Sut bydd y Boicot Marcio ac Asesu yn effeithiol ar fy fisa?
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol y gall y boicot marcio ac asesu effeithio arnyn nhw. Os wyt ti'n cwblhau dy raglen, byddwn ni'n ceisio cadarnhau dy ddyfarniad cyn i dy fisa bresennol ddod i ben. Os wyt ti'n symud ymlaen ac mae angen estyniad arnat ti, byddwn ni'n dy helpu i estyn dy fisa.
Bydd fy fisa'n dod i ben cyn bo hir ac mae angen fy marciau arna i cyn hynny er mwyn fy ngalluogi i gyflwyno cais am fisa'r Llwybr i Raddedigion - beth yw ystyr hyn i mi?
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol y gall y boicot marcio ac asesu effeithio arnyn nhw. Os wyt ti'n cwblhau dy raglen, byddwn ni'n ceisio cadarnhau dy ddyfarniad cyn i dy fisa bresennol ddod i ben. Os wyt ti'n symud ymlaen ac mae angen estyniad arnat ti, byddwn ni'n dy helpu i estyn dy fisa.
Rwy'n fyfyriwr sydd â fisa Llwybr Myfyrwyr ac mae fy nghwrs wedi dod i ben. Ga i weithio amser llawn a chael swydd barhaol?
Cei di weithio amser llawn yn ystod cyfnod cloi dy fisa, gan fod dy gwrs wedi dod i ben yn swyddogol. Efallai bydd angen i ti wirio'r math o fisa y bydd ei hangen arnat ar gyfer y contract rwyt ti'n ei gael os cynigir swydd tymor hwy i ti.
Mae arnaf angen ddyddiad terfynu newydd er mwyn cyflwyno cais ar gyfer fy Nghadarnhad Derbyn i Astudio newydd, ond mae fy ngoruchwyliwr yn rhan o'r boicot. Beth gallaf ei wneud?
Cysyllta â'r Tîm Cydymffurfiaeth Myfyrwyr a fydd yn gallu dy gynorthwyo gyda hyn.
Rwyf wedi cael penderfyniad dyfarniad bod gen i ddyfarniad wedi'i ragfynegi. Ydw i'n gymwys i ymgeisio am y Llwybr i Raddedigion?
Os wyt ti wedi cael penderfyniad o ddyfarniad wedi'i ragfynegi, bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cysylltu â thi â rhagor o wybodaeth am dy gymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion. Efallai na fydd modd i ni roi gwybod ar unwaith am dy gymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion; fodd bynnag, rydym yn ymrwymedig i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol y gallai'r Boicot Marcio ac Asesu effeithio arnynt. Byddwn yn ceisio cadarnhau dy ddyfarniad cyn i dy fisa bresennol ddod i ben.
Rwyf wedi cael penderfyniad dyfarniad dros dro. Ydw i'n gymwys i ymgeisio am y Llwybr i Raddedigion?
Os wyt ti wedi cael penderfyniad dyfarniad dros dro, yn y rhan fwyaf o achosion byddwn ni'n gallu cadarnhau i UKVI dy gymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion, ar yr amod dy fod yn bodloni'r holl ofynion am y llwybr. Nid oes angen i ti ddweud wrthym dy fod wedi cael y penderfyniad hwn. Pan fyddwn ni wedi rhoi gwybod am dy gymhwysedd, bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn anfon cadarnhad drwy e-bost yn cynnwys yr wybodaeth y bydd ei hangen arnat i ymgeisio am y Llwybr i Raddedigion.
Mae fy mhenderfyniad dyfarniad wedi'i ohirio. Beth mae hynny'n ei olygu ar gyfer fy nghymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion?
Bydd y Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cysylltu â thi â rhagor o wybodaeth am dy gymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion. Ni fydd modd i ni roi gwybod ar unwaith am dy gymhwysedd am y Llwybr i Raddedigion; fodd bynnag, rydym yn ymrwymedig i gefnogi myfyrwyr rhyngwladol y gallai'r Boicot Marcio ac Asesu effeithio arnynt sy'n dymuno ymgeisio am y Llwybr i Raddedigion.