Darllenwch yr adran hon ar y cyd â’r Côd Ymarfer Dysgu, Addysgu ac Asesu: Dulliau Asesu a Darparu Adborth Cynhwysol ac unrhyw arweiniad penodol ar gyfer Partneriaid Cydweithredol.
2.1 Marcio Gwaith Asesedig
Rhaid i’r holl asesiadau fod â Meini Marcio clir, a fydd yn pennu sut y caiff pob asesiad ei farcio, a rhaid iddynt gael eu cyhoeddi i fyfyrwyr cyn yr asesiad a’i gwneud hi'n bosib defnyddio'r marciau dros yr ystod lawn (0-100), y gellir eu defnyddio mewn dull marcio cam wrth gam. Rhaid i farcwyr osgoi defnyddio marciau sy'n gorffen â '9' (e.e. 29/39/49/59/69) gan fod y rhain yn agos at ffin y radd/dosbarthiad a gallant arwain at apeliadau diangen). Anogir Cyfadrannau i ystyried defnyddio marcio ar sail cyfarwyddiadau pryd bynnag y bo modd. Pan gyfrifir marc modiwl ac yn dychwelyd marc sy'n gorffen â '9', dylai'r rhain gael eu hadolygu gan yr Adran berthnasol a/neu Fwrdd Arholi'r Gyfadran a dylid addasu'r cydrannau perthnasol naill ai i fyny neu i lawr, gan ddibynnu ar gyfeiriad yr asesiad/y myfyriwr yn gyffredinol.
Rhaid i bob asesiad ac arholiad gael ei farcio gan staff academaidd neu [1] berthynol sydd wedi derbyn hyfforddiant priodol ar gyfer marcio, cynwysoldeb a rhagfarn ddiarwybod, ac sy’n gyfarwydd â deilliannau dysgu’r rhaglen a'r modiwl, y canllawiau marcio a meini prawf yr asesu. Gall Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sy’n Uwch-gynorthwywyr Addysgu/yn Gynorthwywyr Addysgu Graddedig fod yn farciwr cyntaf ar gyfer gwaith ar Lefelau 3, 4 a 5, a bod yn ail farciwr ar gyfer Lefelau 6 a 7, ar yr amod eu bod nhw wedi derbyn hyfforddiant sydd gyfwerth â hyfforddiant staff academaidd a'u bod yn cael eu cymedroli a'u goruchwylio'n agos gan staff academaidd. Ni chaiff Arddangoswyr Dysgu islaw'r lefel hon farcio asesiadau myfyrwyr yn ffurfiol.
Wrth farcio, rhaid i'r holl farcwyr fod yn gwbl ymwybodol o fyfyrwyr sydd â gofynion dysgu penodol ac addasiadau rhesymol, a sicrhau y rhoir ystyriaeth briodol ohonynt.
Bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn sicrhau bod eu gweithdrefnau marcio yn glir a hygyrch i’r holl fyfyrwyr.
Bydd marciau wedi’u cymedroli dros dro ac [2] adborth ar gyfer asesu parhaus fel arfer yn cael eu rhyddhau i fyfyrwyr o fewn uchafswm o 15 niwrnod gwaith o’r dyddiad cyflwyno, oni nodir yn wahanol[3]. Bydd unrhyw newidiadau i'r amserlen hon yn cael eu cyfleu'n effeithiol i'r holl fyfyrwyr.
[1] ‘Gall ‘staff perthynol’ gynnwys clinigwyr a chydweithwyr allanol eraill, gan gynnwys staff mewn sefydliadau partner, pan fo’n briodol, ar yr amod bod gofynion perthnasol y Brifysgol ar gyfer marcio yn cael eu dilyn.
[2] At ddibenion y Polisi hwn, mae ‘Diwrnodau Gwaith’ wedi’u diffinio fel dydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus a dyddiau y trefnwyd i’r Brifysgol fod ar gau.
[3]Lle y gallai fod angen addasiadau rhesymol i gefnogi staff academaidd, cytunir ar y rhain gyda Rheolwyr Llinell a Deoniaid Cysylltiol Addysg.
2.2 Marcio Dienw
At ddibenion y polisi hwn, bydd myfyrwyr yn ddienw ac yn defnyddio eu rhif adnabod myfyriwr, ac ni chaiff enwau eu defnyddio wrth farcio lle bynnag y bo hynny’n bosib. Ni fydd staff yn cymryd unrhyw gamau i ganfod pwy yw’r myfyriwr drwy ei rif myfyriwr.
Bydd yr holl waith asesedig gan fyfyrwyr sy'n cael ei gyflwyno drwy'r Platfform Dysgu Digidol (DLP) yn cael ei farcio’n ddienw i sicrhau nad oes rhagfarn (boed yn ymwybodol neu’n ddiarwybod) wrth farcio. Dim ond rhif myfyriwr gaiff ei ddefnyddio mewn gwaith a gyflwynwyd y tu allan i'r DLP, neu lle mae angen dulliau marcio penodol (e.e. canllawiau marcio penodol neu farcio drwy gyfrwng y Gymraeg).
Mae eithriadau angenrheidiol i fod yn ddienw pan fydd asesiadau'n cynnwys elfennau 'personol' (gan gynnwys rhithwir), sy'n gallu cynnwys (heb fod yn gyfyngedig i) berfformiadau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau, gwaith maes, lleoliadau, sgiliau clinigol a rhai asesiadau tîm neu grŵp.
Bydd Cyfadrannau /Ysgolion yn hysbysu myfyrwyr lle na fydd modd marcio asesiadau penodol yn ddienw.
2.3 Datgelu Enwau
Ni chaiff enwau myfyrwyr eu defnyddio wrth farcio, ac am gyhyd ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny. Mae'r Brifysgol yn cydnabod:
- Ei bod yn bosibl na fydd cadw marciau'n ddienw bob amser yn cadw enw'r myfyriwr yn ddienw;
- Y gall fod angen i adnabod gwaith myfyrwyr sydd wedi cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol, neu addasiadau rhesymol, er mwyn ystyried pa gamau pellach sydd angen eu cymryd;
- Nid ystyrir gwaith ar sail ddienw at ddibenion dosbarth y radd derfynol.
Gall Cyfadrannau/Ysgolion/Partneriaethau gynnal Byrddau Arholi ar Lefel Pwnc naill ai'n ddienw neu yn ôl enw. Ni fydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol yn ddienw a chaiff ei gynnal yn ôl enw.
2.4 Gwrthdaro Buddiannau wrth Farcio
Er gwaethaf y defnydd o farcio dienw, mae sefyllfaoedd lle gallai staff weld fod ganddynt achos o wrthdaro buddiannau wrth farcio. Rhaid i staff ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posib i sicrhau y caiff myfyrwyr eu trin yn deg ac nad yw staff yn teimlo dan ormod o bwysau. Os bydd staff yn canfod eu bod yn marcio gwaith myfyrwyr maent wedi cael perthynas flaenorol â nhw, rhaid iddynt ddatgan gwrthdaro buddiannau, gan ddilyn y broses Gwrthdaro Buddiannau wrth Farcio.
2.5 Asesu Annarllenadwy
Mae gan fyfyrwyr gyfrifoldeb i sicrhau bod modd darllen eu gwaith asesedig. Os nad oes rhan o'r gwaith yn ddarllenadwy, neu fod y gwaith cyfan yn annarllenadwy, nid oes modd ei ddarllen yn llawn a bydd hyn yn cael effaith ar farc terfynol y gwaith asesedig. Yn yr achos hwn, gall y Gyfadran gymryd un o'r tri cham canlynol:
a) Mewn achosion lle byddai darllen yr asesiad annarllenadwy yn cymryd amser afresymol i aelod staff academaidd, ac ni fyddai'n caniatáu i'r cynnwys gael ei ystyried yn briodol, gall y Gyfadran ddewis defnyddio gwasanaeth trawsgrifio, a mynnu i'r myfyriwr dalu'r costau;
b) Mewn achos lle mae'r asesiad yn gwbl amhosibl i'w ddarllen, mynnir i'r ymgeisydd ddod i'r campws i ddarllen y cynnwys i drydydd parti ym mhresenoldeb goruchwyliwr. Disgwylir i'r myfyriwr dalu am y gwasanaeth hwn;
c) Os nad yw un o'r ddau opsiwn hyn yn berthnasol, mae'r sefydliad yn cadw'r hawl i roi marc o 0%.
Mae'n ofynnol i'r Gyfadran/Ysgol, mewn cysylltiad â Bywyd Myfyrwyr, sicrhau bod digon o gymorth (fel arfer drwy Addasiadau Rhesymol neu Asesiadau Amgen pan fo angen) ar waith ar gyfer myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol a ddatgelwyd neu ofynion cymorth addysgol penodol eraill a ddogfennwyd a allai effeithio ar gymhwysedd asesu, cyn unrhyw asesiad.
2.6 Cymedroli Marcio[1]
Mae cymedroli marcio (Marcio a Chymedroli Asesu) yn broses annibynnol ar wahân i farcio asesiadau, sy'n sicrhau bod canlyniadau asesu (marciau) yn deg, yn ddilys ac yn ddibynadwy, bod y meini prawf asesu wedi'u cymhwyso'n gyson, bod modd cydnabod unrhyw wahaniaeth o ran barn academaidd rhwng marcwyr unigol a mynd i'r afael â hynny, a bod yr adborth o safon uchel a chyson. Dylid hefyd adolygu marciau'r modiwl yn y Bwrdd Arholi.
Rhaid i weithdrefnau marcio a chymedroli fod yn glir, yn gyson, yn dryloyw a chael eu cyfathrebu'n effeithiol i fyfyrwyr.
Ni ddylai cymedrolwyr fod yn rhan o farcio asesiad fel arall, ac fel rheol nid oes gofyn iddynt wneud sylwadau manwl ar ddarnau unigol o waith asesu, ond yn hytrach gwneud sylwadau cyffredinol ar y sampl, y marcio ac unrhyw newidiadau a argymhellir i farciau ar draws y garfan.Rhaid dangos tystiolaeth o gymedroli a'i gofnodi'n gyson. Dylid cofnodi cymedroli ar Ffurflen Gymedroli'r Brifysgol y cytunwyd arni neu drwy brosesau cymedroli cytunedig y sefydliad partner.
Fel disgwyliad sylfaenol, caiff cymedroli sampl ei gynnal ar asesiadau ar bob lefel (gan gynnwys traethodau hir Ôl-raddedig a Addysgir ac asesiadau atodol), ac eithrio dulliau asesu sy'n awtomatig (h.y. caiff yr atebion eu darllen gan beiriannau neu'n optegol), neu mewn asesiadau meintiol lle darperir atebion enghreifftiol i'r marciwr. Nid yw'r rhain yn cael eu cymedroli fel arfer ond mae'n bosib bydd angen eu gwirio am gywirdeb neu raddnod.
Mae cymedroli yn berthnasol i o leiaf sampl o bob elfen o'r asesiad, gan gynnwys samplau o waith sydd wedi methu a gwaith sy'n agos i'r ffin o ran methiannau a ddigolledir yn benodol (30% ar gyfer modiwlau israddedig a 40% ar gyfer modiwlau ôl-raddedig a addysgir). Rhaid i samplau ar gyfer cymedroli gynnwys o leiaf 10 sgript, a dylent gynnwys:
- 10% o gyfanswm yr asesiadau sy'n cynrychioli croestoriad o ddosbarthiadau, gan dalu sylw penodol i asesiadau sydd wedi methu a gwaith sy'n agos i ffiniau dosbarthiadau.
Ar gyfer modiwlau sydd â niferoedd isel (h.y. llai na 10 myfyriwr), bydd yr holl asesiadau'n cael eu cymedroli.
Rhaid cwblhau'r gwaith cymedroli cyn i farciau ac adborth dros dro gael eu rhyddhau i fyfyrwyr, ac anfonir asesiadau at Arholwyr Allanol i'w craffu, a darperir tystiolaeth i'r Arholwr Allanol ynghyd â samplau o'r gwaith wedi'i farcio a'i gymedroli.
Yn gyffredinol, bydd cymedroli sampl effeithiol yn cael gwared ar yr angen am farcio dwbl llawn sgriptiau. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i asesiadau penodol a ddiffiniwyd gan y Gyfadran/Ysgol neu reoleiddiwr allanol fod yn destun Marcio Dwbl neu Ddwbl Ddall, a bydd yn rhaid dilyn y broses sefydledig ar gyfer cytuno ar farciau. Fel arfer, bydd ail farcio neu farcio dwbl dim ond yn angenrheidiol pan fydd cyrff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddio yn galw amdano, neu os nodwyd problemau o ran cysondeb marcio (gan gynnwys drwy'r broses gymedroli).
Gall Cyfadrannau ddewis rhagori ar y disgwyliad gwaelodlin a chynnal cymedroli ychwanegol, pan maent yn teimlo bod hyn yn angenrheidiol neu y gellir ei gyfiawnhau o ran ymdrech.
Rôl yr Arholwr Allanol wrth Farcio a Chymedroli
Ni ddylai Arholwyr Allanol, ar lefel israddedig neu ôl-raddedig a addysgir, ond goruchwylio'r broses gymedroli. Ni ddylent weithredu fel ailfarcwyr neu safonwyr eu hunain.
Pan fydd anghytundeb am farciau, disgwylir i Gyfadrannau /Ysgolion ddatrys anghydfod rhwng marcwyr drwy ddefnyddio trydydd marciwr neu gymedrolwr allanol pan fydd angen. Rhaid datrys problemau cyn cyflwyno'r gwaith i'r Arholwyr Allanol i'w adolygu.
Rhaid i'r Arholwyr Allanol perthnasol adolygu sampl o'r holl waith a farciwyd a'i gymedroli er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb marcio.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl yr Arholwyr Allanol wedi'i chyhoeddi yng Nghôd Ymarfer Arholwyr Allanol.
[1] Ar gyfer Cymedroli yn y lleoliad a dilysu asesiadau, gweler y Côd Ymarfer Dysgu, Addysgu ac Asesu.
2.7 Asesu yn Gymraeg
Mae Prifysgol Abertawe'n trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg. Mae gan bob myfyriwr yr hawl i ymgymryd ag asesiad yn y Gymraeg, oni bai bod gofyniad penodol i fyfyrwyr gwblhau asesiadau mewn iaith arall, (er enghraifft mewn rhaglenni Ieithoedd Tramor Modern). Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo lle bynnag y bo modd i farcio'r gwaith yn yr iaith y cafodd ei gyflwyno ynddi, ac i beidio â dibynnu ar gyfieithiad at ddibenion marcio. Gellir dim ond cyfieithu gwaith at ddibenion marcio lle nad oes opsiwn arall, ac yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. Mae hyn wedi'i amlinellu yn y Fframwaith Asesu Cyfrwng Cymraeg.
Ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno ymgymryd ag asesiad drwy gyfrwng y Gymraeg ac nid ydynt fel arall yn astudio modiwlau cyfrwng Cymraeg, rhaid iddynt roi gwybod i'w Cyfadran/Hysgol cyn gynted â phosibl, ac yn ddelfrydol cyn dechrau'r modiwl(au) perthnasol, er mwyn sicrhau y gellir gwneud paratoadau ar gyfer cynnal yr asesiad yn Gymraeg.[1] Gellir dod o hyd i’r broses yma: Cyflwyno gwaith a chael eich asesu yn Gymraeg.
Cyfieithu Cwestiynau Arholiadau
Lle darparwyd cyfieithiad Cymraeg o bapur arholiad ar gyfer modiwl cyfrwng Saesneg, dylid caniatáu i fyfyrwyr hefyd weld y papur Saesneg ac ateb yn Saesneg os byddant yn dewis gwneud hynny.
2.8 Asesu a Marcio mewn iaith ar wahân i'r Gymraeg neu'r Saesneg
I fyfyrwyr sy'n astudio rhaglenni gydag asesiadau mewn ieithoedd heblaw'r Gymraeg a'r Saesneg (rhaglenni Ieithoedd Modern, er enghraifft), disgwylir i fyfyrwyr gwblhau asesiadau parhaus neu arholiadau yn yr iaith darged. Fodd bynnag, os yw'r meini prawf asesu yn gofyn am gyflwyno gwaith yn y Gymraeg neu'r Saesneg, yna bydd y gofyniad hwn yn rhagori.
Rhaid bod Marcwyr, Cymedrolwyr ac Arholwyr Allanol fod yn ddigon cymwys i farcio, cymedroli ac arholi'n allanol yn yr iaith/ieithoedd perthnasol, ac ni chaniateir cyfieithu gwaith cyn ei farcio.
Ar gyfer rhaglenni a ddarperir mewn cydweithrediad â sefydliadau partner rhyngwladol, bydd myfyrwyr yn cael gwybod ai Saesneg a/neu iaith y sefydliad partner fydd yr iaith addysgu. Os nad Saesneg yw'r iaith addysgu gytunedig, naill ai ar gyfer y rhaglen yn llawn neu'r modiwl dan sylw, darperir adnoddau addysgu ac asesu priodol i'r myfyrwyr a byddant yn cael cyflwyno asesiadau yn yr iaith honno. Fel arfer, bydd gwaith asesu'n cael ei farcio, ei gymedroli a'i adolygu'n allanol yn yr iaith y cyflwynir ynddi. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, gellir cyfieithu asesiadau i'r Saesneg gan gyfieithwyr annibynnol neu staff Prifysgol Abertawe.
2.9 Cyhoeddi Marciau Myfyrwyr
Ystyrir yr holl farciau nad ydynt wedi cael eu cyflwyno eto gerbron Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol i fod yn rhai dros dro, ac felly gallant newid.
Fel arfer, bydd marciau dros dro ar gyfer asesiadau parhaus ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig drwy eu cyfrif myfyrwyr ar y fewnrwyd cyn gynted ag y bydd y Gyfadran/Ysgol yn eu gwirio, neu drwy'r mecanwaith cytunedig ar gyfer rhaglenni a ddarperir mewn cydweithrediad â sefydliadau partner (pan fydd hyn yn wahanol). Bydd marc cyffredinol dros dro y modiwl yn ymddangos pan fydd yr holl farciau cydrannol ar gyfer y modiwl wedi'u cofnodi. Caiff myfyrwyr eu hysbysu am unrhyw eithriadau i hyn.
Caiff marciau modiwl eu cadarnhau ar ôl iddynt gael eu hadolygu a'u cytuno gan Fyrddau Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol ac Arholwr Allanol y Rhaglen. Bydd marciau a chanlyniadau a gadarnhawyd ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig trwy gyfrif mewnrwyd y myfyriwr.
Fel arfer, y Gwasanaethau Addysg sy’n gyfrifol am roi gwybod yn ffurfiol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir am farciau a gadarnhawyd ar ôl cyfarfod Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol. Gwneir pob ymdrech i hysbysu ymgeiswyr o'u canlyniadau o fewn un wythnos waith ar ôl cynnal Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol.
Y Coleg, Prifysgol Abertawe a fydd yn gyfrifol am y broses hon mewn perthynas â myfyrwyr Y Coleg. Gall myfyrwyr sy'n astudio gyda sefydliadau partner cydweithredol gael hysbysiad ffurfiol o farciau gan y sefydliad partner, yn dilyn cadarnhad gan Brifysgol Abertawe a/neu'r sefydliad partner.
Rhaid i farciau/benderfyniadau a ryddheir fod yn gyfrinachol a chael eu datgelu i'r bobl y mae angen mynediad arnynt ac sydd â hawl i'w gweld yn unig.
Gall myfyrwyr wneud cais i ddilysu cywirdeb marciau a gyhoeddwyd drwy'r Weithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig. Ni all myfyrwyr herio'r marcio, gan fod hyn yn seiliedig ar farn academaidd yn unol â'r meini prawf asesu a ddiffiniwyd.
[1]Pan fydd myfyrwyr yn dechrau eu blwyddyn gyntaf o astudio, dylent wneud hyn o fewn 4 wythnos i ddechrau'r modiwl