Diben Rheoliadau Academaidd yw sicrhau safonau academaidd i bortffolio rhaglenni a dyfarniadau Prifysgol Abertawe. Mae’r rheoliadau hefyd yn sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu trin yn deg. Mae’n bwysig i’r holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yn y Brifysgol gynefino’u hunain â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd penodol a rhai cyffredinol y Brifysgol, ynghyd â’r rheolau sy’n berthnasol i’w hastudiaethau.
Mae’r cyfeiriadau yn y rheoliadau academaidd ynghylch Cyfadrannau/Ysgolion yn cynnwys ‘Y Coleg, Abertawe’, pan fydd y cyd-destun yn caniatáu, oni nodir yn wahanol yn benodol. Yn yr un modd, mae cyfeiriadau at Ddeoniad Gweithredol Prifysgol Abertawe hefyd yn berthnasol i Gyfarwyddwr Y Coleg/Pennaeth Y Coleg, Prifysgol Abertawe pan fydd y cyd-destun yn caniatáu, oni nodir yn wahanol yn benodol.
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol yn cyd-fynd â’r Côd Ansawdd a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd sef y corff sy’n monitro ac yn cynghori sefydliadau ar safonau ac ansawdd.
Mae Rheoliadau, Polisïau a gwybodaeth academaidd gysylltiedig wrthi'n cael eu hadolygu fel rhan o ailstrwythuro mewnol y Brifysgol sef mynd o saith coleg academaidd i dair cyfadran. O ganlyniad, efallai bydd terminoleg yn amrywio rhwng dogfennau. Byddwch yn amyneddgar wrth i ni wneud y newidiadau hyn.
Rheoliadau Cyffredinol sy'n Berthnasol i Bob Rhaglen Ôl-Raddedig a Addysgir
Rheoliadau Asesu Cyffredinol ar Gyfer Pob Rhaglen Ôl-Raddedig a Addysgir
Tystysgrif Addysg Uwch Ôl-raddedig (PGCertHE)
Diploma Addysg Uwch Ôl-raddedig (PGDipHE)
Graddau Meistr Ôl-Raddedig a Addysgir Safonol
Rheoliadau Rhaglenni Meistr Ôl-raddedig a Addysgir Hyblyg
Rheoliadau Rhaglenni Meistr Ôl-raddedig a Addysgir Estynedig
Rheoliadau Academaidd Galluogi ar gyfer Rhaglenni Meistr ar y Cyd
MSc ar y cyd mewn Cyfrifiadureg (Université Grenoble Alpes)
Rheoliadau a Gweithdrefnau Academaidd ar gyfer yr MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
Rheoliadau a Gweithdrefnau Penodol ar gyfer yr MSc (atodol) mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
Rheoliadau Asesu'r Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC)
LLM mewn Ymarfer y Gyfraith a Drafftio Uwch
Rheoliadau Rhaglenni Cyn-Feistr, Y Coleg, Prifysgol Abertawe
Rheoliadau ar gyfer Myfyrwyr Cysylltiol
(yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio modiwlau, yn hytrach na rhaglen astudio)
Mae atebion i rai Cwestiynau Cyffredin ar gael hefyd ar wefan Sylfaen Wybodaeth Cwestiynau Cyffredin y Brifysgol.