Mae boicot marcio ac asesu'n fath o weithredu nad yw'n streic ac mae'n cynnwys yr holl brosesau marcio ac asesu sy'n cyfrannu at benderfyniadau asesu crynodol ar gyfer myfyrwyr/dysgwyr, boed yn benderfyniadau terfynol (h.y. graddio/cwblhau cwrs) neu dros dro (h.y. penderfyniadau ynghylch symud ymlaen).
Bydd y dyletswyddau sy'n rhan o foicot marcio ac asesu'n cynnwys peidio â marcio na rhoi adborth, peidio â lanlwytho marciau, peidio â chymryd rhan mewn byrddau arholi, peidio â chymedroli asesiadau, peidio â dyrannu asesiadau i gynorthwywyr addysgu, peidio ag ysgrifennu asesiadau a pheidio â mynd i arholiadau, arholiadau llafar na chyflwyniadau llafar.
Dechreuodd y boicot marcio ac asesu hwn ar 20 Ebrill 2023 a daeth i ben ar 6 Medi.