Mae'r gweithdrefnau hyn ar gael i ymgeiswyr sydd wedi cofrestru gyda'r Brifysgol, p’un a ydynt yn astudio neu'n byw dramor (gan gynnwys y rhai hynny sy'n dilyn rhaglen gydweithredol gyda sefydliad partner), neu'n cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith neu ddysgu seiliedig ar waith, ac ymgeiswyr sydd wedi gohirio eu hastudiaethau ar sail dros dro. Mae'r gweithdrefnau hyn yn berthnasol hefyd i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd wedi tynnu'n ôl o'u rhaglen, neu sydd wedi cwblhau eu rhaglen, ar yr amod bod yr apêl yn cael ei chyflwyno o fewn 3 mis ar ôl derbyn penderfyniad y Bwrdd Arholi sy’n destun yr apêl.
Mae’r gweithdrefnau apelio hyn yn berthnasol i ymgeiswyr sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau yn yr amgylchiadau canlynol:
- Ymgeiswyr sy’n cael eu rhwystro rhag parhau â’u hastudiaethau ar ganol lefel astudio neu ran o raglen.
- Ymgeiswyr sy’n methu cymhwyso i symud ymlaen i gam nesaf eu rhaglen ar ddiwedd lefel, ar ddiwedd rhan neu ar ddiwedd blwyddyn.
- Pan allai goblygiadau’r penderfyniad dilyniant a wnaed gan y Bwrdd Arholi gael effaith sylweddol ar ganlyniadau cyffredinol y myfyriwr (e.e. capio marciau).
- Ymgeiswyr sydd wedi cwblhau eu rhaglen ond sy’n dymuno apelio yn erbyn y canlyniad, neu ymgeiswyr sy’n anfodlon bod y Brifysgol wedi dyfarnu cymhwyster ymadael iddynt.
2.1
Seiliau ar gyfer Apêl
2.2
Caiff profiad a gwybodaeth myfyriwr, perfformiad y myfyriwr ac a yw wedi cyrraedd y safon academaidd ofynnol, ac ymwybyddiaeth o arfer gorau mewn addysg uwch eu cyfuno i alluogi arholwr i wneud penderfyniad academaidd ar allu myfyriwr. Barn academaidd yw penderfyniad y staff academaidd ar ansawdd gwaith academaidd neu'r meini prawf a ddefnyddir i farcio gwaith (yn hytrach na'r broses farcio weinyddol). Ni fydd apeliadau academaidd sy'n herio'r farn academaidd hon yn cael eu hystyried.
2.3
Ni fydd apeliadau yn erbyn penderfyniadau gan Bwyllgorau Amgylchiadau Arbennig Cyfadrannau/Ysgolion (neu Bwyllgor priodol), Pwyllgor Partneriaethau Cydweithredol neu Fwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd y Brifysgol (neu ei enwebai), mewn perthynas ag amgylchiadau esgusodol fel arfer yn cael eu hystyried.
2.4
Bydd y Brifysgol yn ystyried apeliadau academaidd sy’n seiliedig ar un neu fwy o’r rhesymau canlynol yn unig:
2.4.1
Ni wnaeth y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ystyried yr holl waith a oedd i’w gyflwyno, ac a gyflwynwyd yn gywir, i’w asesu.
2.4.2
Roedd tystiolaeth o wall cyfrifo neu wall gweinyddol wrth ddod i’r penderfyniad diwedd lefel/rhan.
2.4.3
Cafwyd tystiolaeth o ragfarn neu dueddfryd neu asesu annigonol, heb fod o natur academaidd, gan un neu fwy o’r arholwyr.
2.4.4
Roedd diffygion neu anghysondebau yn y modd y cynhaliwyd yr asesiad neu mewn cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu gyngor yn eu cylch sydd, oherwydd eu natur, yn peri amheuaeth resymol ynghylch a fyddai’r arholwyr wedi dod i’r un penderfyniad pe na baent wedi digwydd. Rhaid i ymgeiswyr ddarparu rheswm cymhellol dros beidio â thynnu sylw eu Cyfadran/Hysgol at y diffygion neu'r anghysondebau ar y pryd.
2.4.5
Roedd yr arholwyr yn ymwybodol o ddiffygion neu anghysondebau yn y modd y cynhaliwyd yr asesiad neu mewn cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu mewn cyngor yn eu cylch, pan allai'r diffygion neu'r anghysondebau, ym marn yr ymgeisydd, fod wedi cael effaith niweidiol ar ei berfformiad ond ni wnaeth yr arholwyr roi ystyriaeth lawn i'r diffygion neu'r anghysondebau hyn.
2.4.6
Amgylchiadau esgusodol (yn unol â'r diffiniad yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu) nad oedd yr Arholwyr yn ymwybodol ohonynt ac a effeithiodd yn niweidiol ar berfformiad academaidd yr ymgeisydd. Mae'n rhaid i ymgeiswyr ddarparu esboniad, ynghyd â thystiolaeth ategol, i ddangos:
(i) Bod gan yr ymgeisydd amgylchiadau esgusodol ar adeg yr asesiad yr effeithiwyd arno; a
(ii) Bod yr amgylchiadau esgusodol wedi cael effaith niweidiol ar berfformiad academaidd yr ymgeisydd yn yr asesiad yr effeithiwyd arno; ac
(iii) Roedd yr Ymgeisydd:
(a) yn methu penderfynu a oedd yn ddigon iach i ymgymryd â'r asesiad; a/neu
(b) roedd gan yr ymgeisydd reswm da dros beidio â hysbysu'r Gyfadran/Ysgol/Sefydliad Partner Cydweithredol am ei amgylchiadau ar yr adeg berthnasol (gweler Adrannau 2.5 a 2.6).
2.5
Yn unol â rheoliadau'r Brifysgol, disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno cais i'w Cyfadran/Hysgol/Sefydliad Partner Cydweithredol, ynghyd â thystiolaeth o unrhyw amgylchiadau personol a allai fod wedi cael effaith niweidiol ar eu hastudiaethau, yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu. Yn achos arholiadau, rhaid cyflwyno ceisiadau o'r fath yn unol â'r polisi ac erbyn y dyddiadau cau a nodir. Fel arfer, ni fydd apêl academaidd ar sail 'amgylchiadau esgusodol newydd' nad yw wedi'i chyflwyno i'r Gyfadran/yr Ysgol yn unol â'r polisi a nodir, ac erbyn y dyddiad cau a nodir, yn cael ei hystyried.
Disgwylir i ymgeiswyr sy'n astudio ar y rhaglenni canlynol gyflwyno ceisiadau am amgylchiadau esgusodol i'w Cyfadran/Hysgol yn unol â'r gweithdrefnau a'r terfynau amser a nodir yn llawlyfr eu Cyfadran/Hysgol. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhain dros bolisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu ar gyfer y rhaglenni hyn:
• MBBCh Meddygaeth;
• Cwrs Ymarfer Cyfreithiol;
• LLM - Rhaglen Meistr a Addysgir Hyblyg
Yn achos myfyrwyr ymchwil, disgwylir i fyfyrwyr hysbysu eu goruchwylwyr am amgylchiadau a allai effeithio ar eu hastudiaethau wrth iddynt godi er mwyn iddynt gael eu hystyried yn briodol a/neu er mwyn cymryd camau priodol. Pan fydd arholiad llafar (ymchwil) gan yr ymgeisydd, disgwylir i'r ymgeisydd hysbysu'r Bwrdd Arholi am unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar ei arholiad. Ni fydd apeliadau academaidd sy’n seiliedig ar amgylchiadau esgusodol y gellid bod wedi tynnu sylw’r Bwrdd Arholi atynt cyn yr arholiad llafar yn cael eu hystyried.
2.6
Bernir na fyddai'r ymgeisydd wedi gallu asesu a oedd yn ddigon iach i ymgymryd â'r asesiad, a/neu fod ganddo reswm da dros beidio â rhoi gwybod i'r Gyfadran/yr Ysgol/Sefydliad Partner Cydweithredol am ei amgylchiadau ar yr adeg briodol, pan fydd ymgeisydd yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig briodol i ddangos:
(a) Bod unrhyw un o'r amgylchiadau esgusodol canlynol wedi effeithio arno
• Iselder ysbryd difrifol.
• Problemau iechyd meddwl difrifol.
• Cyfnod fel claf mewn lleoliad seiciatrig.
• Marwolaeth perthynas agos (a ddiffinnir fel rhiant/llys-riant/prif ofalwr yr ymgeisydd, brawd neu chwaer/llysfrawd neu lyschwaer, partner/priod, mab neu ferch/llysfab/llysferch/plentyn maeth.)
• Ymosodiad rhywiol difrifol.
• Camesgoriad
• Diagnosis o salwch angheuol yn yr ymgeisydd a/neu berthynas agos (a ddiffinnir fel rhiant/llys-riant/prif ofalwr yr ymgeisydd, brawd neu chwaer/llysfrawd neu lyschwaer, partner/priod, mab neu ferch/llysfab/llysferch/plentyn maeth).
• Salwch/anaf a oedd yn peryglu bywyd yr ymgeisydd neu fywyd perthynas agos (a ddiffinnir fel rhiant/llys-riant/prif ofalwr yr ymgeisydd, brawd neu chwaer/llysfrawd neu lyschwaer, partner/priod, mab neu ferch/llysfab/llysferch/plentyn maeth) a oedd yn cynnwys arhosiad yn yr ysbyty.
• Datgeliad diweddar i'r Heddlu mewn perthynas â cham-drin rhywiol hanesyddol.
• Datgeliad diweddar i'r Heddlu mewn perthynas â cham-drin domestig/rheolaeth drwy orfodaeth ac
(b) Nad oedd yr amgylchiadau uchod wedi digwydd ynghynt na thri mis calendr cyn y dyddiad cyflwyno/arholi ar gyfer yr asesiad dan sylw.
Nid yw'r uchod yn rhwystro ymgeisydd rhag cyflwyno apêl sy'n seiliedig ar unrhyw fath o amgylchiadau esgusodol ac amgylchiadau a gododd ynghynt na thri mis cyn y dyddiad cyflwyno/arholi ar gyfer yr asesiad dan sylw ar yr amod y bodlonir y meini prawf yn Adran 2.4.6.
2.7
Fel arfer, ni chaniateir i ymgeiswyr y caniatawyd asesiadau atodol iddynt gyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw.