylchiadau esgusodol, dylai staff/pwyllgorau sicrhau eu bod wedi ystyried a yw ystyriaethau cydraddoldeb yn cael unrhyw effaith ar yr achos ac ystyried hyn wrth wneud eu hargymhellion. Mewn perthynas â phwyllgorau sy’n gwneud penderfyniadau, mae Prifysgol Abertawe’n ymdrechu i gyflawni ei hymrwymiadau i gydraddoldeb hiliol a chydbwysedd rhywedd, fel y’u nodir yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
2. Egwyddorion Sylfaenol
Mae Polisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesu yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
i) Amcan unrhyw asesiad yw mesur cyflawniad, nid potensial (h.y. yr hyn y mae myfyriwr wedi’i wneud, nid yr hyn y mae ganddo’r potensial i’w wneud).
ii) Mae gan bob myfyriwr gyfrifoldeb unigol am gyflwyno gwaith cwrs ar amser, ac i fod yn bresennol ar gyfer asesiadau wedi’u trefnu (i gynnwys arholiadau ysgrifenedig, arholiadau/asesiadau ar-lein, arddangosiadau, cyflwyniadau ac arholiadau ymarferol neu yn y labordy) ar yr amser ac yn y lle priodol, ac am hysbysu’r Gyfadran/Ysgol academaidd/ Sefydliad Partner Cydweithredol am unrhyw amgylchiadau esgusodol trwy gyflwyno gwybodaeth a dogfennaeth am amgylchiadau o’r fath.
Disgwylir i fyfyrwyr ddatgan unrhyw amgylchiadau mewn modd amserol (fel arfer CYN y dyddiad cau ar gyfer y gwaith cwrs/arholiad i roi cyfle i’r Brifysgol/ Sefydliad Partner Cydweithredol ymateb yn briodol i’r amgylchiadau hynny. Fel arfer, bydd cais am amgylchiadau esgusodol yn cael ei gyflwyno heb fod yn gynharach na 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad cyflwyno’r asesiad. Dylai myfyriwr sy’n poeni na fydd yn gallu sefyll asesiad a/neu gyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cau gysylltu â’r Gwasanaethau Addysg am gyngor.
Bydd myfyriwr nad yw’n cyflwyno asesiad erbyn y dyddiad cau, ac yn absenoldeb amgylchiadau esgusodol y cytunwyd arnynt, yn cael marc o sero i adlewyrchu’r ffaith nad yw’r gwaith wedi’i gyflwyno.
iii) Gellir ystyried estyniad o bum diwrnod gwaith ar gyfer gwaith cwrs ar yr amod bod yr amgylchiadau’n cael eu hystyried yn ddilys o fewn y polisi. Pan fo amgylchiadau’n gofyn am estyniad hirach, neu le mae asesiadau wedi’u trefnu yn cael eu heffeithio, gellir ystyried gohirio i’r pwynt asesu priodol nesaf.
iv) Bydd y Gwasanaethau Addysg/ Sefydliad Partner Cydweithredol yn ystyried o ddifrif ffyrdd o gynorthwyo myfyrwyr i oresgyn amgylchiadau a allai effeithio’n andwyol ar asesiadau.
v) Bydd y Brifysgol/ Sefydliad Partner Cydweithredol yn ymateb mewn ffordd deg i unrhyw amgylchiadau esgusodol na ellir eu datrys yn ddigonol cyn yr asesiad dan sylw.
vi) Ni ystyrir bod amgylchiadau esgusodol yn sail i newid marciau a ddyfarnwyd ar gyfer asesiadau sydd eisoes wedi’u cwblhau.
vii) Ni fydd y Brifysgol yn cyfyngu ar y nifer o weithiau y gall myfyriwr wneud cais am amgylchiadau esgusodol ar gyfer arholiad neu asesiad penodol. Caiff pob cais ei ystyried ar sail y ffeithiau unigol ac, fel arfer, ni chaiff cais ei wrthod dim ond oherwydd bod y myfyriwr wedi cyrraedd y terfyn o ran sawl ymgais a ganiateir yn unol â rheoliadau arholiad neu asesiad neu os yw wedi cyrraedd y cyfnod cofrestru hwyaf arferol ar gyfer ei gwrs.
Fodd bynnag, pan wneir mwy nag un cais yn yr un flwyddyn academaidd, gall y Gwasanaethau Addysg/ Sefydliad Partner Cydweithredol, gan gyfeirio at yr amgylchiadau penodol sy’n effeithio ar y myfyriwr a nifer yr asesiadau yr effeithir arnynt, archwilio gyda’r myfyriwr y posibilrwydd o ohirio astudiaethau.
Gohirio Astudiaethau - Rhaglenni a Addysgir - Prifysgol Abertawe
Gall fod achosion eithriadol pan fydd amgylchiadau myfyriwr yn gymhellol ond na chaiff y cais ei gymeradwyo oherwydd nad oes gan y myfyriwr obaith realistig o gwblhau ei raglen neu ennill dyfarniad ymadael (os yw’n berthnasol i’r rhaglen honno). Er enghraifft, efallai bod myfyriwr eisoes wedi rhoi sawl cynnig ar asesiad ond nad yw wedi pasio unrhyw gredydau na gwneud unrhyw gynnydd yn academaidd, gyda’r holl opsiynau cymorth rhesymol ar waith neu efallai bod myfyriwr wedi cyrraedd y cyfnod cofrestru hwyaf arferol ar gyfer ei gwrs, neu efallai, ym marn academaidd Prifysgol Abertawe/ y Partner Cydweithredol, nad oes ganddo unrhyw obaith rhesymol o gwblhau ei gwrs o fewn yr amserlen honno (ac nad yw’n debygol o’i gwblhau os caniateir mwy o amser iddo) o ystyried ei gynnydd hyd yma.
viii) Bydd ceisiadau amgylchiadau esgusodol yn cael eu hystyried yn gyfrinachol ac, fel arfer, dim ond yr aelodau hynny o staff sydd angen gwneud penderfyniad fydd yn gallu cael mynediad at wybodaeth. Fodd bynnag, pan fo cais am amgylchiadau esgusodol yn dangos risg i’r myfyriwr neu i eraill, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â thimau perthnasol o fewn y Brifysgol i sicrhau bod modd cynnig cymorth a bod gweithdrefnau priodol i ddiogelu’r rhai dan sylw yn cael eu dilyn.
ix) Yn eithriadol, gellir ystyried cais i ohirio heb dystiolaeth ategol os gall myfyriwr ddarparu esboniad priodol ynghylch pam nad oes modd darparu tystiolaeth o’r fath ar y pryd. Caiff ceisiadau o’r fath eu hystyried â chydymdeimlad.
x) Bydd Amgylchiadau Esgusodol yn cael eu hystyried gan aelodau o staff y Gwasanaethau Addysg sy’n brofiadol ac wedi’u hyfforddi’n briodol.
3. Canllawiau ar 'Amgylchiadau Esgusodol'
Diffinnir Amgylchiadau Esgusodol fel problemau neu ddigwyddiadau difrifol a sydyn, sydd y tu hwnt i allu myfyriwr i’w rheoli neu eu rhagweld, a allai fod wedi effeithio ar berfformiad y myfyriwr a/neu a allai fod wedi effeithio ar allu myfyriwr i fynychu, cwblhau neu gyflwyno asesiad ar amser. Yr unig amgylchiadau esgusodol perthnasol yw’r rhai sy’n codi amheuaeth ynghylch dilysrwydd gwaith a gyflwynir gan fyfyriwr fel mesur cywir o’i allu. Dylai anabledd/cyflyrau iechyd hirdymor (gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â lles/iechyd meddwl) gael eu cefnogi gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd, mewn ymgynghoriad â’r Gwasanaethau Addysg/ Sefydliad Partner Cydweithredol a’r myfyriwr (gweler Canllawiau Cyfadrannau/Ysgolion ar gyfer delio â myfyrwyr ag amgylchiadau esgusodol a/neu ofynion penodol).
3.1.1 Mae’r canlynol yn rhestr anghyflawn o amgylchiadau sy’n annhebygol o gael eu derbyn fel amgylchiadau esgusodol dilys:
- Mân anhwylderau neu salwch (a fyddai mewn sefyllfa waith yn annhebygol o arwain at absenoldeb o’r gwaith) sy’n effeithio ar waith paratoi’r myfyriwr ar gyfer asesiad. Gallai enghreifftiau gynnwys annwyd, cur pen, mân ddamweiniau neu anafiadau.
- Cyflwr meddygol heb naill ai 1) tystiolaeth resymol (meddygol neu fel arall) i’w gefnogi neu 2) esboniad boddhaol o’r amgylchiadau sydd wedi atal myfyriwr rhag gallu cyflwyno ei waith
- Arferion crefyddol
- Sgiliau rheoli amser gwael e.e. lle nad ydych wedi rhoi digon o amser i chi’ch hun i gwblhau’r asesiad erbyn y dyddiad cau. Dylech ganiatáu digon o amser i lanlwytho asesiadau i systemau’r Brifysgol ac i ymdrin â phroblemau technegol wrth gyflwyno asesiadau.
- Lle roedd modd rhagweld neu ddisgwyl y digwyddiad/amgylchiadau a ddatganwyd, er enghraifft, gwyliau/digwyddiadau crefyddol, gwyliau, priodasau neu ddigwyddiadau teuluol eraill
- Ffactorau sy’n gysylltiedig ag astudio y mae modd eu hosgoi, fel methiant cyfrifiadur, argraffydd ddim yn gweithio, llawer o ddyddiadau cau yr un pryd, colli nodiadau. Cyflwyno’r ffeil anghywir ar gyfer asesiad ar-lein yn ddamweiniol, gan mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod y fersiwn gywir yn cael ei chyflwyno.
- Camddarllen dyddiad cau cyflwyno’r asesiad a/neu’r amserlen arholiadau.
- Nid yw problemau fisa fel arfer yn cael eu derbyn o dan unrhyw amgylchiadau.
3.1.2 Dyma restr anghyflawn o amgylchiadau a fyddai fel arfer yn cael eu hystyried yn amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar berfformiad:
- Salwch difrifol, damwain neu broblem les sy’n analluogi’r myfyriwr, neu gyflwr hirdymor yn dirywio’n annisgwyl.
- Mân anhwylder neu salwch sy’n effeithio ar y myfyriwr ar ddiwrnod asesiad/arholiad amser cyfyngedig/wedi’i drefnu, neu yn union cyn hynny. Gallai enghreifftiau gynnwys mân ddamweiniau neu anafiadau.
- Diagnosis/asesiad o orbryder a straen sy’n ymwneud ag arholiadau/asesiadau a gefnogir naill ai gan dystysgrif feddygol neu ffurflen addasiad.
- Salwch hirdymor, gofynion penodol, anableddau sydd wedi’u datgelu a’u hasesu gan y Brifysgol/ Sefydliad Partner Cydweithredol.
- Symptomau clefyd heintus a allai fod yn niweidiol pe bai’n cael ei drosglwyddo i eraill.
- Marwolaeth neu salwch difrifol perthynas agos neu ffrind.
- Amgylchiadau personol/teulu andwyol o bwys – fel ysgariad, lladrad, tân, achos llys mawr, bod yn dyst i ddigwyddiad trawmatig neu brofi digwyddiad o’r fath, anawsterau ariannol y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr.
- Ffactorau eithriadol sylweddol eraill sydd wedi effeithio’n sylweddol ar y myfyriwr.
- Myfyrwyr sy’n rhan-amser, yn astudio mewn blociau neu’n dysgu o bell – ymrwymiadau proffesiynol eithriadol, annisgwyl neu anochel.
- Argyfwng sy’n atal y myfyriwr rhag mynychu neu sefyll arholiad neu asesiad amser cyfyngedig.
- Ymosodiad rhywiol/trais rhywiol.
- Troseddau casineb.
- Argyfwng llety fel cael ei droi allan neu nad oes modd byw yn y cartref mwyach.
- Gwaharddiad dros dro dan orchymyn y Brifysgol
- Amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â gwaith grŵp, nad yw’r Ysgol eisoes wedi’u hystyried (e.e. pan fo’r grŵp cyfan wedi cael ei effeithio gan amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth, neu os yw aelod unigol o’r grŵp yn profi anawsterau ac felly nad yw’n gallu cyfrannu’n effeithiol.)
- Cyflyrau sy’n ymwneud â beichiogrwydd a geni babi (gan gynnwys partner yng nghanol esgoriad).
- Fel arfer, dim ond methiant offer TG a ddarperir gan Brifysgol Abertawe/ y Sefydliad Partner Cydweithredol (pan fo tystiolaeth gymhellol ar gael i gadarnhau’r methiant hwnnw) sy’n effeithio ar system neu systemau, ac sy’n cyfyngu ar gyfle’r myfyriwr i gyflwyno, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Methiant y feddalwedd goruchwylio arholiadau o bell
- Diffoddiad WiFi lleol heb ei gynllunio
- Y Platfform Dysgu Digidol (neu elfennau ohono) yn anweithredol am gyfnod heb ei gynllunio
Gall tystiolaeth (gyda dyddiadau ac amseroedd yn gwbl weladwy) fod ar ffurf sgrinluniau o darfu ar y gwasanaeth, gwallau, tudalen darparwyr rhwydwaith neu gyfathrebiadau sy’n amlinellu’r tarfu, gan gynnwys postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ac e-byst gan ddarparwyr neu systemau monitro. Er hynny, mae’n rhaid i fyfyrwyr gadw copi wrth gefn o’u gwaith a bod yn barod i’w gyflwyno erbyn y dyddiad cau a gyhoeddwyd, gan ganiatáu amser wrth gefn ar gyfer unrhyw broblemau technegol funud olaf, a sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i’r aelod(au) staff perthnasol am y broblem cyn gynted â phosibl.
- Cyfrifoldebau gofalu ac anawsterau domestig sy’n effeithio ar allu myfyriwr i baratoi ar gyfer asesiad neu ei gwblhau.
- Ymrwymiadau personol lle mae aildrefnu allan o reolaeth y myfyriwr ac nad ydynt yn deillio o ddewis personol neu deuluol.
3.2 Pan fo angen dogfennaeth annibynnol i gadarnhau amgylchiadau esgusodol, rhaid iddi fod wedi dyddio o fewn mis i’r asesiad/arholiad yr effeithiwyd arno, dylai ymwneud yn uniongyrchol â’r amgylchiadau a ddatgelwyd, a rhaid iddi nodi sut mae’r amgylchiadau wedi effeithio ar berfformiad myfyriwr a/neu y gallai fod wedi rhwystro gallu myfyriwr i fynychu, cwblhau neu gyflwyno asesiad mewn pryd. Os na chaiff dogfennaeth o’r fath ei darparu, bydd y cais yn cael ei wrthod oni bai y gall y myfyriwr ddarparu esboniad boddhaol yn ei gais pam na fu modd iddo ddarparu tystiolaeth o’r fath. Lle cyflwynir tystiolaeth wreiddiol mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhaid i’r myfyriwr ddarparu cyfieithiadau Saesneg wedi’u hardystio.
3.2.1 Dyma restr anghyflawn o enghreifftiau o dystiolaeth briodol:
- Llythyr/tystysgrif meddyg*/gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n cadarnhau’r salwch, yn nodi effaith debygol y salwch, ac yn nodi’n glir bod cyfnod y salwch wedi digwydd o fewn mis i’r asesiad. (* Dylai’r meddyg fod wedi’i gofrestru gyda’r corff rheoleiddio cenedlaethol priodol (e.e. y Cyngor Meddygol Cyffredinol) neu fod â statws cyfatebol. Lle nad yw’r meddyg wedi’i gofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol, neu os nad oes ganddo statws cyfatebol, efallai y gofynnir am dystiolaeth bellach, fel y bo’n briodol).
- Yn achos myfyriwr sy’n cael ei daro’n wael yn ystod arholiad yn y cnawd a oruchwylir gan y Brifysgol, copi o adroddiad y goruchwylydd. (Dylid darparu tystiolaeth feddygol ar y cyd â’r adroddiad hwn lle bynnag y bo modd ). Rhaid i fyfyriwr sy’n cael ei daro’n wael yn ystod arholiad ar y safle hysbysu’r goruchwylydd naill ai yn ystod yr arholiad neu yn syth ar ôl yr arholiad a chyn gadael lleoliad yr arholiad. Bydd goruchwylydd yn gwneud cofnod o hyn, a gall y myfyriwr gael mynediad ato wedyn o’r Swyddfa Arholiadau/Sefydliad Partner Cydweithredol. Mewn achos o’r fath, gellir defnyddio adroddiad y goruchwylydd i gefnogi cais i ohirio, er y dylai myfyrwyr gael tystiolaeth feddygol hefyd os oes modd.
- Llythyr derbyn a rhyddhau o’r ysbyty, i gadarnhau’r amser a dreuliwyd yn yr ysbyty. Rhaid i’r llythyr gynnwys enw’r myfyriwr a bydd angen i’r Pwyllgor fod yn fodlon bod y llythyr yn ymwneud â’r myfyriwr dan sylw.
- Llythyr gan wasanaeth sy’n cefnogi’r myfyriwr e.e. Gwasanaeth Cymorth y Brifysgol, Swyddog Cyswllt Trais Rhywiol (SVLO), Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC), Cwnselydd, Canolfan Gyngor Prifysgol Abertawe (SUAC), gwasanaeth cymorth myfyrwyr cyfatebol yn y Sefydliad Partner Cydweithredol neu asiantaeth arall a all fod yn cefnogi myfyriwr ac ati (llythyr yn ôl disgresiwn y gwasanaeth cymorth).
- Yn achos gorbryder/straen arholiad sydd wedi cael diagnosis/ei nodi, ardystiad meddygol neu ffurflen addasiad.
- Yn achos myfyrwyr â chyflyrau iechyd/anableddau anwadal sydd wedi’u cymeradwyo gan y Gwasanaethau Lles ac Anabledd/gwasanaeth cymorth myfyrwyr cyfatebol yn y Sefydliad Partner Cydweithredol, ystyrir y ffurflen addasiad fel tystiolaeth ar yr amod bod yr amgylchiadau’n uniongyrchol gysylltiedig a bod y myfyriwr wedi darparu esboniad ynghylch sut yr effeithiwyd arno.
- Naill ai tystysgrif marwolaeth, Trefn Gwasanaeth, Llythyr Trefnwr Angladdau, coflith neu adroddiad newyddion. Lle nad yw’r rhain ar gael, llythyr o gefnogaeth gan aelod o’r teulu, ffrind neu diwtor personol. Yn achos salwch difrifol a/neu farwolaeth perthynas agos (a ddiffinnir fel rhiant/prif ofalwr yr ymgeisydd, brawd neu chwaer, partner/priod, plentyn/dibynnydd yr ymgeisydd), bydd tystiolaeth o’r farwolaeth/salwch difrifol yn ddigonol a chymerir yn ganiataol fod y salwch/farwolaeth wedi effeithio ar y myfyriwr.
- Adroddiad gan yr heddlu, ni fydd rhif cyfeirnod trosedd/ rhif digwyddiad yr heddlu ar ei ben ei hun yn ddigon
- Erthygl newyddion sy’n cadarnhau anawsterau teithio annisgwyl.
- Yn achos cyfrifoldebau gofalu tymor byr ac anawsterau domestig sy’n effeithio ar allu myfyriwr i baratoi ar gyfer asesiadau neu ymgymryd â nhw, datganiad gan aelod o’r teulu/ffrind.
- Yn achos cyfrifoldebau gofal hirdymor, pasbort gofalwr neu dystiolaeth ategol annibynnol.
- Mewn achosion lle mae’n heriol i fyfyriwr gael tystiolaeth annibynnol o’i amgylchiadau i gefnogi estyniad, gellir derbyn datganiad manwl a wnaed gan y myfyriwr. Yn yr achosion hyn, dylai’r manylion gyd-fynd â’r rhesymau dilys fel y’u rhestrir yn y polisi hwn.
Gall y Brifysgol/Sefydliad Partner Cydweithredol gysylltu â darparwr tystiolaeth (e.e. meddyg (meddyg teulu)) i wirio tystiolaeth myfyriwr. Mewn achosion o’r fath, bydd y Brifysgol/Sefydliad Partner Cydweithredol fel arfer yn cael caniatâd y myfyriwr i gysylltu â’r darparwr tystiolaeth.
3.2.2 Mae’r canlynol yn rhestr anghyflawn o enghreifftiau o dystiolaeth nas derbynnir fel arfer
- Hunan-ddatganiad o amgylchiadau i gefnogi achosion lle gofynnir am ohirio.
- Tystiolaeth nad yw’n cael ei chyflenwi gan barti annibynnol neu nad oes modd ei dilysu.
- Tystiolaeth mewn iaith heblaw Cymraeg/Saesneg, heb gyfieithiad ardystiedig i gyd-fynd â hi.
- Rhif cyfeirnod trosedd/rhif digwyddiad yr heddlu heb adroddiad atodol gan yr Heddlu.
- Tystiolaeth nad yw’n ddarllenadwy h.y. geiriau wedi pylu, wedi’i thocio, gwybodaeth goll, dim dyddiad, tystiolaeth wedi’i sganio’n wael.
4. Polisi Amgylchiadau Esgusodol
Rhagdybir bod myfyriwr sy’n ymgymryd ag asesiad yn ddigon iach i wneud hynny. Bydd y marciau a ddyrennir yn adlewyrchiad cywir o’r perfformiad ac ni chânt eu newid yn ddiweddarach ar sail amgylchiadau esgusodol. Gall myfyriwr nad yw’n gallu ymgymryd ag asesiad oherwydd amgylchiadau esgusodol, yn amodol ar gais cymeradwy am amgylchiadau esgusodol, gael cyfle pellach i ymgymryd â’r asesiad.
Ystyrir bod myfyriwr sy’n mynychu a/neu’n cwblhau asesiad ac nad yw’n cyflwyno hawliadau am amgylchiadau esgusodol o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad asesu gwreiddiol cynharaf, yn cadarnhau:
- nad oes unrhyw resymau pam na ddylai fod wedi ymgymryd â’r asesiad ar yr adeg honno;
- na fydd yn cyflwyno cais am gonsesiwn yn ddiweddarach oherwydd amgylchiadau esgusodol; a
- bod unrhyw geisiadau am ‘addasiadau rhesymol’ yng ngoleuni anabledd, cyflwr iechyd, lles neu broblem iechyd meddwl neu ofynion penodol eraill eisoes wedi’u cyflwyno i’r Brifysgol/Sefydliad Partner Cydweithredol.
Gall myfyriwr sydd wedi cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol gael amser ychwanegol (gan y Gwasanaethau Addysg/Sefydliad Partner Cydweithredol) y tu hwnt i’r dyddiad cau estynedig y cytunwyd arno i gyflwyno tystiolaeth (gellir caniatáu uchafswm o 10 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cau cyflwyno gwreiddiol yr asesiad i gyflwyno tystiolaeth ategol). Ni fydd myfyriwr sy’n ymgymryd ag asesiad gan wybod bod amgylchiadau esgusodol wedi effeithio arno fel arfer yn gallu cyflwyno cais llwyddiannus yn ddiweddarach.
Yn achos tarfu ar arholiad/asesiad neu broblemau gydag arholiad/asesiad sy’n effeithio ar grŵp o fyfyrwyr, gall y Gwasanaethau Addysg argymell camau priodol.
5. Cais am Amgylchiadau Esgusodol
Disgwylir i fyfyrwyr lenwi’r ffurflen amgylchiadau esgusodol briodol, ynghyd â darparu tystiolaeth ategol annibynnol berthnasol os yw’n ofyniad ar y pwynt ymgeisio.
Bydd staff y Gwasanaethau Addysg yn ystyried ceisiadau am amgylchiadau esgusodol sy’n ymwneud ag asesiad a addysgir (gwaith cwrs a/neu arholiadau yn y cnawd/o bell).
Yn achos rhaglen gydweithredol, y sefydliad partner fydd yn ystyried ceisiadau am amgylchiadau esgusodol.
Bydd y Gwasanaethau Addysg/ Sefydliad Partner Cydweithredol yn cael eu harwain gan egwyddorion 2, 3 a 4 yn y polisi hwn.
5.1 Penderfynu ar Geisiadau
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn adolygu ceisiadau ac yn penderfynu ar y canlynol:
- A yw’r hawliad yn ddilys:
- Cytuno ar ganlyniad priodol:
- dyfarnu estyniad o 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad cau (yn berthnasol i waith cwrs).
- cynnig ymgais ‘ohiriedig’ arall (wedi’i chapio neu heb ei chapio, fel y bo’n briodol) ar y pwynt asesu priodol nesaf (yn berthnasol i waith cwrs ac arholiadau)
- bydd hawliadau annilys e.e. ceisiadau a gyflwynir y tu allan i’r amserlen ‘5 diwrnod gwaith’, dim tystiolaeth briodol, fel arfer yn cael eu gwrthod
Os nad oes unrhyw un o’r camau gweithredu uchod yn briodol oherwydd natur yr asesiad, gall y Gwasanaethau Addysg argymell yn eithriadol bod y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau (PAB):
- yn caniatáu diystyru elfen fach o’r gwaith cwrs neu’r asesiad yn ystod y flwyddyn, gan ailgyfrif y marc neu farciau terfynol yn seiliedig ar elfennau’r gwaith cwrs neu’r asesiad sy’n weddill yn ystod y flwyddyn; neu
- ymdrin â’r sefyllfaoedd hynny lle mae cydran o’r modiwl ar goll trwy ganiatáu i’r marc neu farciau terfynol gael eu hailgyfrif o’r gydran/cydrannau modiwl sy’n weddill; neu
- ystyried cymryd camau amgen
- dod i’r casgliad nad oes unrhyw sail, neu nad oes sail ddigonol, i gais y myfyriwr.
Ymdrinnir ag amgylchiadau esgusodol sy’n effeithio ar gyflwyno’r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, ar gyfer myfyrwyr gradd meistr a addysgir, trwy weithdrefnau ar wahân. (dolen i Estyniadau PGT)
5.2 Asesiad yn y cnawd/o bell
Dylai myfyriwr sydd ag amhariad dros dro a allai ei gwneud yn anodd cymryd rhan mewn arholiad yn y cnawd gysylltu â’r Gwasanaethau Addysg am arweiniad. Efallai y bydd yn briodol i drefniadau arbennig gael eu rhoi ar waith i alluogi’r myfyriwr i gymryd rhan yn yr arholiad. Gall hyn gynnwys caniatáu i’r myfyriwr sefyll yr asesiad mewn ystafell lai o faint, defnyddio ysgrifennydd (copïwr), defnyddio cyfrifiadur, neu addasiadau priodol eraill.
Yn achos rhaglenni cydweithredol, dylai’r myfyriwr gysylltu â swyddfa gyfatebol y sefydliad partner.
Mewn achosion lle nad yw trefniadau arbennig o’r fath yn briodol, dylid defnyddio’r polisi amgylchiadau esgusodol yn lle hynny.
Os derbynnir bod yr amgylchiadau esgusodol yn ddilys mewn perthynas â’r arholiad yn y cnawd/o bell, cynigir cyfle pellach i sefyll yr arholiad yn y pwynt asesu priodol nesaf (Cyfnod Asesu Semester Un, prif gyfnod asesu Semester Dau neu Gyfnod Asesu Atodol ar gyfer rhaglenni a addysgir). Os mai ‘ymgais gyntaf’ oedd yr arholiad, bydd y cyfle arall a roddir yn cael ei ystyried yn ‘ymgais ohiriedig heb ei chapio’. Os oedd yr arholiad yr effeithiwyd arno yn arholiad ailsefyll, ystyrir yr ymgais ohiriedig yn arholiad ailsefyll hefyd a bydd y marc a ddyfernir yn cael ei gapio (os yw capio’n berthnasol). Os bydd y myfyriwr wedi rhoi cynnig ar yr arholiad dan sylw cyn y caniateir gohiriad, ni roddir marc am yr ymgais wreiddiol.
5.3 Amserlen ar gyfer penderfyniadau
Bydd myfyrwyr yn cael eu hysbysu am ganlyniad cais am amgylchiadau esgusodol mewn modd amserol ac fel arfer o fewn 10 diwrnod gwaith i wneud y cais.
5.4 Hysbysiad am y canlyniad
Caiff myfyrwyr eu hysbysu am ganlyniad eu cais yn ysgrifenedig. Dylai’r hysbysiad am y canlyniad hefyd gynnwys rhesymau manwl dros y penderfyniad yn ogystal â chyngor ynghylch â phwy y dylai’r myfyriwr gysylltu os bydd yn cael rhagor o anawsterau o ran yr asesiad.
5.5 Ceisiadau sy’n cael eu gwrthod
Os bydd yr Ysgol/Sefydliad Partner Cydweithredol yn gwrthod cais am amgylchiadau esgusodol mewn perthynas ag arholiad neu waith cwrs (yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellir yn 5.1 a 5.2), cymerir y camau gweithredu canlynol:
- os na roddwyd cynnig ar yr asesiad, cofnodir marc o 0% (absenoldeb heb awdurdod) ar gyfer yr asesiad a phenderfynir ar ganlyniad terfynol y myfyriwr yn unol â’r rheoliadau asesu ar gyfer y rhaglen astudio; neu
-
os rhoddwyd cynnig ar yr asesiad, caiff y gwaith a gyflwynwyd ei farcio, gwneir cofnod o’r marc a phenderfynir ar ganlyniad terfynol y myfyriwr yn unol â’r rheoliadau asesu ar gyfer y rhaglen astudio.
5.6 Amgylchiadau esgusodol sy’n effeithio ar y Cyfnod Asesu Atodol
Fel arfer, ni fydd cyfle pellach i ymgymryd ag asesiadau rhwng y cyfnod Asesu Atodol a dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf. Dylid ystyried amgylchiadau esgusodol yn unol â 5.1 uchod.
Pan benderfynir bod cais yn ddilys, ac os cefnogir ymgais bellach ar y pwynt asesu priodol nesaf gan Fwrdd Arholi’r Gyfadran, dylid cyflwyno argymhelliad i Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol i’w ystyried yng ngoleuni perfformiad cyffredinol y myfyriwr. Er enghraifft, gellid rhoi cyfle pellach i fyfyriwr ailadrodd y modiwl a fethwyd heb i’r marciau gael eu capio yn y sesiwn ddilynol yng ngoleuni’r amgylchiadau esgusodol. Fodd bynnag, ni chaiff myfyriwr symud ymlaen i’r lefel astudio nesaf/y rhan nesaf o’i astudiaethau/cymhwyso ar gyfer dyfarniad oherwydd cais am amgylchiadau esgusodol os na fydd wedi bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer dilyniant neu ddyfarniad. Ym mhob achos, bydd y rheoliadau arferol ar gyfer dilyniant neu ddyfarnu yn berthnasol.
5.7 Y Coleg, Prifysgol Abertawe – Penderfyniadau ynghylch gohirio
Caiff penderfyniadau ynghylch gohirio ar gyfer myfyrwyr Y Coleg, Prifysgol Abertawe eu gwneud gan Bwyllgor Amgylchiadau Esgusodol Y Coleg, Prifysgol Abertawe.
6. Amgylchiadau Esgusodol a Phenderfyniadau Dilyniant/Dyfarnu
Bydd penderfyniad a wneir gan y Gwasanaethau Addysg neu’r Bwrdd Achosion Myfyrwyr (neu enwebai y Bwrdd) mewn perthynas ag amgylchiadau esgusodol yn cael ei anfon ymlaen i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu priodol fel argymhelliad. Bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu yn ystyried unrhyw argymhelliad gan gyfeirio at broffil academaidd cyffredinol myfyriwr a’r rheoliadau asesu. Fel arfer y rheoliadau asesu sy’n cael blaenoriaeth.
Mae gohiriadau cymeradwy yn parhau i fod yn amodol ar gael eu cadarnhau gan Fwrdd Arholi’r Brifysgol. Mewn achosion lle mae gan fyfyriwr wedi cael cymeradwyaeth i ohirio asesiadau ond heb gyflawni digon o gredydau i allu ymgeisio eto, ni fyddai’n cael y cyfle i ymgymryd â’r asesiadau gohiriedig fel rheol.
7. Camymddwyn Academaidd
Bydd unrhyw fyfyriwr sy’n cyflwyno tystiolaeth anwir neu ffug i gefnogi cais am amgylchiadau esgusodol, a hynny’n fwriadol, yn agored i gamau disgyblu yn unol â Gweithdrefnau Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe.
8. Apeliadau
Ni fydd apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Gwasanaethau Addysg neu’r Bwrdd Achosion Myfyrwyr (neu enwebeion y Bwrdd) mewn perthynas ag amgylchiadau esgusodol fel arfer yn cael eu hystyried.
Mewn achosion lle mae myfyriwr yn teimlo bod afreoleidd-dra wedi bod wrth gynnal y gweithdrefnau, dylai’r myfyriwr gysylltu â’r Gwasanaethau Addysg yn y lle cyntaf.
Yn achos rhaglenni cydweithredol, dylai’r myfyriwr gysylltu â swyddfa gyfatebol y sefydliad partner.
Mewn achosion lle mae myfyriwr yn cael tystiolaeth newydd yn ymwneud â chais a gyflwynwyd eisoes, gall y myfyriwr ailgyflwyno tystiolaeth newydd i’r Gwasanaethau Addysg/Sefydliad Partner Cydweithredol i’w hailystyried ar yr amod ei bod o fewn y dyddiadau cau a bennwyd.
Dim ond mewn achosion lle nad oedd y myfyriwr yn gallu canfod a oedd yn addas i ymgymryd â’r asesiad neu ei baratoi nac o roi gwybod i’r Ysgol/Sefydliad Partner Cydweithredol, y bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau am amgylchiadau esgusodol a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau. Bydd hawliau megis y rhain yn cael eu rheoli yn unol â’r Weithdrefn Apeliadau Academaidd.
9. Cadw Cofnodion
Bydd y Gwasanaethau Addysg yn cadw cofnodion cywir a chymesur o amgylchiadau esgusodol, ceisiadau a chanlyniadau.
Yn achos rhaglenni cydweithredol, dylai’r Sefydliad Partner gadw cofnodion cywir a chymesur o geisiadau am amgylchiadau esgusodol a chanlyniadau’r rhain.
10. Monitro Amgylchiadau Esgusodol
Cyfrifoldeb y Bwrdd Achosion Myfyrwyr yw monitro’r data a gwneud argymhellion fel y bo’n briodol
Bydd cyfrifoldeb hefyd ar y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau i adolygu’r Polisi am ei effeithiolrwydd a gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau, lle bo hynny’n briodol, i’w hystyried gan y Senedd.
11. Diogelu Data
Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gan fyfyriwr i gefnogi cais am Amgylchiadau Esgusodol yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Trwy gyflwyno ffurflen amgylchiadau esgusodol, mae’r myfyriwr yn cytuno i Brifysgol Abertawe/y Sefydliad Partner Cydweithredol gadw ei ddata personol at ddibenion prosesu cais amgylchiadau esgusodol. Caiff y data hwn ei gadw yn unol â’i hysbysiad o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddfau Diogelu Data eraill a Pholisi Cadw Cofnodion y Brifysgol