YN EICH CADW CHI MEWN CYSYLLTIAD

Rydym am wneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch i wneud y gorau o'ch amser ym Mhrifysgol Abertawe.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich cyfrif e-bost Outlook Prifysgol yn rheolaidd, gan mai dyma'r brif ffordd rydym yn cyfleu gwybodaeth bwysig. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddiadau allweddol, dyddiadau cau, cymorth asesu, newidiadau polisi, a diweddariadau gan eich Cyfadran, eich Ysgol, a staff addysgu.

Ochr yn ochr â chyfathrebiadau swyddogol a anfonir i’ch e-bost, rydym yn defnyddio amrywiaeth o sianeli i'ch helpu i aros yn wybodus ac yn gysylltiedig drwy gydol eich astudiaethau:

Laptop on blue background

Y CYLCHLYTHYR WYTHNOSOL

Bob wythnos yn ystod y tymor, byddwn yn anfon crynodeb atoch o'r newyddion, y digwyddiadau a'r cyfleoedd diweddaraf o bob cwr o'r Brifysgol. Mae'n ffordd wych o gadw mewn cysylltiad a darganfod gwybodaeth ddefnyddiol i gefnogi eich profiad fel myfyriwr, gan gynnwys diweddariadau ar draws y Brifysgol, cyngor ar yrfaoedd a chyflogadwyedd, adnoddau lles, cymorth ariannol, a mentrau gwych i chi gymryd rhan ynddynt.

Pa fath o gynnwys hoffech chi ei weld yn y cylchlythyr wythnosol? Dywedwch wrthym gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Cysylltwch â'r tîm
Computer on purple background

BLOG NEWYDDION

Does dim rhaid i chi aros am y cylchlythyr wythnosol nesaf i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Ewch i'n gwefan Cylchlythyr Myfyrwyr unrhyw bryd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr!

Gallwch hefyd edrych ar ein digwyddiadau sydd ar ddod ar y dudalen we Digwyddiadau.

Eisiau cael eich cynnwys? Anfonwch eich cynnwys atom! Cliciwch ar y ddolen isod ac ewch draw i'r tab 'Anfonwch stori atom'.

Ymwelwch â'r Blog Newyddion
Mobile phone, green background

CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Ydych chi'n dilyn  cyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol Hwb? Dylech chi!

Dyma lle rydyn ni'n postio diweddariadau rheolaidd am ddigwyddiadau, cymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd, cyngor ariannol a chyllid, newyddion teithio a chyhoeddiadau pwysig.

Ewch draw i'n tudalen Instagram Hwb a'n tudalen Facebook Hwb i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion myfyrwyr.

Mobile phone, red background

AP FYABERTAWE

FyAbertawe yw eich cartref ar gyfer popeth sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe, gan gynnwys e-byst, amserlenni, mapiau o’r campws a llawer mwy.Gallwch gael mynediad at  holl hanfodion bywyd myfyrwyr, i gyd mewn un lle!

Byddwn hefyd yn anfon hysbysiadau brys a swyddogol drwy'r ap, megis pan fydd adeiladau ar gau neu hysbysiadau am iechyd a diogelwch.

Lawrlwytho'r ap
Ipad, blue background

CANVAS

Canvas yw eich platfform dysgu ar-lein swyddogol, sy'n rhoi mynediad i chi at ddeunyddiau dysgu, recordiadau darlithoedd, mannau cyflwyno aseiniadau, a mwy. Mae hefyd yn lle i'ch Cyfadran a'ch Ysgol  roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi,

Mae'n bwysig gwybod sut i ddefnyddio Canvas, gan y byddwch chi'n ei ddefnyddio drwy gydol eich astudiaethau.

Cliciwch ar y ddolen isod i gael mynediad at Canvas, ac i ddod o hyd i ganllawiau defnyddiol ar sut i'w ddefnyddio.

Mynediad i Canvas
Laptop on blue background

GWEFAN HWB

Hwb yw'r wefan ar gyfer myfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe. Gallwch gael mynediad at eich cyfrif, apiau, sgwrs fyw a'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gwblhau eich astudiaethau.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am asesiadau, gwasanaethau'r campws, cysylltiadau’r Cyfadrannau, rheoliadau a llawer mwy.

https://hwb.swansea.ac.uk/cy/