BSc (Anrh) Atodol mewn Nyrsio
1. Cyflwyniad
1.1
Dyfernir cymwysterau i fyfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion fel y’u nodir yn y rheoliadau asesu isod ac sydd wedi cyrraedd y lefel briodol fel y’i hamlinellir yn Rheoliad Graddau Baglor 1.1.
2. Amodau Mynediad
2.1
Yn ogystal â'r amodau mynediad a amlinellir yn y Rheoliadau Cyffredinol i Israddedigion 3 (gan nodi nad yw pwyntiau 4.3,4.4, 4.5 a 4.7 o’r Rheoliadau Cyffredinol i Israddedigion yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n dilyn y BSc (Anrh) Atodol mewn Nyrsio, mae'n ofynnol i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf mynediad penodol. Caiff y rhaglen ei haddysgu a'i hasesu yn Saesneg, felly rhaid i ymgeiswyr allu dangos 'defnydd o'r Saesneg' ar lafar ac yn ysgrifenedig, hyd at lefel IELTS 6 (neu gyfwerth), gan gyflawni o leiaf 5.5 ym mhob cydran.
2.2
Fel arfer bydd myfyrwyr yn gweithio fel nyrsys.
3. Calendr Academaidd
3.1
Cyhoeddir calendr academaidd y rhaglen yn flynyddol gan y Brifysgol neu ar ei rhan.
4. Strwythur y Rhaglen
4.1
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn BSc (Anrh) Atodol mewn Nyrsio, bydd myfyrwyr yn dilyn 120 credyd ar Lefel 6. Rhaid i fyfyrwyr fodloni gofynion presenoldeb ac asesu pob modiwl Lefel 6 sy'n dod i gyfanswm o 120 o bwyntiau credyd.
5. Lleoliadau Gwaith
5.1
Nid oes lleoliadau gwaith yn rhan o'r rhaglen.
6. Trosglwyddo Credydau
6.1
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y BSc (Anrh) Atodol mewn Nyrsio yn cael eu heithrio o 240 credyd o Lefelau 4 a 5. Lle derbyniwyd 240 credyd trosglwyddadwy, rhaid i weddill y 120 credyd a ddilynir fod ar Lefel 6.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gofyn am eithriad o lefelau 4 a 5 fodloni'r holl feini prawf mynediad (a nodir ar dudalen we'r rhaglen) a dangos eu bod wedi cyflawni cymwysterau priodol a bod ganddynt brofiad o ymarfer clinigol fel y’i nodir yn y meini prawf derbyn penodol ar gyfer y rhaglen.
6.2
Dylai myfyrwyr sylwi ar y Rheoliadau Cyffredinol i Israddedigion - Trosglwyddo Credydau (Rheoliad 29). Caiff ceisiadau i gael eu heithrio o gredydau eu hystyried yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol.
7. Rheoliadau Asesu
7.1
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu'n barhaus, gan ddefnyddio cyfuniad o asesiadau a all gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: asesiadau ysgrifenedig, adroddiadau myfyriol a chyflwyniadau. Caiff datblygiad ymgeisydd ei asesu fel arfer yn y cyfnod yn union ar ôl cwblhau addysgu’r uned astudio/modiwl.
7.2
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau’r rhaglen astudio israddedig yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd fel y’u hamlinellir yn y Rheoliadau Asesu i Israddedigion.
7.3
Y marc llwyddo ar gyfer pob modiwl fydd 40%.
7.4
Rhaid i fyfyrwyr fod wedi astudio a chyflawni 120 credyd ar Lefel 6 i'w hystyried ar gyfer dyfarnu gradd Anrhydedd. Cyfrifir canlyniad y radd gan ddefnyddio canlyniadau'r 120 credyd ar Lefel 6.
7.5
Gall myfyrwyr sy'n cronni 80 credyd neu fwy ond llai na 120 credyd ac sy'n ennill marc cyfartalog o 35% fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarnu gradd Anrhydedd, ar yr amod nad yw'r modiwlau wedi'u nodi fel modiwlau craidd.
7.6
Bydd myfyrwyr sy'n cronni 60 credyd neu fwy ond llai na 120 credyd, yn methu cwblhau'r lefel astudio olaf. Yn ôl doethineb Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, caniateir un cyfle fel arfer i fyfyrwyr o'r fath wneud iawn am fethiant/fethiannau yn ystod y cyfnod Arholiadau Atodol ym mis Awst.
7.7
Bydd ymgeiswyr sy'n cronni llai na 60 credyd yn methu cwblhau'r lefel astudio olaf. Bydd myfyrwyr o'r fath yn derbyn penderfyniad Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol.
7.8
Bydd myfyrwyr sy'n methu cymhwyso am ddyfarniad yn dilyn y cyfle atodol, ar ôl methu ennill 120 credyd, yn cael penderfyniad Methu.
7.9
Os yw myfyrwyr yn cael penderfyniad academaidd o Dynnu'n Ôl o’r Brifysgol, ni fyddant yn cael cyfle arall i wneud iawn am fethiannau. Ni fydd myfyrwyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeisydd sydd wedi cael penderfyniad 'Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol' yn cael ei ail-dderbyn i'r un rhaglen astudio neu i raglen berthynol, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr.
7.10
Dylai marciau a enillir gan fyfyrwyr adlewyrchu'r dosbarthiad gradd a fwriedir.
7.11
Ni chaniateir i fyfyrwyr ail-wneud modiwl sydd eisoes wedi’i basio er mwyn gwella eu perfformiad.
7.12
Yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, cydnabyddir na fydd rhai ymgeiswyr yn gallu bod yn bresennol mewn arholiadau yn ystod y Cyfnod Asesu Canol Sesiwn neu Ddiwedd Sesiwn, e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Yn achos ymgeiswyr na allant fod yn bresennol mewn arholiadau oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am ohiriad i'r Gyfadran/yr Ysgol Gartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod ar ôl yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohirio gael eu hystyried a'u cefnogi gan y Gyfadran/yr Ysgol berthnasol a'u cyflwyno i'r Gwasanaethau Addysg i'w cymeradwyo. Cynghorir myfyrwyr a staff i ddarllen Polisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu.
Bydd y Gyfadran/yr Ysgol sy'n gyfrifol am ddarparu'r modiwl y mae'r gwaith cwrs dan sylw arno yn cyfrannu ato yn ystyried amgylchiadau esgusodol sy'n effeithio ar waith cwrs neu asesiadau yn ystod y flwyddyn. Caiff gweithdrefnau'r Gyfadran/yr Ysgol ar gyfer ystyried amgylchiadau esgusodol sy'n effeithio ar waith cwrs neu asesiadau yn ystod y flwyddyn eu cyhoeddi gan y Gyfadran/yr Ysgol. Bydd y gweithdrefnau'n cynnwys dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno amgylchiadau esgusodol, y gweithdrefnau a'r amserlen ar gyfer ystyried unrhyw gyflwyniadau gan y Gyfadran/yr Ysgol, a hysbysu'r myfyriwr am y canlyniad.
Ni fydd ymgeiswyr y caniateir iddynt ohirio ac sy'n methu cwblhau'r lefel astudio yn dilyn yr ymgais wedi’i gohirio yn cael cyfle pellach i wneud iawn am y methiant tan y sesiwn nesaf.
7.13
Dylai ymgeiswyr yn eu blwyddyn olaf nad ydynt yn gallu sefyll arholiad ym mis Ionawr, ac y caniateir gohiriad iddynt gan y Brifysgol, sefyll yr arholiad yng nghyfnod arholiadau mis Mai/Gorffennaf yn hytrach na chyfnod arholiadau mis Awst.
8. Gohirio Astudiaethau
8.1
Ystyrir gohirio astudiaethau yn unol â Prifysgol Abertawe ar Ohirio Astudiaethau.
9. Terfynau Amser
9.1
Rhoddir y cyfnodau cofrestru byrraf a hwyaf ar gyfer myfyrwyr a dderbynnir i'r BSc (Anrh) Atodol mewn Nyrsio yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd isod. Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau lefel astudio o fewn uchafswm o ddwy sesiwn academaidd. Bydd myfyrwyr sy'n methu cwblhau lefel astudio o fewn y terfyn amser hwyaf o ddwy flynedd yn cael penderfyniad o Dynnu'n ôl o'r Brifysgol.
Amser llawn | |
---|---|
Byrraf | 1 flwyddyn |
Hwyaf | 2 flynedd |
10. Estyn Terfynau Amser
10.1
Gellir estyn terfynau amser y rhaglen, fel y’i nodir yn y rheoliadau penodol, ond mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â'r Rheoliadau Cyffredinol i Israddedigion 27.
10.2
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i wneud iawn am fodiwlau y maent wedi'u methu dros drydedd sesiwn dan amgylchiadau eithriadol yn unig. Mewn achosion o'r fath, disgwylir i'r Gyfadran/yr Ysgol gyflwyno cais i Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, yn amlinellu'r amgylchiadau i gefnogi'r achos. Fel arfer, ni fydd ceisiadau yn cael eu hystyried oni fydd y myfyriwr o fewn y nifer uchaf o geisiadau a ganiateir.
11. Cymwysterau Ymadael
11.1
Os nad yw ymgeisydd a dderbynnir i'r rhaglen yn gallu bwrw ymlaen i’w chwblhau wedi hynny, neu os na chaniateir iddo wneud hynny, ni fydd yn gymwys am gymhwyster ymadael.
12. Derbyn i Raddau
12.1
I fod yn gymwys i’w ystyried am ddyfarniad o dan y Rheoliadau hyn, bydd ymgeisydd:
- Wedi dilyn rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol, ac eithrio fel y’i darperir yn Rheoliad 6 (Trosglwyddo Credyd, uchod);
- Wedi ennill isafswm y credydau a bennir gan y Brifysgol mewn rhaglen a gymeradwyir gan y Brifysgol.
12.2
Cyhoeddir enwau’r myfyrwyr am radd Anrhydedd a gyflawnodd ofynion asesu’r rhaglen a’r Brifysgol yn y dosbarthiadau Anrhydedd canlynol:
Cyntaf;
Ail Ddosbarth Rhan Un;
Ail Ddosbarth Rhan Dau;
Trydydd Dosbarth;
Gradd Lwyddo.
13. Graddau Aegrotat ac Wedi Marwolaeth
13.1
Ni fydd ymgeiswyr sy’n dilyn rhaglenni proffesiynol yn ôl y rheoliadau hyn yn gymwys i dderbyn dyfarniadau aegrotat neu wedi marwolaeth.