Bydd nifer fach o'n myfyrwyr wedi derbyn penderfyniadau am ddyfarniad y mae’r Boicot Marcio ac Asesu wedi effeithio arnynt yn anffodus. Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno set o Reoliadau Asesu Eithriadol i sicrhau bod safonau academaidd yn cael eu cynnal a bod yr effaith ar fyfyrwyr cyn lleied â phosib. I'r myfyrwyr hynny mae hyn wedi effeithio arnynt, bydd eich Cyfadran wedi cysylltu â chi ynghylch yr effaith. Rydym yn gwybod bod hon yn sefyllfa anodd sy'n peri gofid i'n myfyrwyr, ac roeddem am roi mwy o gyngor, cyd-destun a chymorth am oblygiadau’r penderfyniadau hyn, beth yw'r camau nesaf, a sut gall y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr eich helpu chi.
Mae'r categorïau isod yn esbonio'n fanylach beth yw ystyr pob penderfyniad ar y cam hwn.
Os ydych wedi derbyn;