Angen cymorth gyda chofrestru? Gwylia ein fideo newydd ynghylch cofrestru gam wrth gam!
Cwestiynau Cyffredin ynghylch Cofrestru
Pwy sy'n gallu cofrestru ar-lein?
Disgwylir i bob myfyriwr sy'n astudio yn y DU neu dramor neu mewn sefydliad partner fewngofnodi i'r fewnrwyd a chofrestru ar-lein.
May rhaid cofrestru os ydych yn perthyn i un o'r categoriau hyn:
-
Myfyriwr newydd.
-
Myfyriwr parhaus.
-
Dim ond cyflwyno a pharatoi ar gyfer eich viva.
-
Myfyriwr yn cwblhau cywiriadau.
-
Yn aros am eich tystysgrif.
Sut i ddod o hyd i ni
Mapiau a lleoliad Prifysgol Abertawe yma www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/lleoliad/
Sut mae mewngofnodi am y tro cyntaf?
Byddwch yn derbyn dau e-bost gyda manylion eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair, a fydd yn caniatáu ichi fewngofnodi a chael mynediad at apiau a chyfrifon Prifysgol Abertawe.
Y tro cyntaf y byddwch yn mewngofnodi, bydd angen i chi ddefnyddio'ch cyfeiriad e-bost myfyriwr Prifysgol (eich rhif myfyriwr@abertawe.ac.uk) fel enw defnyddiwr, a'r cyfrinair dros dro rydych eisoes wedi'i dderbyn.
Dylech fewngofnodi i'ch cyfrif am y tro cyntaf drwy fynd i myuni.swansea.ac.uk a chlicio ar yr eicon Mewngofnodi.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â'r tîm Gwasanaeth TG. Sylwer y bydd angen i chi ein ffonio ar 01792 60400 ar gyfer galwadau sy'n ymwneud â diogelwch y cyfrif, er mwyn inni allu cadarnhau eich hunaniaeth.
Sut ydw i'n cofrestru ar-lein?
Mewngofnodwch i fewnrwyd y Brifysgol, cliciwch ar y saeth werdd a dilynwch y cyfarwyddiadau cam wrth gam nes eich bod yn cyrraedd y tab olaf. Dylech weld neges ar ddiwedd y broses a dylech dderbyn e-bost yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru.
Cofrestru Hawl i Astudio Myfyrwyr y DU a'r UE
Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, mae angen prawf o’ch hunaniaeth a chenedligrwydd i gadarnhau eich hawl i astudio, eich statws ffioedd dysgu a'ch cymhwysedd i dderbyn cyllid myfyriwr neu gyllid arall.
I uwchlwytho eich pasbort, sicrhewch fod eich pasbort yn gyfredol (heb ddod i ben) a bod gennych ddelwedd wedi'i sganio'n glir o'r dudalen sy'n cynnwys eich llun a gwybodaeth bersonol (man geni, rhif pasbort ac ati) yn unig.
Ni dderbynnir unrhyw dudalennau eraill. Peidiwch â chynnwys y dudalen gyferbyn â'r dudalen lun gan fod hyn yn lleihau ansawdd y ddelwedd.
I ddechrau mewngofnodi i'ch ap Fewnrwyd MyUni i gofrestru ac y cam cyntaf cofrestru ar-lein yw'r hawl i astudio wher tudalen gallwch uwchlwytho pasbort.
Cofiwch ddod â'ch pasbort wrth gasglu eich cerdyn adnabod Prifysgol. Rhaid i'r pasbort rydych chi'n ei uwchlwytho gyd-fynd â'r pasbort rydych chi'n ei gyflwyno wyneb yn wyneb.
Os nad oes gennych basbort y DU/yr UE, e-bostiwch lun wedi'i sganio o'ch tystysgrif geni a cherdyn adnabod â llun* i studentrecords@abertawe.ac.uk.
*Y mathau derbyniol o gardiau adnabod â llun yw trwydded yrru y DU â llun neu Gerdyn Adnabod Cenedlaethol yr UE, neu gerdyn Cynllun Safonau Prawf Oedran y DU y gallwch ei gael yma www.validateuk.co.uk
Sut i lanlwytho eich pasbort
Dilynwch y camau hyn i lanlwytho eich pasbort:
- Sicrhewch fod gennych lun wedi'i sganio o'ch pasbort cyn i chi ddechrau. Rydym yn derbyn ffeiliau jpeg neu png, maint 100MB ar y mwyaf.
- Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar y fewnrwyd yn MyUni
- Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, dylech weld blwch neges yn eich atgoffa i lanlwytho eich pasbort: “Prior to enrolling online you are REQUIRED to upload your passport Here” Cliciwch ar y ddolen hon i fynd i'r dudalen lanlwytho pasbort. Fel arall, os nad ydych yn gweld y neges hon, gallwch fynd i'ch tudalen 'manylion personol' o'r ddewislen ar y chwith, a chlicio ar y tab 'Adnabod' (Identification).
- Cwblhewch bob adran ar y ffurflen er mwyn lanlwytho eich pasbort, gweler disgrifiad isod o bob un o'r adrannau.
- Image Upload Bydd angen i chi lanlwytho llun jpeg neu png o'ch pasbort. NI ALLWCH lanlwytho pdf. Sicrhewch fod y llun a lanlwythir o ansawdd da oherwydd gall cyflwyno llun o ansawdd gwael eich atal chi rhag casglu eich cerdyn adnabod.
- Passport Number Gellir dod o hyd i rif eich pasbort (9 nod o hyd) yng nghornel dde uchaf eich pasbort.
- Passport Name Mae angen i'r enw fod union yr un peth â'r enw sydd ar eich pasbort. Sicrhewch eich bod yn cofnodi'r holl enwau.
- Issue Date and Expiry Date Dewiswch y dyddiad o'r calendr, gan sicrhau bod y dyddiadau hyn yn gywir oherwydd y gallai hyn eich atal chi rhag casglu eich cerdyn adnabod.
- Passport Nationality Ni ellir newid eich cenedligrwydd oherwydd ei fod yn cael ei gyrchu o'ch manylion personol, a dylai gyd-fynd â'ch pasbort. Dewiswch "Yes" o'r gwymplen os yw eich cenedligrwydd yn gywir, neu "Na" fel arall a dilyn y cyfarwyddiadau.
- Place of Issue. Nodwch eich man geni fel sydd wedi'i nodi ar eich pasbort.
- Country of Birth Dewiswch y wlad geni sydd wedi'i nodi ar eich pasbort o'r gwymplen.
- Place of Birth Nodwch y man geni fel sydd wedi'i nodi ar eich pasbort.
Os ydych yn cael problemau o ran lanlwytho eich pasbort, cysylltwch â studentrecords@abertawe.ac.uk gan nodi eich rhif myfyriwr a manylion am y broblem rydych yn ei hwynebu.
Uwchlwytho pasbort o'r DU neu Iwerddon.
I uwchlwytho eich pasbort, sicrhewch fod eich pasbort yn gyfredol (heb ddod i ben) a bod gennych ddelwedd wedi'i sganio'n glir o'r dudalen sy'n cynnwys eich llun a gwybodaeth bersonol (man geni, rhif pasbort ac ati) yn unig.
Ni dderbynnir unrhyw dudalennau eraill. Peidiwch â chynnwys y dudalen gyferbyn â'r dudalen lun gan fod hyn yn lleihau ansawdd y ddelwedd.
I ddechrau mewngofnodi i'ch ap Fewnrwyd MyUni i gofrestru ac y cam cyntaf cofrestru ar-lein yw'r hawl i astudio wher tudalen gallwch uwchlwytho pasbort.
Cofiwch ddod â'ch pasbort wrth gasglu eich cerdyn adnabod Prifysgol. Rhaid i'r pasbort rydych chi'n ei uwchlwytho gyd-fynd â'r pasbort rydych chi'n ei gyflwyno wyneb yn wyneb.
Darparu Prawf o'ch Hunaniaeth (Cofrestru Hawl i Astudio)
Myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y DU
- Bydd angen i chi gofrestru bob blwyddyn
- Dewch â'ch pasbort a'ch teitheb i leoliad cofrestru
- Os ydych wedi gwneud cais am deitheb newydd, dewch â'ch llythyr cadarnhau hawl gyda chi pan fyddwch yn dod i gasglu eich cerdyn Hawlen Breswylio Fiometrig (BRP)
- Cyflwynwch eich pasbort a'ch teitheb/cerdyn BRP i'w sganio a'i gofnodi gan y Brifysgol i gadarnhau'ch hawl i astudio fel sy'n ofynnol gan Awdurdod Teithebau a Mewnfudo'r DU.
Ar ôl i chi gofrestru, bydd angen i chi gofrestru ar-lein.
Myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio dramor
- E-bostiwch gopi wedi’i sganio o’ch pasbort a’r cytundeb astudio gan eich Coleg ym Mhrifysgol Abertawe yn cadarnhau y byddwch yn astudio dramor yn gyfan gwbl i studentcompliance@abertawe.ac.uk
Ni allaf gofrestru a/neu gyrraedd y campws cyn i'r cwrs ddechrau - beth gallaf ei wneud?
Cyrraedd/cofrestru'n hwyr
Os nad wyt ti'n gallu cofrestru a/neu gyrraedd y campws cyn i dy gwrs ddechrau, cysyllta â Thîm Cymorth Myfyrwyr am gyngor a chytuno ar ddyddiad cyrraedd. RHAID iti gael caniatâd gan dy Ysgol neu Y Coleg cyn teithio i Abertawe.
Myfyrwyr Rhyngwladol sy'n aros am Benderfyniad Fisa: Os nad wyt ti'n meddwl y byddi di'n gallu cyrraedd erbyn y dyddiad y cytunwyd arno gyda'th Gyfadran, ac rwyt ti wedi cyflwyno cais am fisa, a heb gael penderfyniad eto, efallai yr hoffet ti dynnu'r cais yn ôl cyn gynted â phosib. Dylai hyn ysgogi ad-daliad o ffi fisa a thalu tâl ychwanegol Iechyd Mewnfudo. Bydd angen iti gyflwyno cais am fisa newydd ar gyfer dyddiad gohirio dy gwrs ac felly gallai tynnu'n ôl arwain at ddyblygu taliad. E-bostia international campus life i gael mwy o wybodaeth am y broses hon.
Rydw i wedi tynnu'n ôl neu mae fy nghofnod wedi cael ei gau am beidio â chofrestru, beth gallaf i ei wneud?
Myfyrwyr Newydd
Dylech ohirio eich lle os nad wyt ti'n gallu cofrestru ac ymuno â Phrifysgol Abertawe yn y dyfodol, bydd angen iti gysylltu â'r Tîm Derbyn Myfyrwyr perthnasol am gymorth: Cyrsiau israddedig Admissions@abertawe.ac.uk Cyrsiau Ôl-raddedig Postgraduate.Admissions@abertawe.ac.uk
Myfyrwyr sy'n parhau
Dylet ti ohirio dy astudiaethau os nad wyt yn gallu cofrestru a dychwelyd ar ddechrau'r sesiwn nesaf. E-bostia dy dîm Cymorth Myfyrwyr a byddant yn cyflwyno cais ar dy ran i ohirio dy astudiaethau, noda dy enw a'th rif myfyriwr yng nghorff y testun. Gelli di hefyd nodi'r rheswm pam dy fod yn gohirio (e.e. caledi ariannol) ac unrhyw fanylion ychwanegol os oes eisiau.
Caniatâd i gofrestru'n hwyr
Gelli di gyflwyno cais i gofrestru ar ôl i'th gwrs ddechrau fel a ganlyn:
Rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio yn y DU fynd i ddesg gymorth eich Cyfadran neu Ysgol yn bersonol i gyflwyno cais i gofrestru'n hwyr. Ni chaiff ceisiadau dros e-bost eu derbyn.
Gall myfyrwyr sy'n astudio o dramor/ddysgu o bell anfon e-bost Ffurflen Caniatâd i gofrestru (PDF) | Ffurflen caniatâd i gofrestru (Word) i gael cymeradwyaeth cofrestru'n hwyr i'ch tîm cymorth myfyrwyr.
Caniatâd i gofrestru heb gael ei gymeradwyo
Os na ellir cymeradwyo caniatâd cofrestru, yn unol â rheoliad israddedig 4 neu reoliad ôl-raddedig 4, gallwch gyflwyno adolygiad o fewn 10 niwrnod ar ôl cyflwyno. Darllenwch y Proses Adolygu Gweinyddol cyn cyflwyno eich adolygiad.
I gyflwyno eich adolygiad, cwblhewch y ffurflen ganlynol Admin Review Form / Cais am Adolygad Gweinyddol a'i e-bostio at Gyfarwyddwr Cysylltiol Gweithrediadau Myfyrwyr, Gwasanaetha Addysg.
Beth os oes angen i mi dalu ffioedd dysgu?
Yn ystod y cyfnod cofrestru ar-lein, gallwch dalu'r rhandaliad cyntaf ar-lein gyda cherdyn, neu drefnu debyd uniongyrchol a thalu eich ffioedd dysgu yn ddiweddarach mewn tair rhan.
Mae'n rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol dalu o leiaf 50% o'u ffi er mwyn cofrestru.
Os ydych chi'n bwriadu talu trwy ddebyd uniongyrchol ar-lein, dylai fod gennych gyfrif banc cyfredol yn y DU yn eich enw, a dylech drosglwyddo arian i'r cyfrif hwnnw cyn bod y taliad cyntaf yn ddyledus.
Beth yw cofrestru?
Rhaid i bob myfyriwr gofrestru cyn y gallant ymuno â Phrifysgol Abertawe yn swyddogol.
Wrth gofrestru byddwch yn:
- Cofrestrwch eich prawf hunaniaeth, cenedligrwydd a'ch hawl i astudio.
- Cytuno ar-lein i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe am y flwyddyn academaidd, neu'n rhan o'r flwyddyn academaidd.
- Cytuno ar-lein i gadw at rheolau a pholisïau'r Brifysgol.
- Gwirio a diweddaru data personol allweddol yn eich cofnod myfyriwr ar-lein.
- Gwiriwch a dewiswch ar-lein y modiwlau y byddwch chi'n eu hastudio (lle bo hynny'n berthnasol).
- Talu ffioedd dysgu neu profi fod benthyciad myfyriwr, bwrsariaeth, ysgoloriaeth neu grant yn talu eich ffi ddysgu.
- Casglwch eich cerdyn adnabod Prifysgol a Llyfrgell
- Mynychu digwyddiadau sefydlu a chroesawu digwyddiadau yn eich Coleg
Os na fyddwch yn cofrestru ni fyddwch yn gallu:
- Hawlio cerdyn adnabod Prifysgol a Llyfrgell
- Derbyn Benthyciad Cyllid Myfyrwyr neu daliadau bwrsariaeth / ysgoloriaeth eraill (lle bo hynny'n berthnasol)
- Defnyddio adnoddau ar gyfer eich rhaglen astudio
- Cymryd rhan yn asesu
- Defnyddio gwasanaethau ychwanegol y Brifysgol
- Derbyn prawf o lythyrau cofrestru ar gyfer trydydd partïon (er enghraifft i agor cyfrif Banc)
- Byw mewn (lle bo hynny'n berthnasol)
- Derbyn eithriad Treth Gyngor
Pryd mae'r tymor a'r addysgu yn dechrau?
Cliciwch yma am y dyddiadau ar gyfer cyrsiau mynediad mis Medi ac mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cofrestru erbyn dyddiad cychwyn y tymor ond mae'n hanfodol eich bod wedi cofrestru erbyn dyddiad cychwyn y cwrs pan fydd addysgu a'r flwyddyn ymchwil yn dechrau.
Cysylltwch â'ch Tîm Cymorth i Fyfyrwyr os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch anwythiad, amserlen addysgu a modiwlau, goruchwyliaeth ymchwil neu os bydd oedi wrth i chi gyrraedd.
Os ydych yn fyfyriwr ar hyn o bryd, mae eich amserlenni addysgu ar gyfer Semester 1 bellach ar gael i’w gweld yma.
Pryd ydw i'n cofrestru?
Disgwylir i chi gofrestru ar ddechrau pob blwyddyn o'ch cwrs. Bydd hyn yn ystod mis Medi ar gyfer y rhan fwyaf o fyfyrwyr pan fydd modd cofrestru ar-lein ar gyfer pob cwrs sy'n dechrau ym mis Medi neu Hydref.
Os ydych yn cymryd blwyddyn i ffwrdd o’ch astudiaethau, gallwch gofrestru'n gynharach yn ystod mis Awst a byddwn yn anfon neges e-bost atoch yn eich atgoffa i gofrestru ar-lein.
Ar gyfer myfyrwyr iechyd, meddygaeth, Cwrs Ymarfer y Gyfraith/Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion, Hyfforddiant Iaith Saesneg, addysg oedolion, myfyrwyr cyfnewid, myfyrwyr ymweld a myfyrwyr ymchwil sy'n dechrau yn ystod misoedd eraill, edrychwch ar yr amserlenni ar gyfer cofrestru'n gynnar a mathau eraill o gofrestru.
Cynghorir trwy e-bost pryd y gallwch gael cyrchiad i’ch cyfrif.
- Mewngofnodwch i'n gwasanaethau ar-lein yn myuni.swan.ac.uk sy'n caniatáu i chi gael mynediad at y rhyngrwyd, eich e-bost, Canvas, a gwasanaethau ar-lein eraill. Eich cyfeiriad e-bost yw’ch rhifmyfyriwr@abertawe.ac.uk. Er enghraifft, os 123456 yw'ch rhif myfyriwr, eich cyfeiriad e-bost yw 123456@abertawe.ac.uk
- Wrth fewngofnodi i’ch cyfrif yn y Brifysgol, gofynnir i chi newid eich cyfrinair. Unwaith y byddwch wedi newid eich cyfrinair, gofynnir i chi ddarparu mwy o wybodaeth i gofrestru er mwyn eich galluogi chi i reoli eich cyfrinair eich hun e.e. os ydych wedi anghofio eich cyfrinair neu os yw eich cyfrif wedi’i rwystro. I gofrestru, bydd angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth i brofi pwy ydych chi, megis rhif ffôn symudol i dderbyn neges destun, cyfrif e-bost arall neu ymatebion i gwestiynau diogelwch. Gallwch benderfynu peidio â chofrestru yn awr, ond cewch eich annog bob amser y byddwch yn mewngofnodi i’ch cyfrif nes eich bod wedi cofrestru.
Timau Cymorth i Fyfyrwy
Cynhaliaeth ysgolion, addysgu a chaniatâd cofrestru hwyr
Meddygol, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe
Newid Dewis Modiwlau
academic-cultureandcom@abertawe.ac.uk (clasuron, hanes, y cyfryngau, ieithoedd modern, llenyddiaeth, ieithyddiaeth)
academic-law@abertawe.ac.uk (cyfraith)
academic-management@abertawe.ac.uk (busnes, Cyllid a Chyfrifeg)
academic-socialsciences@abertawe.ac.uk (troseddeg, economeg, addysg, cysylltiadau rhyngwladol, athroniaeth, gwleidyddiaeth)
Quality-MedicineHealthLifescience@abertawe.ac.uk (astudiaethau iechyd, gwyddor bywyd, meddygaeth, nyrsio, parafeddyg, meddyg)
Quality-ScienceEngineering@abertawe.ac.uk (biowyddoniaeth, cemeg, cyfrifiadureg, peirianneg, mathemateg, ffiseg)
Hyfforddiant Iaith ac Addysgu mewn Addysg Uwch
Gwasanaethau Academaidd, Llyfrgell a TG
MyUniHub@abertawe.ac.uk cofrestru, yr hawl i gofrestru, ffioedd a chyllid
MyUniLibrary@abertawe.ac.uk Llyfrgell
Gwasanaeth nawr Gosod cyfrif TG (cyfrineiriau, MFA, WiFi) a gwasanaethau TG eraill
Beth os na allaf gofrestru ar-lein?
Os oes gennych ymholiad cofrestru cysylltwch â MyUniHub a bydd aelod o staff yn eich helpu neu os oes unrhyw ymholiadau eraill yn pori ein tudalen we MyUni ar gyfer myfyrwyr presennol.
Angen cymorth gyda chofrestru?
Gwylia ein fideo newydd ynghylch cofrestru gam wrth gam!