14.1
Rhaid i ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd gael ei gyflwyno'n unol â gofynion y Brifysgol. Caiff Cyfadrannau/Ysgolion ddewis rhwng yr opsiynau canlynol:
- Derbyn copi electronig o'r gwaith.
- Derbyn dau gopi o’r gwaith, mewn rhwymiad meddal, yn ogystal â chopi electronig.
Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion roi gwybod i fyfyrwyr am y dull cyflwyno yn llawlyfr y Gyfadran/yr Ysgol.
Rhaid i bob copi gynnwys:
- Datganiad sy’n nodi bod y gwaith yn cael ei gyflwyno er mwyn bodloni gofynion y radd yn rhannol.
- Crynodeb o’r gwaith, nad yw’n fwy na 300 o eiriau o hyd.
- Datganiad, wedi’i lofnodi gan y myfyriwr, sy’n dangos i ba raddau y mae’r gwaith a gyflwynir yn ganlyniad gwaith ymchwil y myfyriwr ei hun. Dylid cydnabod ffynonellau eraill mewn troednodiadau sy’n cynnwys cyfeiriadau penodol. Dylid atodi llyfryddiaeth lawn i'r gwaith.
- Datganiad, wedi’i lofnodi gan y myfyriwr, sy’n cadarnhau nad yw’r gwaith wedi’i dderbyn eisoes ar gyfer unrhyw radd, ac nad yw’n cael ei gyflwyno mewn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd arall ar yr un pryd â’r radd dan sylw.
- Datganiad wedi'i lofnodi, ynghylch argaeledd y gwaith.
14.2
Bydd cyfarwyddiadau manwl ar gyflwyno gwaith ar gael i myfyrwyr yn y Rheoliadau Academaidd.
14.3
Diffinnir cyflwyno dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fel cyflwyno darn neu ddarnau o waith yn unol â'r gofynion a nodwyd o ran cyflwyno dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (uchod) a dylai'r gwaith a gyflwynir fodloni’r gofynion hefyd (fformat, uchafswm geiriau etc.) a bennwyd gan y Gyfadran/yr Ysgol. Mae gan y Gyfadran/yr Ysgol hawl i benderfynu a yw cyflwyniad yn bodloni'r gofynion hyn ai peidio.
14.4
Fel arfer, y dyddiadau ar gyfer cyflwyno'r darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fydd:
| Myfyrwyr amser llawn: |
|
| Rhaglen Un Flwyddyn |
Blwyddyn ar ôl cofrestru* |
| Myfyrwyr rhan-amser: |
|
| Rhaglen dwy flynedd |
Dwy flynedd ar ôl cofrestru |
| Rhaglen Tair Blynedd: |
Tair blynedd ar ôl cofrestru |
*bydd rhaglenni sydd â strwythur annodweddiadol yn nodi'r dyddiad ar gyfer cyflwyno'r darn neu ddarnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
14.5
Caiff Cyfadran/Ysgol bennu dyddiad cau cynharach ar gyfer cyflwyno gwaith, a rhaid i’r dyddiad hwnnw gael ei gyhoeddi yn llawlyfr y Gyfadran/yr Ysgol.
14.6
Bydd rhaid i fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru yn y Brifysgol nad ydynt yn cyflwyno eu gwaith erbyn y dyddiad cau dynnu'n ôl o'r Brifysgol, a dyfernir Diploma Ôl-raddedig yn gymhwyster ymadael iddynt.
Ni fydd Diploma Ôl-raddedig yn cael ei ddyfarnu pan fydd cyfran helaeth o'r gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol wedi'i derbyn. (Gweler A10)
14.7
Mae gan bob gradd ei chyfnod ymgeisyddiaeth hwyaf posibl (fel yr amlinellir uchod). Bwriad y cyfnod hwyaf posibl yw sicrhau bod myfyrwyr y torrwyd ar draws eu hastudiaethau am ba reswm bynnag yn gallu cwblhau eu gradd. Rhaid i fyfyrwyr geisio cwblhau eu rhaglen erbyn y dyddiadau cau a nodir yn Rheoliad 3 uchod. Bydd ymgeisyddiaeth yn dirwyn i ben (ac felly ni fydd modd arholi’r myfyriwr) os na chwblheir y rhaglen o fewn y terfynau amser a bennir gan y Brifysgol fel yr amlinellir yn Rheoliad 3.