GWYBODAETH
Os yw Bwrdd Arholi wedi cynnig cyfle i chi gofrestru fel myfyriwr allanol (gweler y penderfyniad ar ddilyniant yn eich cofnod myfyriwr), bydd yn rhaid i chi gwblhau'r broses gofrestru i fyfyrwyr/ymgeiswyr allanol.
Nid oes angen i fyfyrwyr ar y cwrs Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Cyfreithiol (LPC) gwblhau'r broses hon, ond bydd Ysgol y Gyfraith yn eu cofrestru'n awtomatig.
Dylai myfyrwyr ar raglenni sy'n gysylltiedig â gofal iechyd wirio gyda'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd (assessment-medicinehealthlifescience@abertawe.ac.uk) a fydd yn cadarnhau a oes angen iddynt gwblhau'r broses gofrestru i ymgeiswyr allanol.
Bydd UKVI yn cael ei hysbysu am fyfyrwyr rhyngwladol sy'n meddu ar Fisa Llwybr Myfyrwyr ac fel arfer bydd gofyn iddynt ddychwelyd i'w mamwlad cyn cael caniatâd i gofrestru. Dylai myfyrwyr sydd y tu hwnt i ddyddiad diwedd CAS eu cwrs ac sy'n dymuno cofrestru yn Abertawe yn ystod cyfnod cau eu fisa ddod yn bersonol i gwblhau gwiriad hawl i astudio gyda'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr. Dylai myfyrwyr rhyngwladol y mae eu fisa myfyriwr wedi'i chwtogi, ac y bu'n ofynnol iddynt ddychwelyd adref, gysylltu â'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr (studentcompliance@abertawe.ac.uk) a fydd yn gallu darparu cyngor ynghylch cyflwyno cais am fisa Ymwelydd Safonol i ddychwelyd i Abertawe.
Y BROSES GOFRESTRU
Mae'r broses gofrestru i fyfyrwyr/ymgeiswyr allanol fel a ganlyn:
- Rhaid i fyfyrwyr gwblhau eu rhan o'r Ffurflen Cofrestru Ymgeiswyr Allanol.
- Yna rhaid i fyfyrwyr gyflwyno'r ffurflen i'w Cyfadran/Hysgol y bydd angen iddi gymeradwyo eu cais i gofrestru fel ymgeisydd allanol.
- Os cymeradwyir y ffurflen, bydd y myfyriwr neu ei Gyfadran/Ysgol yn anfon y ffurflen i MyUniHub (myunihub@abertawe.ac.uk).
- Myfyrwyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig/o Iwerddon: Rhowch gadarnhad i'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr eich bod wedi gadael y DU neu dewch am wiriad hawl i astudio wyneb yn wyneb (e-bostiwch studentcompliance@abertawe.ac.uk i wirio'r rhai sy'n berthnasol i chi).
- Yna bydd MyUniHub yn anfon e-bost at y myfyrwyr i gadarnhau cyfanswm y ffi a gofyn iddynt dalu'r ffïoedd. Nid oes angen i fyfyrwyr gysylltu â ni cyn y cam hwn gan y byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol pan fydd y ffurflen gofrestru wedi'i chymeradwyo.
- Gellir talu'r ffïoedd drwy "drafodion ariannol" mewn proffiliau myfyrwyr ar y fewnrwyd neu drwy MyUniHub yn uniongyrchol drwy ffonio +44 (0)1792 606000. Os cânt eu talu drwy broffil y myfyriwr ar y fewnrwyd, gofynnwn i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn anfon yr e-bost sy'n cynnwys eu derbynneb i myunihub@abertawe.ac.uk cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi oedi yn y broses gofrestru.
- Ar ôl i fyfyrwyr gwblhau eu taliad, bydd MyUniHub yn gofyn i Gofnodion Myfyrwyr gwblhau eu cofrestriad fel ymgeisydd allanol. Yna bydd myfyrwyr yn gallu gweld amserlen eu harholiadau drwy eu proffil myfyriwr ar y fewnrwyd.
Cofiwch y dylech gwblhau eich cofrestriad allanol cyn gynted â phosibl. Mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru fel myfyriwr allanol cyn i'ch asesiad allanol gael ei drefnu.
Cymhwysedd
Os oes angen i fyfyrwyr ail-wneud lefel astudio, cânt gyflwyno cais i ail-wneud y modiwlau a fethwyd fel ymgeiswyr mewnol yn unig. Yr eithriadau yw Graddau Ôl-raddedig a Addysgir, y Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL) a rhai myfyrwyr yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, a gaiff gyflwyno cais i ail-wneud modiwlau fel ymgeiswyr allanol. Yn ogystal, gellir rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gofrestru fel myfyrwyr allanol oherwydd amgylchiadau eithriadol (h.y. o ganlyniad i Apêl Academaidd).
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw cysylltu â'i Gyfadran i wirio a yw'n gymwys i sefyll asesiadau fel ymgeisydd allanol a sicrhau ei bod hi'n bosibl sefyll y modiwlau perthnasol (h.y. bod y modiwlau dan sylw ar gael o hyd ac nid yw'r cynnwys wedi newid).
Ymgeiswyr Allanol:
- Dylent sicrhau, mewn cydweithrediad â chydlynydd y modiwl, fod ganddynt ddigon o nodiadau i adolygu er mwyn eu galluogi nhw i sefyll arholiadau a/neu gyflwyno gwaith cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd
- Os yw’n briodol, rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt y fisa gywir i gwblhau unrhyw arholiadau neu asesiadau. I gael rhagor o fanylion ynghylch fisâu, cysylltwch â thîm Cydymffurfiaeth y Brifysgol yn studentcompliance@abertawe.ac.uk.
Gall myfyrwyr allanol:
- Cyrchu cynnwys ar Canvas (ar yr amod bod gan y myfyriwr allanol gyfrif TG llawn gan Brifysgol Abertawe).
- Defnyddio cyfleusterau cyfrifiadura'r Brifysgol (ar yr amod bod gan y myfyriwr allanol gyfrif TG llawn gan Brifysgol Abertawe).
- Cael mynediad i Lyfrgell y Brifysgol (ar yr amod bod gan y myfyriwr allanol gyfrif TG llawn gan Brifysgol Abertawe).
- Gofyn am gymorth a help gan Ganolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr.
- Cael cyngor ac arweiniad gan wasanaethau cymorth BywydCampws.
- Cael cymorth gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd i drafod anghenion a chysylltu â gwasanaethau cymorth y tu allan i'r Brifysgol (fodd bynnag, nid yw mynediad at y gwasanaethau mwy therapiwtig a gynigir gan y gwasanaeth Lles ar gael).
- Cael mynediad at gymorth cyn cofrestru neu wrth ailgofrestru gan y Gwasanaeth Lles ac Anabledd, i drafod anghenion mewn perthynas â dychwelyd i'r brifysgol (fodd bynnag, nid yw mynediad at y gwasanaethau mwy therapiwtig a gynigir gan y gwasanaeth Lles ar gael).
- Ceisio estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno.
- Ar ôl cofrestru, bod yn ddarostyngedig i reoliadau a pholisïau academaidd y Brifysgol (mae enghreifftiau'n cynnwys y Weithdrefn Apeliadau Academaidd, y Weithdrefn Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd, y Weithdrefn Camymddygiad Academaidd, y Weithdrefn Cwynion Myfyrwyr a/neu'r Weithdrefn Urddas wrth Astudio, y Weithdrefn Ddisgyblu, y Siarter Myfyrwyr a'r Siarter Atodol (mae'r rhain yn enghreifftiau ac nid yn rhestr gynhwysfawr)).
- Bydd gan y Bwrdd Achosion Myfyrwyr ddisgresiwn i bennu hawliau nas rhestrwyd.
Ni all myfyrwyr allanol:
- Cofrestru nes bod y ffi ofynnol wedi'i thalu erbyn y dyddiad cau perthnasol.
- Mynychu darlithoedd na chael hyfforddiant ychwanegol.
- Ailsefyll asesiadau mewn modiwl sy'n wahanol i'r modiwl a fethwyd.
- Cael cymorth gan Gronfeydd Caledi, Bwrsariaethau a Dyfarniadau Arbennig.
- Cael cyllid neu gymorth drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA), oherwydd nad yw myfyrwyr allanol yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Gyllid Myfyrwyr (e.e. SFE/Cyllid Myfyrwyr Cymru). Gall fod eithriadau i hyn pan fo myfyriwr yn ail-wneud blwyddyn ac yn cofrestru ar gyfer asesiadau/arholiadau yn unig, ond mae hyn yn ôl disgresiwn corff cyllido allanol y myfyriwr.
- Cael cymorth ariannol gan Gyllid Myfyrwyr, gan gynnwys benthyciadau ffïoedd dysgu, benthyciadau cynhaliaeth a grantiau cynhaliaeth gan nad yw'r Brifysgol yn gallu cadarnhau presenoldeb na chofrestriad. Bydd bwrsariaethau myfyrwyr ar raglenni sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd (Nyrsio/MSc Nyrsio/Bydwreigiaeth/Gwyddor Barafeddygol/Gwyddorau Gofal Iechyd (Pob llwybr)/Therapi Galwedigaethol/Ymarferydd Adran Lawdriniaeth (ODP)/Astudiaethau Cydymaith Meddygol/Gwaith Cymdeithasol) yn cael eu hatal a bydd yn rhaid iddynt gysylltu â Swyddfa Bwrsariaethau'r GIG y Gyfadran am ragor o arweiniad.
- Hawlio eithriad rhag talu Treth y Cyngor (er y gallent fod yn gymwys i gael gostyngiad neu gymorth, drwy'r awdurdod lleol, gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau).
- Bydd gan y Bwrdd Achosion Myfyrwyr ddisgresiwn i bennu hawliau nas rhestrwyd.
Mae'r ffioedd cofrestru allanol ar gyfer sesiwn academaidd 2024/25 fel a ganlyn (mae hyn yn cynnwys arholiadau a gwaith cwrs neu asesiadau eraill).
Credydau | 10 | 20 | 30 | 40 | 50 | 60 | 70 | 80 | 90 | 100 | 110 | 120 |
Ffi i'w Thalu |
£75 |
£150 |
£225 |
£300 |
£375 |
£450 |
£525 |
£600 |
£675 |
£750 |
£825 |
£900 |