Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil.
9.1
Bydd myfyrwyr sy'n ymgeiswyr ar gyfer gradd Doethuriaeth Broffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn cael eu harholi ar gyfer y cyfnod ymchwil fel a ganlyn:
- Traethawd ymchwil sy'n ymgorffori dulliau a chanlyniadau'r prosiect ymchwil, a gyflwynir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol i Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil.
- Arholiad llafar (Viva Voce).
9.2
Y terfyn geiriau ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yw 60,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol neu’r llyfryddiaeth a’r mynegai.
9.3
Caiff y Deon Gweithredol ddirprwyo'r tasgau gweinyddol sy'n ymwneud â chyflwyno ac arholi traethawd ymchwil i aelod o'u staff a bydd hefyd yn enwebu Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Dylai'r Cadeirydd fod yn aelod o staff yr Ysgol sydd â phrofiad priodol nad yw wedi ymwneud yn uniongyrchol â goruchwylio'r myfyriwr fel arall.
9.4
Efallai y bydd y Bwrdd Arholi yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr sefyll arholiad ysgrifenedig.
Y Cyfnod a Addysgir - Dilyniant
9.5
O ran yr elfen a addysgir o'r rhaglen, mae'n ofynnol i fyfyrwyr sefyll arholiadau a chyflwyno aseiniadau erbyn y dyddiadau cau a bennir. Bydd methu sefyll arholiad neu fethu cyflwyno gwaith erbyn y dyddiad penodol yn arwain at gofnodi marc o 0%.
Gall myfyrwyr nad ydynt yn gallu bodloni'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eu gwaith am reswm da, gyflwyno cais i ystyried amgylchiadau esgusodol yn unol â'r polisi Amgylchiadau Esgusodol.
9.6
Y marc pasio ar gyfer pob modiwl a addysgir fydd 50% ac ni fydd unrhyw fethiannau a oddefir.
9.7
Bydd myfyrwyr yn cael un cyfle i wneud iawn am gredydau os byddant yn methu credydau a addysgir.
9.8
Disgwylir i fyfyrwyr wneud iawn am gredydau a fethwyd ar y cyfle nesaf sydd ar gael yn ystod y cyfnod ailsefyll atodol dynodedig.
9.9
Ni chaiff y marc ei gapio mewn achos myfyrwyr sy'n pasio'r modiwl ar ei ail ymgais.
9.10
Bydd methu modiwl(au) ar yr ail ymgais yn golygu bod yr Ysgol yn argymell i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau rhaglenni a addysgir bod y myfyriwr naill ai:
- Yn cael ei orfodi i adael y rhaglen â dyfarniad ymadael os yw'n gymwys, neu
- Yn cael ei orfodi i adael y rhaglen a'r Brifysgol.
Dilyniant o Flynyddoedd 1 i 2 a Blynyddoedd 2 i 3
Mae myfyrwyr sy'n cronni 60 credyd ar y cam cynnydd, yn cymhwyso'n awtomatig i barhau i'r flwyddyn astudio nesaf.
Gall myfyrwyr sy'n cronni 30 credyd ar y cam cynnydd, ond llai na 60 credyd, barhau i'r flwyddyn astudio nesaf, ar yr amod:
- Y bydd yn gwneud iawn am fethu'r modiwl ar y cyfle nesaf sydd ar gael yn ystod y cyfnod ailsefyll atodol dynodedig.
Bydd myfyrwyr sy'n methu 60 credyd ar yr ymgais gyntaf yn cael un cyfle arall i wneud iawn am fethu, yn ystod y cyfnod atodol dynodedig. Bydd parhau i'r flwyddyn ganlynol yn amodol ar ganlyniad llwyddiannus.
Bydd methu modiwl(au) ar yr ail ymgais yn golygu bod yr Ysgol yn argymell i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau rhaglenni a addysgir bod y myfyriwr naill ai:
- Yn cael ei orfodi i adael y rhaglen â dyfarniad ymadael os yw'n gymwys, neu
- Yn cael ei orfodi i adael y rhaglen a'r Brifysgol.
Dilyniant o Flwyddyn 3 (Cyfnod a Addysgir) i Flynyddoedd 4-6 (Cyfnod Ymchwil)
Mae myfyrwyr sy'n cronni 60 credyd ar y cam cynnydd yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i gam ymchwil ei astudiaethau.
- Bydd gofyn i fyfyrwyr sy'n methu cronni 60 credyd ar y cam cynnydd wneud iawn am fethu ar y cyfle nesaf sydd ar gael yn ystod y cyfnod ailsefyll atodol dynodedig.
Er mwyn bod yn gymwys i symud ymlaen o'r Cyfnod a Addysgir i'r Cyfnod Ymchwil, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cronni 180 o gredydau a addysgir.
9.11
Bydd canlyniadau asesiadau ar gyfer yr elfen hyfforddi yn cael eu gweld a’u cymeradwyo gan Fwrdd Arholi'r Gyfadran/yr Ysgol ym mhresenoldeb arholwr allanol y rhaglen a fydd yn cael ei enwebu a’i benodi yn unol â Chôd Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholwyr Allanol. Gall arholwr allanol y rhaglen fod yn gyfrifol, neu’n rhannol gyfrifol, hefyd am raglenni eraill wedi’u haddysgu neu am elfennau rhaglenni ymchwil.
9.12
Bydd cyfarwyddwr y rhaglen yn gyfrifol am gasglu canlyniadau’r elfen a addysgir ac am gyflwyno canlyniadau pob ymgeisydd i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ar gyfer graddau a addysgir.
9.13
Bydd myfyrwyr y mynnir eu bod yn tynnu’n ôl o’r Brifysgol yn cael cyfle i apelio trwy weithdrefnau Prifysgol Abertawe ar Gywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu ei triniaeth ar gyfer Apeliadau Academaidd.