Rheoliadau A Gweithdrefnau Ar Gyfer Gweithredu Arholiadau
1. Cyflwyniad
1.1
Bydd y rheoliadau hyn yn rheoli'r gwaith o gynnal pob arholiad ffurfiol sy'n gysylltiedig ag asesu unrhyw fodiwl a gynigir o fewn rhaglen astudio yn y Brifysgol. Mae'n rhaid i unrhyw wyriad oddi wrth y rheoliadau hyn gael ei gymeradwyo'n gyntaf gan y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau a'r Pwyllgor Addysg y Brifysgol.
1.2
Dylid darllen y rheoliadau hyn ar y cyd â'r rheoliadau a gymeradwywyd ar gyfer y rhaglen astudio dan sylw, gan gynnwys rhaglenni Meistr a Addysgir.
1.3
Mewn argyfwng, neu o dan amgylchiadau eithriadol, gall y Brifysgol ddiwygio, amrywio neu ddisodli'r rheoliadau hyn, ond bydd yn hysbysu'r holl bartïon yr effeithir arnynt.
1.4
Y Coleg, Prifysgol Abertawe: Lle cyfeirir at y Swyddfa Arholiadau isod, yn hytrach, dylai myfyrwyr gyfeirio at Swyddfa Gwasanaethau’r Coleg, Y Coleg, Prifysgol Abertawe. Mae Swyddfa Gwasanaethau’r Coleg yn gyfrifol am yr holl drefniadau arholiadau ar gyfer myfyrwyr Y Coleg, Prifysgol Abertawe.
2. Gweithdrefnau Arholiadau
2.1
Caiff holl arholiadau ‘mewn person’ y Brifysgol, gan gynnwys arholiadau atodol, eu sefyll yn Abertawe. Fel arfer, bydd gan gyrsiau dri chyfnod arholiad swyddogol a fydd yn digwydd ar ddiwedd y bloc addysgu cyntaf, diwedd yr ail floc addysgu a chyfnod atodol.
2.2
Bydd pob arholiad ffurfiol yn para am un o’r cyfnodau canlynol:
- Awr
- Awr a hanner
- Dwy awr
- Tair awr
2.3
Darperir yr wybodaeth ganlynol i bob ymgeisydd:
- Y dulliau asesu sydd i'w defnyddio ar gyfer pob modiwl gan gynnwys y pwysiad a roddir i'r gwahanol elfennau asesu;
- Dyddiadau'r cyfnod arholi;
- Yr amserlenni ar gyfer arholiadau ffurfiol a chyflwyno gwaith arall a asesir, gan
gynnwys dyddiad, amser, lleoliad a hyd yr arholiad; - Rheoliadau sy'n ymwneud ag ymddygiad mewn lleoliadau arholi;
- Gwybodaeth am y weithdrefn i'w dilyn pe bai honiadau o gamymddwyn academaidd yn codi;
- Y gweithdrefnau a gymeradwyir gan y Brifysgol ar gyfer cyhoeddi marciau/graddau a'r canlyniadau terfynol;
- Gwybodaeth am Weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a Gweithdrefn Apeliadau Academaidd y Brifysgol;
- Y gweithdrefnau ar gyfer ystyried amgylchiadau personol eithriadol, fel y'u hamlinellir yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu.
2.4
Bydd y Brifysgol yn hysbysu myfyrwyr am ddyddiadau'r cyfnodau arholi swyddogol ar ddechrau pob sesiwn academaidd, a rhoddir amserlenni ar gyfer arholiadau penodol yn y cyfnodau hyn i fyfyrwyr o leiaf pedair wythnos ymlaen llaw (yn amodol ar 2.4 isod).
2.5
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i newid amserlenni Arholiadau ar fyr rybudd er mwyn ymateb i ddigwyddiadau nas rhagwelwyd (megis y tywydd, neu broblem gyda lleoliad neu offer). Hysbysir pob ymgeisydd y mae'r fath newidiadau yn effeithio arno cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl.
2.6
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i beidio â phrosesu marciau os na chadarnhawyd hunaniaeth yr ymgeisydd.
3. Ymddygiad Ymgeiswyr (arholiadau mewn person)
3.1
Disgwylir i ymgeiswyr fynychu arholiadau a chyflwyno gwaith i'w asesu fel sy'n ofynnol. Os nad yw myfyriwr yn mynd i arholiad neu os nad yw'n cyflwyno gwaith i'w asesu, heb reswm da, fel arfer dylai bwrdd arholi'r Gyfadran/Ysgol benderfynu bod y myfyriwr wedi methu'r asesiad dan sylw.
3.2
Rhaid i ymgeiswyr roi gwybod i'r Swyddfa Arholiadau yn ysgrifenedig os nad ydynt yn gallu sefyll arholiadau ar ddiwrnodau penodol am resymau crefyddol, erbyn 31 Hydref ar gyfer arholiadau mis Ionawr, ac erbyn 1 Chwefror ar gyfer arholiadau mis Mai/Mehefin. I'r graddau y mae hynny'n bosib, bydd y Swyddog Arholiadau yn ystyried yr wybodaeth hon wrth lunio'r amserlen arholiadau.
3.3
Er mwyn uniondeb academaidd, ni chaniateir i fyfyrwyr wisgo gorchuddion pen yn ystod arholiad ac eithrio am resymau crefyddol neu feddygol. Yn yr achos hwn, cyn dechrau'r arholiad, gofynnir i'r myfyriwr ddangos i'r goruchwylydd nad yw'n cuddio unrhyw dyllu clust na dyfeisiau electronig cudd. Bydd gwiriadau o'r fath yn cael eu cynnal yn breifat. Caiff myfyriwr ofyn yn benodol i aelod o staff gwrywaidd/benywaidd (fel y bo'n briodol) gynnal y gwiriad. Anogir myfyrwyr i gysylltu â thimau Swyddfa Arholiadau, Lles neu Gaplaniaeth y Brifysgol cyn y sesiwn arholi os ydynt yn dymuno trafod unrhyw faterion yn hyn o beth.
3.4
Rhaid i ymgeiswyr hysbysu eu Cyfadrannau/Hysgolion'n fanwl mewn ysgrifen am unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai fod wedi effeithio ar eu hastudiaethau a'u gwaith paratoi yn arwain at gyfnodau asesu yn unol a'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n effeithio ar asesu. Mae'n hollbwysig bod ymgeiswyr yn siarad â'u Tiwtoriaid Personol neu ag aelod arall o staff yn y Gyfadran/Ysgol cyn gynted â phosibl er mwyn hysbysu Bwrdd Arholi'r Gyfadran/Ysgol am y ffeithiau ymhell cyn cyfarfodydd y Bwrdd Dyfarnu/Dilyniant. Gall peidio â hysbysu eu Cyfadran/Hysgol am eu hanawsterau a pheidio â darparu tystiolaeth mewn da bryd cyn cyfarfod Bwrdd Arholi'r Gyfadran/Ysgol olygu y diystyrir yr amgylchiadau honedig. Gallai 'amgylchiadau esgusodol' gynnwys problemau personol neu academaidd neu broblemau yn cynnwys anawsterau o ran defnyddio cyfleusterau neu gael deunyddiau sy'n berthnasol i'r cwrs.
3.5
Mae ymgeiswyr yn gyfrifol am wirio eu hamserlenni arholiad yn ofalus pan fyddant yn cael eu cyhoeddi i sicrhau bod yr holl arholiadau maent yn disgwyl eu sefyll wedi'u hamserlennu.
3.6
Rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn cyrraedd lleoliad yr arholiad mewn da bryd cyn i'r arholiad ddechrau. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn barod i ddechrau eu harholi ar yr amser cychwyn a gyhoeddwyd.
3.7
Ni ddylai ymgeiswyr ddechrau eu harholiad a/neu fynd i mewn i'r lleoliad (lle y bo’n berthnasol) cyn i'r Goruchwyliwr ddweud wrthynt am wneud hynny.
3.8
Ni roddir amser ychwanegol i unrhyw ymgeisydd sy'n cyrraedd/dechrau ar ôl i'r arholiad ddechrau.
3.9
Ni chaiff ymgeiswyr sy’n sefyll arholiadau mewn person adael eu desgiau heb ganiatâd goruchwyliwr.
3.10
Ni all ymgeisydd y mae ei lyfr atebion wedi'i gasglu ddychwelyd i leoliad y’r arholiad.
3.11
Rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn mynd â'u Cerdyn Adnabod i leoliad yr arholiad bob amser a'i ddangos yn glir ar y ddesg yn ystod yr arholiad. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i beidio â phrosesu marciau os na chadarnhawyd hunaniaeth yr ymgeisydd. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau slip presenoldeb yn llawn hefyd. Rhaid bod gan ymgeiswyr eu cerdyn adnabod mewn unrhyw arholiad a rhaid iddynt ei arddangos yn glir pan ofynnir iddynt wneud hynny. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i beidio â phrosesu marciau os nad yw hunaniaeth ymgeiswyr wedi'i chadarnhau. Ar gyfer arholiadau wyneb yn wyneb, rhaid i ymgeiswyr hefyd gwblhau slip presenoldeb yn llawn.
3.12
Rhaid i ymgeiswyr sicrhau nad ydynt yn cymryd rhan mewn unrhyw fath o camymddwyn academaidd, lle maent yn gweithredu mewn ffordd a allai roi mantais nas caniateir iddynt hwy eu hunain, neu i eraill.
3.13
Dim ond cymhorthion a ganiateir ar gyfer eu harholiad y caiff ymgeiswyr fynd â hwy i' leoliad yr arholiad. Yn achos arholiadau mewn person, rhaid i'r cymhorthion hyn (er enghraifft pensiliau, beiros) gael eu cario mewn cas bensiliau clir a thryloyw, neu mewn "poly pocket", a gaiff ei archwilio wrth i'r ymgeiswyr fynd i mewn ii' leoliad yr arholiad.
3.14
Ni chaniateir i ymgeiswyr fynd â chotiau, bagiau dyfeisiau electronig nac eitemau tebyg eraill i mewn i leoliad yr arholiad. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl yn ôl ei disgresiwn llwyr i eithrio eitemau eraill o'r lleoliad arholiad nad ydynt wedi'u rhestru fel arall.
Yn achos arholiadau mewn person, Dylai'r rhain gael eu storio'n ddiogel gan ymgeiswyr yn eu cyfeiriad preswyl yn hytrach na dod â nhw i leoliad yr arholiad. Os yw ymgeisydd yn dewis dod ag eitemau o'r fath i leoliad yr arholiad yna mae'n rhaid gadael yr eitemau hynny yn yr ardal ddynodedig (y tu allan i leoliad yr arholiad fel rheol) a'u gadael ar risg yr ymgeisydd ei hun.
Nid yw'r Brifysgol yn derbyn atebolrwydd am unrhyw eitemau personol a gollir, a ddifrodwyd neu a ddygwyd (gan gynnwys dyfeisiau electronig) y tu mewn neu'r tu allan i leoliad yr arholiad a dylai ymgeiswyr sicrhau bod yr eitemau hynny'n cael eu gwarchod gan eu hyswiriant personol eu hunain yn erbyn ystod o risgiau arferol gan gynnwys colled, dwyn a difrod damweiniol.
3.15
Ni chaniateir dyfeisiadau electronig yn yr ystafelloedd arholiadau (mae hyn yn cynnwys y brif ystafell arholi ac unrhyw ystafell arall y mae gan yr ymgeisydd fynediad iddi, gan gynnwys toiledau cyhoeddus) oni nodir fel arall yng nghyfarwyddiadau'r papur arholiad. Tybir bod cael eich dal â dyfais electronig nas caniateir gan gyfarwyddyd yr arholiad yn eich meddiant, a lle nad oes tystiolaeth bod y ddyfais wedi'i defnyddio yn achos o dorri rheoliadau arholi.
3.16
Ni chaiff ymgeiswyr ddechrau’r arholiad ysgrifennu, heblaw am gwblhau'r manylion adnabod ar y slip presenoldeb a'r llyfr atebion, nestan iddynt gael caniatâd y Goruchwyliwr i wneud hynny.
3.17
Yn achos arholiadau mewn person, dim ond y deunydd ysgrifennu swyddogol a ddarperir a gaiff ei ddefnyddio gan ymgeiswyr, dylid gwneud unrhyw nodiadau ar y deunydd ysgrifennu a ddarperir a'i gyflwyno gyda'r llyfr atebion wedi'i gwblhau. Ni ellir mynd ag unrhyw lyfr atebion, nodiadau na deunydd ysgrifennu swyddogol o'r lleoliad. Cyfeiriwch at y rheoliadau sy'n llywodraethu arholiadau ar-lein i gael gwybodaeth yn hyn o beth.
3.18
Ni chaiff ymgeiswyr feddu ar, na defnyddio, unrhyw lyfr, llawysgrif, cyfrifiannell electronig, nac unrhyw gymhorthyn arall nas caniateir yn benodol yng nghyfarwyddyd y papur arholiad, yn yr ystafell arholiad.
3.19
Yn achos arholiadau mewn person, dDim ond cyfrifianellau'r Brifysgol a ddarperganiateir oni nodir fel arall yng nghyfarwyddyd y Gyfadran/Ysgol ac ni ddylent gynnwys unrhyw ddata na rhaglen a gofnodwyd gan ddefnyddiwr ac ni ddylai fod modd eu defnyddio i gyfathrebu'n electronig.
3.20
Rhaid i ymgeiswyr ymddwyn mewn modd urddasol a pharchus buddiannau ymgeiswyr eraill bob amser.
3.21
Hysbysir Caiff ymgeiswyr sy’n sefyll arholiad mewn person yr amheuir eu bod wedi ymwneud ag arfer annheg camymddwyn yn academaidd neu wedi helpu ymgeisydd arall yn groes i'r rheoliadau arholiadau, eu hysbysu mewn ysgrifen, y cyflwynir adroddiad ar y digwyddiad i'r Cyfarwyddwr Uniondeb Academaidd, ac y gellir cymryd camau pellach yn eu herbyn. Fodd bynnag, caniateir i'r ymgeiswyr barhau yn yr arholiad dan sylw, ac arholiadau dilynol, heb ragfarnu unrhyw benderfyniad y gellir ei wneud wedi hynny.
3.22
Ymdrinnir ag ymgeiswyr sy'n sefyll arholiad ar-lein yr amheuir eu bod wedi camymddwyn yn academaidd yn unol â'r rheoliadau ar gyfer arholiadau ar-lein.
3.23
Bydd ymgeiswyr y gwelwyd eu bod yn ymddwyn yn groes i'r rheoliadau arholi, a lle tybir bod eu hymddygiad yn yr arholiad yn annerbyniol, yn cael rhybudd ysgrifenedig ffurfiol, oherwydd y posibiliad bod eu gweithredoedd wedi tynnu sylw ymgeiswyr eraill er anfantais i'r ymgeiswyr hynny. Cânt eu rhybuddio, os byddant yn parhau i aflonyddu ac ymddwyn mewn modd sy'n debygol o amharu ar ymgeiswyr eraill ymhellach, y bydd angen iddynt adael y lleoliad ar unwaith. Ni chaniateir i'r fath ymgeiswyr ddychwelyd i'r arholiad hwn a hysbysir y Cyfarwyddwr Uniondeb Academaidd am achosion o dorri rheoliadau arholi y digwyddiad.
3.24
Rhaid i ymgeiswyr roi'r gorau i ysgrifennu ar unwaith pan ddywedir wrthynt am wneud hynny ar ddiwedd yr arholiad. Ar gyfer arholiadau mewn person, y Prif Oruchwyliwr fydd yn penderfynu pryd y daw'r arholiad i ben.
3.25
Ar ddiwedd yr arholiadau mewn person, rhaid i ymgeiswyr aros yn dawel yn eu seddau nes bod yr holl lyfrau atebion wedi'u casglu a nes bod y Prif Oruchwyliwr yn rhoi caniatâd iddynt adael.
4. Cyfarwyddwr Uniondeb Academaidd
4.1
Bydd y Cyfarwyddwr Swyddog Arholiadau yn gyfrifol am ymddygiad,uniondeb a diogelwch arholiadau/asesiadau a bydd yn:
- Gwneud trefniadau ar gyfer goruchwylio arholiadau;
- Gwneud trefniadau priodol ar gyfer ymdrin ag ymgeiswyr sy'n absennol o arholiadau/asesiadau yn unol â darpariaethau'r gweithdrefnau hyn, gan gynnwys rhoi gwybod i Fyrddau Arholi'r Cyfadrannau/Ysgolion am achosion, cofnodi achosion o'r fath a chyflwyno adroddiadau amdanynt;
- Anfon adroddiad i'r Senedd, ar ddiwedd yr arholiadau, ar y modd y'u cynhaliwyd, gan nodi manylion unrhyw anawsterau a allai fod wedi codi, a chan gynnwys unrhyw awgrymiadau am welliannau o ran cynnal arholiadau.
6. Arholiadau Llyfr Agored
6.1
Yn achos arholiadau llyfr agored, caiff myfyrwyr ddod â deunydd i'r arholiad, fel a fanylir yn y cyfarwyddyd, ar ffurf copi caled yn unig. Ni chaniateir offer electronig (megis iPad neu lechen ac ati) sydd â'r deunyddiau wedi'u llwytho.
7. Defnyddio Geiriaduron
7.1
Ni chaniateir mynd â geiriaduron Saesneg/iaith dramor i mewn i leoliadau arholiadau oni nodir yn glir yn y cyfarwyddyd y gellir eu defnyddio. Ar gyfer arholiadau mewn person, bydd gan oruchwylwyr gyflenwad o eiriaduron Saesneg yn unig a geiriaduron Saesneg/Cymraeg ym mhob lleoliad y gall ymgeiswyr gyfeirio atynt, ar yr amod bod y cyfarwyddyd yn caniatáu hyn.
Yng ngoleuni COVID-19, rhennir offer cyn lleied â phosibl. Fodd bynnag, lle bo angen rhannu offer, cymerir camau glanhau a hylendid rhesymol.
8. Cyfrifianellau
8.1
Ar gyfer arholiadau mewn person, ni chaniateir i ymgeiswyr ddefnyddio eu cyfrifianellau eu hunain. Bydd y Brifysgol yn darparu cyfrifianellau safonol i'w defnyddio ym mhob lleoliad. Ni ddisgwylir i oruchwylwyr archwilio cyfrifianellau personol neu gyfrifianellau'r Gyfadran/Ysgol oherwydd y posibilrwydd y bydd myfyrwyr yn cael mantais annheg. Yr arholwr neu'r Gyfadran/Ysgol sy'n gyfrifol am hyn. Yng ngoleuni COVID-19, rhennir offer cyn lleied â phosibl. Fodd bynnag, lle bo angen rhannu offer, cymerir camau glanhau a hylendid rhesymol.
9. Dyfeisiadau Electronig
9.1
Ni chaniateir dyfeisiadau electronig mewn arholiad oni nodir fel arall yn y cyfarwyddyd ar gyfer y papur arholi. Bydd ymgeiswyr y gwelir eu bod yn torri rheoliadau'r arholiadau drwy ddod â dyfais electronig heb awdurdod i mewn i leoliad yr arholiad yn cael eu trin yn unol â’r gweithdrefn camymddwyn academaidd.
10. Bwyd
10.1
Ni chaniateir bwyta mewn arholiad oni bai drwy drefniant ymlaen llaw gyda'r Swyddfa Arholiadau/Cyfadran/Ysgol ar sail feddygol.
11. Paratoi Papurau Arholiad
11.1
Swyddogion Arholi’r Cyfadrannau/Ysgolion neu eu henwebei fydd yn gyfrifol am sicrhau y cynhyrchir y papurau arholiad perthnasol mewn pryd ar gyfer y cyfnod asesu, ac am sicrhau bod nifer digonol o bapurau'n cael eu cynhyrchu ar gyfer yr arholiadau.
11.2
Bydd Swyddogion Arholi’r Cyfadrannau/Ysgolion neu eu henwebei on hefyd yn bodloni eu hunain bod y sawl a ysgrifennodd y papur gwreiddiol wedi prawf ddarllen y papur cwestiynau ac wedi craffu arno yn drylwyr, a hynny, yn ddelfrydol, ar y cyd ag aelod arall o staff. Caiff y papurau cwestiynau eu harchwilio o ran eglurder, darllenadwyaeth ac er mwyn sicrhau eu bod yn gyflawn, a bydd Swyddog Arholi'r Gyfadran/Ysgol yn sicrhau hefyd bod unrhyw ddeunydd ychwanegol, e.e. tablau ac ati, y cyfeirir ato yn y cyfarwyddyd wedi'i atodi neu ei amgáu.
11.3
Bydd Swyddog Arholi’r Gyfadran/Ysgol neu ei enwebai'n sicrhau, os yw'n briodol, bod y papurau cwestiynau wedi'u cymeradwyo gan yr Arholwr Allanol.
11.4
Bydd Swyddog Arholi'r Gyfadran/Ysgol neu ei enwebai'n sicrhau diogelwch y papurau arholiad trwy'r amser, cyn eu trosglwyddo i'r Swyddfa Arholiadau.
11.5
Bydd Swyddog Arholi'r Gyfadran/Ysgol neu ei enwebai'n gyfrifol am drosglwyddo'r Papurau Cwestiynau yn ddiogel i'r Swyddfa Arholiadau ymhell cyn cyfnod yr arholiadau.
12. Addasiadau i Drefniadau Arholi/Asesu
12.1
Bydd y Brifysgol yn gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr ag anghenion penodol, yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth sydd mewn grym, yn benodol Deddf Cydraddoldeb 2010.
12.2
Bydd ymgeiswyr a aseswyd ac a gofrestrwyd fel rhai y mae angen darpariaeth benodol arnynt ar gyfer arholiadau mewn person yn cael eu cyfeirio at sylw'r Swyddfa Arholiadau gan Swyddfa Anableddau neu Wasanaethau Lles y Brifysgol. Bydd y Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaethau Lles yn gwneud argymhellion i'r Swyddfa Arholiadau o ran y ddarpariaeth sydd i'w gwneud ar gyfer pob ymgeisydd o'r fath.
12.3
Os oes angen, bydd y Swyddfa Arholiadau'n trefnu bod fersiynau braille o bapurau cwestiynau yn cael eu paratoi ar gyfer myfyrwyr sydd â nam ar eu golwg. Rhaid cyflwyno'r papurau arholiad i'r Swyddfa Arholiadau o leiaf chwe wythnos cyn dechrau cyfnod yr arholiadau er mwyn eu trawsgrifio.
12.4
Rhaid i bob ymgeisydd sy'n gwneud cais am ddarpariaeth benodol sicrhau ei fod wedi hysbysu Swyddog Arholiadau ei Gyfadran/Ysgol am ei drefniadau.
13. Goruchwylio
13.1
Penodir Prif Oruchwyliwr ar gyfer pob lleoliad, a fydd yn gyfrifol yn gyffredinol am y lleoliad. Mae'r holl Oruchwylwyr Cynorthwyol yn atebol i'r Prif Oruchwyliwr.
13.2
Y Prif Oruchwyliwr fydd yn gyfrifol am ddirprwyo'r priod dasgau gan gynnwys dyrannu'r rhannau o'r lleoliad i arsylwi arnynt a gofalu amdanynt.
13.3
Y Prif Oruchwyliwr (neu ddirprwy ar ei ran) fydd yn gyfrifol am ddarllen y cyhoeddiadau priodol ar ddechrau'r arholiad.
13.4
Cyn dechrau arholiad Bydd Goruchwylwyr Cynorthwyol ar gael i gynorthwyo'r Prif Oruchwyliwr yn y dasg o baratoi pob lleoliad. Gan fod hyn yn galw am gryn ofal a sylw, mae'n hanfodol bod pob Goruchwyliwr yn brydlon, ac yn cyrraedd y lleoliad o leiaf TRI DEG munud cyn dechrau'r arholiad.
13.5
Bydd y Swyddfa Arholiadau yn rhoi rhestr i'r Prif Oruchwyliwr a Swyddog Arholiadau'r Coleg o'r ymgeiswyr hynny sy'n sefyll arholiadau mewn mannau eraill (h.y. y rhai y gwnaed darpariaeth benodol ar eu cyfer).
13.6
Bydd y Prif Oruchwyliwr yn casglu'r papurau arholiad, y cynlluniau eistedd a deunydd arall o'r Swyddfa Arholiadau o leiaf tri deg munud cyn dechrau'r arholiad. Ar gyfer arholiadau a gynhelir mewn lleoliad oddi ar y Campws (e.e. y Neuadd Chwaraeon), bydd cynrychiolydd o'r Swyddfa Arholiadau yn mynd â'r papurau arholiad yno'n uniongyrchol.
13.7
Dosberthir papurau arholiad yn unol â'r trefniadau eistedd a ddarparwyd ar gyfer pob ystafell arholi. Rhaid i oruchwylwyr sicrhau bod gan bob desg a neilltuwyd lyfrau atebion, slipiau presenoldeb, labeli, tagiau trysorlys, a'r papurau cwestiynau priodol, ynghyd ag unrhyw ddeunydd arall yn unol â'r cyfarwyddyd. Rhaid cymryd gofal arbennig i sicrhau y cydymffurfir â'r cyfarwyddyd o ran defnyddio cyfrifianellau, geiriaduron ac ati.
13.8
Caiff ymgeiswyr fynd i mewn i'r lleoliad ychydig funudau yn gynnar i’w galluogi i fod yn eu seddau erbyn yr amser a drefnwyd ar gyfer dechrau'r arholiad ar yr amod bod yr ystafell yn hollol barod. Gall hyn amrywio'n sylweddol gan ddibynnu ar nifer yr ymgeiswyr, felly bydd y Prif Oruchwyliwr yn penderfynu pryd y caiff myfyrwyr fynd i mewn i'r lleoliad.
13.9
Pan fydd yr ymgeiswyr wedi eistedd, dywedir wrthynt am sicrhau eu bod yn eistedd wrth y ddesg briodol a bod ganddynt y papur cwestiynau cywir. Dywedir wrthynt am ddarllen yr holl gyfarwyddiadau ar glawr y llyfr arholi a chwblhau pob adran, a hefyd am ddarllen y cyfarwyddiadau ar y papur cwestiynau. Cânt eu rhybuddio am ganlyniadau defnyddio unrhyw camymddwyn academaidd a'u hatgoffa bod mynd â llyfrau, nodiadau a phapurau nas awdurdodwyd gyda hwy i'w desgiau yn dramgwydd, a bod cyfathrebu (drwy siarad neu drwy ddulliau eraill) ag ymgeiswyr eraill yn dramgwydd hefyd. Cânt eu hatgoffa hefyd i beidio â chymryd tudalennau allan o lyfrau atebion arholiadau ar gyfer gwneud nodiadau bras, a rhoddir cyfarwyddiadau iddynt ar sut i fynd i'r man ymgynnull pe bai'r larwm dân yn canu, ac fe'u hysbysir am leoliad y man ymgynnull.
Dechrau'r Arholiad
13.10
Caniateir i ymgeiswyr ymgartrefu a chwblhau eu slipiau presenoldeb a chlawr eu papur atebion. Yna dechreuir yr arholiad yn ffurfiol drwy wneud cyhoeddiad megis "Gallwch ddechrau ysgrifennu nawr".
Yn Ystod yr Arholiad
13.11
Caiff slipiau presenoldeb eu casglu yn drefnus ar yr un pryd, mewn grwpiau sy'n cyfateb i bob modiwl/papur arholiad. Wrth gasglu pob slip presenoldeb, dylai'r Goruchwyliwr gadarnhau enw'r ymgeisydd o'i gymharu â cherdyn adnabod yr ymgeisydd, a sicrhau bod côd y modiwl, y dyddiad a'r lleoliad cywir wedi'u nodi'n gywir ar y slip. Yna caiff y slipiau eu gwirio yn erbyn y rhestr swyddogol o ymgeiswyr a ddarparwyd ar gyfer yr arholiad, a chofnodir pwy oedd yn bresennol a phwy oedd yn absennol. Dylid cysylltu â'r Swyddfa Arholiadau ar unwaith ynghylch unrhyw ymgeisydd sy'n mynd i arholiad ond nad yw ei enw yn ymddangos ar y rhestr bresenoldeb.
13.12
Mae'n ofyniad y Senedd bod yr aelod staff sy'n gyfrifol am bapur cwestiynau penodol - neu ddirprwy - ar gael i'w ffonio drwy gydol yr arholiad i ateb unrhyw gwestiynau gan ymgeiswyr. Mae'n rhaid i staff sicrhau bod ganddynt wrth law gopi caled o bapur cwestiynau'r arholiad ac unrhyw ddeunydd arall sy'n berthnasol i'r arholiad dan sylw. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall fod yn ofynnol i staff fynd i leoliad yr arholiad. Os na fydd modd i'r aelod staff fynd i leoliad yr arholiad, dylai dirprwy gael ei benodi i wneud hyn yn ei absenoldeb. Mae'n rhaid darparu rhestr o'r aelodau staff sy'n gyfrifol am bob papur arholiad ynghyd â'u rhifau ffôn i Swyddfa Arholiadau'r Brifysgol cyn y cyfnod arholi. Mae'n rhaid cynnwys unrhyw ofynion arbennig sy'n berthnasol i'r arholiad yng nghyfarwyddyd papur
cwestiynau'r arholiad.
13.13
Ar gyfer pob papur a gaiff ei sefyll mewn ystafell arholi, rhaid nodi'r teitl a nifer yr ymgeiswyr ar y ffurflen oruchwylio a ddarperir. Rhaid gwirio nifer yr ymgeiswyr sy'n bresennol ar gyfer pob arholiad drwy gymharu nifer y slipiau presenoldeb ag enwau'r sawl y nodwyd eu bod yn bresennol ar y gofrestr.
13.14
Ni chaniateir i unrhyw ymgeisydd fynd i mewn i'r ystafell 30 munud ar ôl dechrau'r arholiad, ac ni all unrhyw ymgeisydd adael yr ystafell tan 45 munud ar ôl dechrau'r arholiad.
13.15
Ni chaniateir i fyfyrwyr adael y neuadd arholi o fewn y pymtheng munud olaf o’r arholiad.
Camau gweithredu yn ystod digwyddiadau amrywiol
13.16
Bydd y Prif Oruchwyliwr yn rhoi gwybod yn dawel, yn ddelfrydol yng ngŵydd tyst, i unrhyw ymgeisydd yr amheuir ei fod yn cymryd rhan mewn unrhyw camymddwyn academaidd neu'n cynorthwyo ymgeiswyr eraill, y cyflwynir adroddiad ar yr amgylchiadau i'r Cyfarwyddwr Uniondeb Academaidd ac i Swyddog Arholiadau'r Brifysgol. Yna bydd y Prif Oruchwyliwr yn rhoi Nodyn Rhybudd Myfyriwr i'r ymgeisydd. Caniateir i ymgeiswyr sy'n cael rhybudd o'r fath barhau yn yr arholiad dan sylw, ac arholiadau dilynol, heb ragfarnu unrhyw benderfyniad y gellir ei wneud wedi hynny. Lle y bo'n briodol, bydd y Prif Oruchwyliwr yn cadw'r holl dystiolaeth sy'n ymwneud â'r arfer annheg a amheuir.
13.17
Os yw ymgeisydd, ym marn Goruchwyliwr, yn achosi aflonyddwch, neu os gwelwyd ei fod yn gweithredu'n groes i'r rheoliadau e.e. yn siarad neu'n cyfathrebu ag ymgeisydd arall yn yr arholiad, caiff ei rybuddio. Os yw'r ymgeisydd yn parhau i achosi aflonyddwch neu'n parhau i weithredu'n groes i'r rheoliadau, bydd yn ofynnol iddo adael y lleoliad, a bydd yn cael Nodyn Rhybudd Myfyriwr. Ni chaniateir i'r ymgeisydd ddychwelyd i'r arholiad hwnnw a hysbysir y Cyfarwyddwr Uniondeb Academaidd am y digwyddiad.
13.18
Rhaid nodi unrhyw camymddwyn academaidd a amheuir neu unrhyw ymddygiad aflonyddgar ar y Ffurflen Adroddiad Arholiad briodol.
13.19
Os bydd aflonyddwch (er enghraifft larwm yn canu'n barhaus) yn digwydd ar ôl dechrau'r arholiad, rhaid i'r Prif Oruchwyliwr ddweud wrth ymgeiswyr am adael ystafell yr arholiad mewn modd trefnus gan adael eu papurau arholiad a'u llyfrau atebion ar eu desgiau, ac i beidio â thrafod y papur arholiad ag ymgeiswyr eraill. Dylai ymgeiswyr ymgynnull yn y man ymgynnull dynodedig ac aros am gyfarwyddyd pellach. Dylai'r Prif Oruchwyliwr gymryd pob cam posibl i sicrhau diogelwch yr ystafell. (Mae Taflen Gyfarwyddyd ar gael ar ddesg y Prif Oruchwyliwr ym mhob ystafell arholiad sy'n nodi manylion y man ymgynnull).
13.20
Yn ystod pob rhan o'r arholiad, bydd gan y Goruchwyliwr yr hawl i wahardd pawb o'r ystafell heblaw am swyddogion y Brifysgol a'r ymgeiswyr sy'n sefyll yr arholiad a bydd yn atal unrhyw gyfathrebu gan yr ymgeiswyr naill ai ymysg ei gilydd neu ag unrhyw unigolyn arall.
Ar Ddiwedd yr Arholiad
13.21
Ar ddiwedd y cyfnod priodol, gofynnir yn ffurfiol i'r ymgeiswyr roi'r gorau i ysgrifennu. Bydd y Prif Oruchwyliwr yn eu cyfarwyddo i sicrhau:
- Bod eu henwau yn ymddangos ar bob llyfr atebion a ddefnyddir, a bod cornel chwith uchaf llyfrau wedi'u selio er mwyn sicrhau anhysbysrwydd;
- Bod yr holl lyfrau atebion a ddefnyddiwyd, ynghyd ag unrhyw ddeunydd arall, wedi'u rhwymo wrth ei gilydd yn ddiogel gyda'r tagiau trysorlys a ddarperir;
- Eu bod yn gadael pob llyfr atebion ar eu desgiau;
- Bod yn rhaid iddynt barhau i eistedd yn dawel nes y bydd pob llyfr atebion wedi'i gasglu a bod y Prif Oruchwyliwr yn cyhoeddi y gallant adael lleoliad yr arholiad.
13.22
Pan fydd yr ystafell yn wag, dim ond y Goruchwylwyr ac, os oes angen, y Cyfarwyddwr Uniondeb Academaidd, neu gynrychiolydd y Swyddfa Arholiadau, fydd yn cael bod yn yr ystafell.
13.23
Dylid cyfrif nifer y llyfrau atebion ym mhob grŵp, a gwirio nifer y llyfrau atebion o'i gymharu â nifer yr ymgeiswyr a nodwyd yn flaenorol ar y ffurflen oruchwylio. Dim ond ar ôl sicrhau bod pob llyfr atebion wedi'i gyfrif yn gywir y dylai'r Prif Oruchwyliwr lofnodi'r ffurflen oruchwylio.
Casglu Llyfrau Atebion
13.24
Gall Arholwyr (neu gynrychiolwyr eu Cyfadran/Ysgol) gasglu'r llyfrau atebion o'r ystafell arholi er mwyn eu marcio. Rhaid i bob unigolyn sy'n casglu'r llyfrau atebion ddangos prawf adnabod a llofnodi'r ffurflen oruchwylio ar gyfer y llyfrau ateb a gasglwyd. Ni chaniateir i fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n gweithredu ar ran aelodau staff academaidd gasglu llyfrau atebion a gwblhawyd.
Llyfrau atebion nas casglwyd gan Arholwyr neu gynrychiolwyr eu Cyfadran/Ysgol
13.25
Rhaid dychwelyd pob llyfr atebion nas casglwyd (ynghyd â phapurau cwestiynau nas defnyddiwyd), ynghyd â:
- Pob slip presenoldeb;
- Pob rhestr ymgeiswyr;
- Y ffurflenni goruchwylio.
i'r Swyddfa Arholiadau.
14. Absenoldeb o Arholiadau ac Asesiadau
14.1
Gellir tybio bod ymgeisydd yn absennol am reswm da o arholiad neu asesiad oherwydd salwch, damwain, a marwolaeth perthynas agos a gofnodwyd, neu ar sail dosturiol gysylltiedig.
14.2
Bydd Pwyllgor Achosion Arbennig Y Coleg (neu bwyllgor cyfatebol) yn ystyried pob achos o absenoldeb cyn cyfarfod Bwrdd Arholiadau'r Coleg ac yn gwneud argymhellion i Fwrdd Y Coleg.
14.3
Caiff rheoliadau manwl mewn perthynas ag ailsefyll arholiadau eu cyhoeddi yn y Rheoliadau Asesu amrywiol.
15. Cyhoeddi Canlyniadau Academaidd
15.1
Ceir gwybodaeth am gyhoeddi marciau myfyrwyr yn y Polisi Asesu, Marcio ac Adborth.